Tîm Plismona Bro Crosshands
Blaenoriaethau
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol - Penygroes / Heol Singleton a Pharc Y Tymbl
- Pobl ifanc yn ymgynnull ym maes parcio/ar dir Ysgol Gynradd Pontyberem
- Goryrru yn Heol Waterloo a Heol Norton, Penygroes
Beth Rydym Ni Wedi’i Wneud
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mharc y Tymbl
Mae’r tîm wedi patrolio a thargedu’r ardal o ganlyniad i bryderon ynghylch pobl ifanc yn yfed alcohol yn y parc. Ni chanfuwyd bod pobl wedi bod yn yfed alcohol o fewn y parc ac ni atafaelwyd unrhyw alcohol. Siaradwyd â phobl ifanc lleol a’u cynghori ynghylch problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y parc. Aeth y tîm i’r clwb ieuenctid yn y Tymbl a sicrhau bod gweithwyr ieuenctid yn ymwybodol o’r broblem, ac yna gwnaethant gyfrannu at sgwrs grŵp gyda’r bobl ifanc ynghylch peryglon alcohol. - Ymddygiad gwrthgymdeithasol ym maes parcio Neuadd Penygroes
Cynhaliwyd patrolau ychwanegol, yn enwedig gyda’r nos ac ar benwythnosau. Siaradwyd â nifer o bobl ifanc a’u cynghori ynghylch gollwng sbwriel / ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal. Trefnwyd menter ar y cyd rhwng y tîm, Cyngor Sir Gâr ac Ysgol Gynradd Penygroes ar gyfer y 9fed o Fawrth am 10am. Cynhelir diwrnod codi sbwriel ym mhentref Penygroes, gan ganolbwyntio ar faes parcio neuadd y pentref a’r maes chwarae er mwyn datrys y broblem. - Problemau Parcio - Heol y Parc, Cefneithin
Cynhaliwyd patrolau troed ar y darn hwn o’r ffordd - rhoddwyd nifer o daflenni / sticeri ar geir wedi’u parcio’n anghyfreithlon a siaradwyd â nifer o yrwyr hefyd ynghylch hyn. Siaradwyd â pherchennog Dyfed Menswear ac y mae wedi gosod dau arwydd ‘Dim Parcio’ y tu allan i flaen ei siop. Rhoddwyd taflenni ynghylch parcio’r tu allan i’r ysgol i bob rhiant yn Ysgol Gynradd Cefneithin a chynhaliwyd presenoldeb gweledol ar y darn hwn o’r ffordd drwy gydol Chwefror.
Pwy 'di Pwy
Arolygydd Paul Williams
Rhif Coler: -
Ymunodd yr Arolygydd Paul Williams â Heddlu Dyfed Powys ym mis Mehefin 1991. Ar y dechrau, bu’n gweithio yn Llanelli cyn symud i Lwynhendy. Enillodd ddyrchafiad i reng Sarjant yn Rhydaman ym 1996, lle y bu’n gwasanaethau am nifer o flynyddoedd cyn symud yn ôl i ardal Llanelli. Yn 2001 fe’i penodwyd yn Swyddog Hyfforddi ar gyfer Rhanbarth Sir Gaerfyrddin, ac yna pasiodd i fod yn Arolygydd. Cafodd ei ddyrchafu’n Arolygydd Adran yn Llambed yn 2004 cyn symud yn ôl i Gaerfyrddin yn 2006. Treuliodd gyfnod fel Prif Arolygydd dros dro gyda chyfrifoldeb am Adnoddau Dynol yn Rhanbarth Caerfyrddin cyn mynd yn Arolygydd Plismona Bro i Rydaman yn 2008. Yr hyn y mae’n ei hoffi orau am y rôl yw helpu pobl a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned.
Sarjant Mike Melly
Rhif Coler: 771
Mae Sarjant Mike Melly wedi bod gyda’r heddlu ers pymtheg mlynedd, cyfnod a dreuliwyd yn gyfan gwbl yn Sir Gaerfyrddin. Mae’n byw yn Sir Gâr ac mae’n credu bod hynny yn help iddo ddeall y problemau a’r pryderon sy’n bwysig i drigolion yr ardal hon. Gyda chefnogaeth y tîm plismona bro, mae’n gobeithio datblygu proffil y tîm a’r berthynas rhwng y tîm a’r gymuned leol.
PC Tony Davies
Rhif Coler: 525
Ymunodd PC Tony Davies â Heddlu Dyfed Powys ym 1985 ac mae wedi bod yn gweithio yn Crosshands ers 2003. Cychwynnodd yn ei rôl fel heddwas Plismona Bro ym mis Mawrth 2008.
PC Wyn Davies
Rhif Coler: 312
Ymunodd PC Wyn Davies â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Mehefin 1995 ac mae wedi’i leoli yn Rhydaman a Crosshands. Fe ddechreuodd ar ei swydd gyfredol fel swyddog plismona bro ym mis Ionawr 2007.
PCSO Jade Miller
Rhif Coler: 8084
Mae PCSO Jade Miller wedi astudio gwyddorau’r heddlu a bu’n gwnstabl gwirfoddol gyda Heddlu De Cymru am 18 mis.
PCSO Stuart Davies
Rhif Coler: 8061
Ymunodd PCSO Stuart Davies â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Ionawr 2005 fel cwnstabl arbennig. Yna fe ddechreuodd fel PCSO ym mis Ionawr 2007 a bu'n gweithio yng Nghydweli hyd at fis Tachwedd 2007 pan symudodd i adran Crosshands.
Cysylltu â'r Tîm
E-bost
AmmanTowyNPT@dyfed-powys.pnn.police.uk
Mae’r cyfeiriad e-bost hwn ar gyfer materion Plismona Bro yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall defnyddiwch ContactCentre@dyfed-powys.pnn.police.uk
Ffôn 101
Os ydych yn gwybod pwy rydych am siarad â nhw, gofynnwch amdanynt wrth eu henw a’u gorsaf. Bydd staff yn gallu cadarnhau os ydynt ar ddyletswydd a’ch cysylltu os ydynt ar gael, neu gymryd neges. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Gorsafoedd Heddlu
Beth Allwch Chi’i Wneud
Mynd i gyfarfodydd plismona bro, riportio troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a Gwarchod Cymdogaeth, ac ymweld â’ch cyngor lleol i gael gwybodaeth am gynlluniau diogelwch cymunedol yn eich ardal chi.
Cyfarfodydd Bro
Dewch i drafod materion cymunedol gyda'ch Tîm Plismona Bro, a manteisio ar y cyfle i ddylanwadu ar eu blaenoriaethau plismona.
- Neuadd Gyhoeddus Cross Hands am 7pm ar y dydd Iau olaf bob mis
Cymorthfeydd
Siaradwch â’ch heddlu lleol yn gyfrinachol.
- 2il ddydd Mercher o bob mis, Neuadd y Pentref, Pontyberem rhwng 11am - 12pm
- Dydd Mercher diwethaf o bob mis, Neuadd Goffa, Penygroes rhwng 5 - 6pm
- Dydd Iau diwethaf o bob mis, Siop Goffi Co-op rhwng 2 - 3pm
Cysylltiadau Defnyddiol
Mapiau Trosedd
I weld yr ystadegau troseddu ar gyfer eich ardal leol, ewch i wefan mapio trosedd Dyfed-Powys
Hafan