Tîm Plismona Bro Tref Rhydaman, Pontaman a Betws
Blaenoriaethau
- Monitro goryrru ar Heol Pantyffynnon ac ymchwilio i faterion diogelwch ger y groesfan ym Mhenybanc
- Monitro goryrru ar Heol Maescware, Betws
- Cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol o ganlyniad i gamddefnyddio sylweddau ym Mharcyrhun
Beth Rydym Ni Wedi’i Wneud
- Treforis/Parc Tircoed
Dywedodd preswylwyr ei bod wedi tawelu tipyn yn yr ardal. Siaradodd PC Jones â gŵr ifanc o’r ardal ynghylch dringo’r ffens, ac nid yw wedi bod nôl yn yr ardal ers hynny. Mae’r contractwyr bellach wedi gorffen eu gwaith wrth yr afon, felly mae angen siarad â Gareth Howells i ofyn i’r cyngor fynd ymaith â’r hen ffens. - Monitro goryrru ar Heol Pantyffynnon ac ymchwilio i faterion diogelwch ger y groesfan ym Mhenybanc
Mae Cymunedau’n Gyntaf wedi derbyn gohebiaeth gan yr Adran Briffyrdd a’r Asiantaeth Cefnffyrdd yn dweud bod materion yn symud ymlaen, ond yn ddibynnol ar gyllid. Mae PC 88/PCSO 8009 am fynd i Heol Pantyffynnon gyda thrigolion lleol er mwyn monitro cyflymder traffig gyda’r gwn mesur cyflymder. - Monitro goryrru ar Heol Maescware, Betws
Bu’r fan mesur cyflymder yn yr ardal yn gyson, ond nid oes ffigyrau wedi eu rhoi hyd yn hyn. - Materion eraill a drafodwyd
Roedd yn ymddangos fel petai nifer o lorïau nwyddau trymion yn dod lawr o Fynydd Betws. Mae cyfyngiad pwysau ar yr heol, ond roedd y sawl a oedd yn y cyfarfod yn meddwl efallai bod systemau llywio lloeren yn gyrru’r lorïau ar hyd y ffordd anghywir. Bydd rhywun yn siarad â Chyngor Sir Abertawe ynghylch y posibilrwydd o osod arwyddion ar eu hochr nhw o’r ffordd. Roedd y gwter ar y gylchfan ar Heol y Ffowndri’n ymddangos fel petai’n codi oherwydd nifer y traffig. Bydd PC 88 yn cael golwg arno a’n dweud wrth yr Adran Briffyrdd. Roedd yr arwydd ar gyfer yr M4 wrth agosáu at y gylchfan sy’n arwain at Heol y Ffowndri’n drysu gyrwyr a’n arwain rhai i fyny tuag at Fetws. Bydd PC 88 yn edrych ar hyn a’n adrodd nôl. Mae baw cŵn yn parhau i fod yn broblem ym Metws. Mae hi wedi siarad â Chyngor Sir Gaerfyrddin, ac maent yn ymchwilio i’r mater.
Pwy 'di Pwy
Arolygydd Paul Williams
Rhif Coler: -
Ymunodd yr Arolygydd Paul Williams â Heddlu Dyfed Powys ym mis Mehefin 1991. Ar y dechrau, bu’n gweithio yn Llanelli cyn symud i Lwynhendy. Enillodd ddyrchafiad i reng Sarjant yn Rhydaman ym 1996, lle y bu’n gwasanaethau am nifer o flynyddoedd cyn symud yn ôl i ardal Llanelli. Yn 2001 fe’i penodwyd yn Swyddog Hyfforddi ar gyfer Rhanbarth Sir Gaerfyrddin, ac yna pasiodd i fod yn Arolygydd. Cafodd ei ddyrchafu’n Arolygydd Adran yn Llambed yn 2004 cyn symud yn ôl i Gaerfyrddin yn 2006. Treuliodd gyfnod fel Prif Arolygydd dros dro gyda chyfrifoldeb am Adnoddau Dynol yn Rhanbarth Caerfyrddin cyn mynd yn Arolygydd Plismona Bro i Rydaman yn 2008. Yr hyn y mae’n ei hoffi orau am y rôl yw helpu pobl a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned.
