Gwybodaeth Ffliw Moch
Cynhyrchwyd diweddariad cymunedol ynghylch ffliw'r moch sy'n helpu grwpiau cymunedol ddeall effaith tebygol ffliw'r moch ar unigolion ac ar eu cymunedau ehangach. Y mae hefyd yn rhoi cyngor i bobl ynghylch sut y gallant ofalu amdanynt eu hunain yn ystod achos o'r ffliw. Bydd y cyngor yn cael ei ddiweddaru'n gyson gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ewch at www.cymru.gov.uk/ffliwmoch
Mae pob asiantaeth yn ardal Dyfed-Powys yn cydweithio i sicrhau ymagwedd gydlynol tuag at sicrhau ein bod yn barod ar gyfer achos o bandemig y ffliw.
Hyd at yr wythnos ddiwethaf roedd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yn cynnal prawf labordy ar bawb a oedd o bosibl wedi dod i gysylltiad â ffliw moch ac a oedd â symptomau. Nawr bod y DU gyfan yn symud tuag at sefyllfa lle mae ffliw moch ar led yn y gymdeithas, bydd llai o bobl yn cael eu profi gan y bydd meddygon yn cymryd yn ganiataol fod unrhyw un sydd â symptomau tebyg i rai ffliw wedi dal ffliw moch.
Anogir pobl iach sydd â symptomau tebyg i ffliw i aros gartref, gwirio’u symptomau ar wefan Galw Iechyd Cymru, ac os ydynt yn dal yn bryderus, i ffonio’u Meddyg Teulu. Ni ddylent fynd i’w meddygfa leol nac i Adran Ddamweiniau ac Achosion rhag ofn iddynt roi’r salwch i bobl eraill, yn enwedig pobl mewn grwpiau risg uchel.
Mae tystiolaeth hyd yma yn awgrymu mai symptomau cymharol ysgafn sydd gan y mwyafrif o bobl sydd wedi dal y ffliw, a gyda gorffwys maent yn well o fewn pump i saith niwrnod.
Rydym yn monitro’r sefyllfa ac yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd yn ei thro’n cydweithio gyda Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, yr Asiantaeth Diogelu Iechyd a Llywodraeth y DU. Mae gan Heddlu Dyfed-Powys gynlluniau parod ac maent yn ymdrin â’r sefyllfa wrth iddi ddatblygu.
Os oes gennych bryderon ynghylch ffliw moch ewch at wefan Galw Iechyd Cymru
Os oes gennych symptomau tebyg i ffliw, arhoswch gartref. Gallwch wirio’ch symptomau trwy ffonio’r Llinell Gymorth ffliw Moch ar 0800 1 513 513. Os ydych yn dal yn bryderus, ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647. Peidiwch â mynd i’ch meddygfa nac i Adran Damweiniau ac Achosion Brys oni bai eich bod yn ddifrifol wael neu’n cael eich cynghori i fynd yno, oherwydd gallech roi’r salwch i bobl eraill.
Ceir cyngor am deithio ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad
Ceir gwybodaeth gefndirol a gwybodaeth bellach ynghylch y salwch ar wefan Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru a gwefan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd
Gallwn i gyd gymryd camau hylendid sylfaenol i leihau lledaeniad unrhyw germau:-
- Gorchuddio’ch trwyn a’ch ceg wrth beswch neu disian, defnyddio hances pan yn bosibl
- Cael gwared â hancesi brwnt yn gyflym ac yn ofalus
- Sicrhau hylendid sylfaenol da, er enghraifft golchi eich dwylo’n aml gyda dŵr a sebon i leihau lledaeniad y firws o’ch dwylo i’ch wyneb ac i bobl eraill
- Glanhau arwynebau caled (e.e. dolennau drysau) yn aml, gan ddefnyddio cynnyrch glanhau arferol
- Helpu eich plant i ddilyn y cyngor hwn
Cofiwch – Ei Ddal, Ei Daflu, Ei Ladd
Hafan