Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Riportio Troseddau

Pryd i Ddeialu 999

Deialwch 999 mewn argyfwng yn unig.

Gall argyfwng fod yn ddigwyddiad lle:

  • Mae rhywun wedi cael anaf difrifol neu mae rhywun mewn perygl o gael anaf difrifol
  • Mae trosedd ar waith ac mae'r drwgdybiedig yn dal i fod yn y lleoliad neu gerllaw

Ein nod yw cyrraedd bob argyfwng ymhen 20 munud.

Caiff pob galwad ei recordio at ddibenion hyfforddi a thystiolaeth.

Rhif Di-Argyfwng

Mewn Argyfwng : 999

Rhif Di-Argyfwng : 101

Y Tu Allan i Ddyfed-Powys: 01267 222020

Rhoi Gwybodaeth yn Ddi-enw

Ffoniwch Crimestoppers ar 0800 555 111

Trais ac Ymosodiad Rhyw

Mae’r penderfyniad i riportio trais yn aml yn un anodd. Os ydych yn penderfynu nad ydych yn barod i riportio’ch ymosodiad i’r heddlu, gall Llwybrau Newydd eich cynorthwyo gyda chyngor cyfrinachol.

Troseddau Casineb

Troseddau yw'r rhain sy’n cael eu cyflawni yn erbyn pobl oherwydd
pwy ydynt - fel arfer am eu bod yn perthyn i leiafrif ethnig neu
grefyddol neu oherwydd eu rhywioldeb. Mae’r ffurflen riportio troseddau casineb yn eich galluogi chi i riportio troseddau casineb i drydydd parti annibynnol.

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Ni chategoreiddir llawer iawn o ymddygiad gwrthgymdeithasol fel
gweithredoedd troseddol, ond nid yw hynny’n golygu bod ganddo damaid
llai o effaith ar fywydau pobl.