Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor Gwe-lywio
Hygyrchedd

Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Diogelwch a Diogeledd
  3. Trais ac Ymosodiad Rhyw

Trais ac Ymosodiad Rhyw

Rydyn ni’n cymryd agwedd ddifrifol iawn tuag at bob adroddiad o drais ac ymosodiad rhyw, a byddwn yn ymchwilio’n drwyadl i bob un. Rydyn ni eisiau i chi deimlo eich bod yn gallu riportio’r ymosodiad i ni, fel y gallwn ni ddarganfod pwy sy’n gyfrifol ac atal ymosodiad ar rywun arall.

Ar y cyd â Gwasanaeth Erlyn y Goron, rydyn ni’n ymdrechu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i chi.

Os ydych mewn perygl neu os yw eich ymosodwr yn dal yn bresennol, ffoniwch 999.

Chi sydd i benderfynu a ydych am riportio’r ymosodiad i’r heddlu. Gallwch gysylltu â’r Ganolfan Gyfeirio Ymosodiadau Rhyw i gael cymorth a chefnogaeth neu gallwch ffonio’r llinell gymorth.

24/08/10 11:46