Panel Dinasyddion Sir Gâr
Cafodd Panel Dinasyddion Sir Gâr, sy’n fenter ar y cyd rhwng Heddlu Dyfed-Powys, Cyngor Sir Caerfyrddinac Bwrdd Iechyd Hywel Dda , ei sefydlu yn 2001. Mae’r Panel yn cynnwys grŵp cynrychiolaidd o tua 1,000 o drigolion Sir Gaerfyrddin sydd wedi cytuno i roi eu barn am y gwasanaethau a ddarperir gan y partneriaid uchod.
Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.
Pam mae angen Panel Dinasyddion?
Mae pob un o’r partner sefydliadau angen canfod barn y bobl leol am eu gwasanaethau. Pe bai pob un ohonynt yn gwneud hyn ar wahân, byddai hynny’n broses gostus a byddai rhaid gofyn barn trigolion byth a beunydd. Mae pob un o’r partneriaid yn cyfrannu i gostau’r Panel, gan ei wneud yn ffordd fwy cost effeithiol ac effeithlon o ganfod eich barn chi.
A oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod?
Mae canran benodol o'r aelodaeth yn newid bob blwyddyn i sicrhau bod y Panel yn parhau i fod yn gynrychioliadol a hefyd i roi'r cyfle i gynifer o bobl â phosib gymryd rhan.
Os ydych yn byw yn Sir Gâr ac yn dymuno dweud eich dweud am wasanaethau, cynlluniau a chynigion lleol, llenwch ein ffurflen aelodaeth ar-lein yn ddi-oed!
Bydd y rheiny sy'n llenwi ein ffurflen aelodaeth yn mynd trwy’r broses ddethol i sicrhau bod y Panel yn cynrychioli croestoriad o boblogaeth Sir Gaerfyrddin a fydd yn fodd inni gael syniad cytbwys am farn y trigolion.
Beth y mae’n rhaid i aelodau’r Panel ei wneud? Sut y defnyddir y wybodaeth?
Pob blwyddyn, gofynnir i aelodau’r Panel gwblhau 3 holiaduron post am y gwasanaethau a ddarperir gan y partneriaid, a defnyddir yr atebion wrth gynllunio gwasanaethau lleol a phenderfynu sut i’w cyflwyno a materion eraill megis y modd y mae’r partneriaid yn cysylltu â phobl leol.
Oherwydd bod y Panel yn gynrychiolaidd o boblogaeth Sir Gaerfyrddin, gallwn fesur nid yn unig barn trigolion y sir yn gyfan ond hefyd barn trigolion gwahanol ardaloedd daearyddol o fewn y sir.
Canlyniadau
Yn dilyn pob ymarfer ymgynghori, bydd aelodau’r Panel yn derbyn taflen newyddion yn amlinellu canlyniadau’r ymgynghoriad blaenorol ac, yn bwysicach, yn dweud sut y mae’r partneriaid yn bwriadu ymateb i’r farn a fynegwyd.
Contact
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Banel Dinasyddion Sir Gâr, cysylltwch â Zoë Thomas, Rheolwr Prosiect Panel y Dinasyddion ar 01267 226639 neu e-bostiwch zoe.thomas@dyfed-powys.pnn.police.uk.
Hafan