Sarjant Teresa Ross
Rhif Coler: 810
Un o drigolion lleol Rhydaman yw Sarjant Teresa Ross. Mae’n briod a ganddi bedwar o blant. Ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys yn 2000, gan weithio yn nhref Caerfyrddin. Aeth ymlaen i weithio fel Ditectif Cwnstabl am dair blynedd, a’i chyfrifoldeb oedd ardal Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei dyrchafu’n Sarjant ym mis Ionawr 2006 ac mae wedi cymhwyso hyd at lefel Arolygydd. Bellach, Teresa yw’r Sarjant lleol ar gyfer Tîm Plismona Bro Rhydaman ac mae’n edrych ymlaen at weithio’n agos â’r cymunedau lle mae hi wedi byw a gwasanaethu fel swyddog yr heddlu.
PC Kevin Jones
Rhif Coler: 88
Cafodd y PC Kevin Jones ei eni a’i fagu yn Sir Fôn ac ymuno â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Gorffennaf 1989. Mae wedi gweithio yn Rhydaman bron trwy gydol ei yrfa, ac eithrio cyfnodau byrion yn Crosshands ac Ystradgynlais. Mae yn awr yn Swyddog Tîm Plismona Bro dros dref Rhydaman a Betws. Dywedodd, “Rwy’n mwynhau cydweithio â phartneriaid a sefydliadau yn y gymuned, busnesau a’r cyhoedd wrth geisio adnabod problemau lleol a mynd i’r afael â nhw er mwyn creu cymuned ddiogel a hyderus.”
PCSO Sharee Treharne
Rhif Coler: 8009
Ymunodd PCSO Sharee Treharne â Heddlu Dyfed-Powys yn Nhachwedd 2004 fel swyddog clerigol yn Adran Weinyddol yr Uned Cyfiawnder Troseddol. Ymunodd fel PCSO ym mis Mawrth 2009 ac mae’n gweithio yng Ngorsaf Heddlu Rhydaman ac yn gyfrifol am y dref, Pontaman, Tir-y-dail, Bonllwyn Betws a Phantffynnon. Mae Sharee’n mwynhau chwarae hoci a phêl-rwyd ac y mae wedi cynrychioli’r sir yn y ddwy gamp yn y gorffennol. Y mae hefyd yn chwarae hoci a phêl-rwyd dros Heddlu Dyfed-Powys. Yn ei gwaith bob dydd mae Sharee’n cefnogi plismona rheng-flaen, ac yn ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd er mwyn tawelu eu meddyliau drwy bresenoldeb yr heddlu.
Cwnstabliaid Gwirfoddol
Rhif Coler: -
SC Dennis Ryan
SC Caitlyn Capper
SC Tim Williams
SC Tracey Evans
SC Sophie Lambert
Cysylltu â'r Tîm
E-bost
AmmanTowyNPT@dyfed-powys.pnn.police.uk
Mae’r cyfeiriad e-bost hwn ar gyfer materion Plismona Bro yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall defnyddiwch ContactCentre@dyfed-powys.pnn.police.uk
Ffôn 101
Os ydych yn gwybod pwy rydych am siarad â nhw, gofynnwch amdanynt wrth eu henw a’u gorsaf. Bydd staff yn gallu cadarnhau os ydynt ar ddyletswydd a’ch cysylltu os ydynt ar gael, neu gymryd neges. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Gorsafoedd Heddlu
Beth Allwch Chi’i Wneud
Mynd i gyfarfodydd plismona bro, riportio troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a Gwarchod Cymdogaeth, ac ymweld â’ch cyngor lleol i gael gwybodaeth am gynlluniau diogelwch cymunedol yn eich ardal chi.
Cyfarfodydd Bro
Dewch i drafod materion cymunedol gyda'ch Tîm Plismona Bro, a manteisio ar y cyfle i ddylanwadu ar eu blaenoriaethau plismona.
Cyfarfodydd PACT (Partneriaid a Chymunedau’n Cydweithio)
- 2Active8, Stryd y Gwynt, Rhydaman ail ddydd Mawrth bob mis am 6.30pm
Cysylltiadau Defnyddiol
Mapiau Trosedd
I weld yr ystadegau troseddu ar gyfer eich ardal leol, ewch i wefan mapio trosedd Dyfed-Powys
Hafan