Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor Gwe-lywio
Hygyrchedd

Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Plismona Bro
  3. Sir Gaerfyrddin
  4. Tîm Plismona Bro Llangynnwr a Thregynnwr

Tîm Plismona Bro Llangynnwr a Thregynnwr

Blaenoriaethau

Diweddarwyd: 16/06/10
  1. Parcio y tu allan i Ysgol Llangynnwr
  2. Cerbydau’n goryrru yn Llangynnwr.
  3. Ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Tregynnwr.

Beth Rydym Ni Wedi’i Wneud

Diweddarwyd: 20/05/10
  1. Parcio y tu allan i Ysgol Llangynnwr
    Parheir i fonitro problemau parcio ar draws y Ward o ran rhwystrau. Mae problemau parcio yn ardal Pen y Morfa ger yr ysgol wedi gwella er y bydd rhai adegau pan fydd digwyddiadau ac ymrwymiadau yn y lleoliad yn golygu y bydd cerbydau wedi eu parcio ar y ffordd ar rai adegau. Mae’r ysgol bob amser yn rhagweithiol a chefnogol mewn materion o’r fath, sydd er enghraifft wedi cynnwys anfon llythyrau i bob rhiant ynghylch parcio ar y llinellau igam-ogam melyn. Parheir i fonitro parcio’n gyffredinol ar draws y ward.

Pwy 'di Pwy

Arolygydd Steve Lee

Rhif Coler: -

Ymunodd yr Arolygydd Steve Lee â Heddlu Dyfed Powys ym 1996 ar ôl gweithio yn y diwydiant gwasanaethau cyhoeddus am 19 mlynedd. Bu’n gweithio fel PC yn Rhydaman a Chydweli cyn cael ei ddyrchafu’n Sarjant. Yna, bu’n gweithio yn Llanelli, Llambed a Sanclêr cyn cychwyn yn ei swydd gyfredol fel Arolygydd dros Adran Caerfyrddin Wledig. Dywedodd: “Rwy’n byw yn lleol ac mae’r ffaith fy mod yn gyfarwydd â’r gymuned leol wedi fy helpu i adnabod a delio gyda phryderon a phroblemau'r adran hon. Rwy’n disgwyl ymlaen i ehangu’r cysylltiadau sydd eisoes wedi cael eu ffurfio gyda’r cymunedau lleol a’n partner-asiantaethau, gyda’r bwriad o leihau nifer y troseddau a’r achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac i godi proffil fy nhîm plismona bro.”

Sarjant Steve Glynn

Rhif Coler: 823

Ymunodd Sarjant Steve Glynn â Heddlu Gwent fel Cwnstabl ym 1990, lle y bu’n gwasanaethau am chwe blynedd fel swyddog trin cŵn.   Trosglwyddodd i Heddlu Dyfed-Powys yn 2003, ac aeth i weithio yn Llambed. Yn 2005 cafodd ei ddyrchafu’n Sarjant, ac arhosodd yn Llambed mewn rôl ymateb am gyfnod cyn symud i fod yn Sarjant Plismona Bro yng Nghaerfyrddin yn 2009.  Dywedodd, “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio yn y rôl hon, fydd yn cynnig her newydd i mi.  Rwy’n byw yn lleol ac mae materion plismona’r ardal yn bwysig i fi.  Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gwrdd â phobl a chydweithio’n agos â’r gymuned a’n partner-asiantaethau er mwyn helpu i atal a datrys troseddau a delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol”.

PC Mike Richardson

Rhif Coler: 414

Trosglwyddodd PC Mike Richardson i Heddlu Dyfed-Powys o Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn 2005. Bu’n gweithio yn Aberdaugleddau i ddechrau cyn symud i Gaerfyrddin, ac ar ôl cyfnod yn gweithio gyda dyletswyddau ymateb fe ymgymerodd â'r swydd Swyddog Plismona Bro ar gyfer ardal Llangynnwr a Thregynnwr. Fe ddechreuodd ei yrfa yn y gwasanaeth iechyd cyn ymuno â Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn 2001, lle bu'n gysylltiedig ag amrywiaeth o waith ymateb yr heddlu yn ardal Oldbury yn Smethwick.

PCSO Tomas Milne

Rhif Coler: 8087

Mae PCSO Tom Milne yn dod yn wreiddiol o’r Trallwng; bu’n astudio ym Mhrifysgol Abertawe ac enillodd radd mewn Hanes yn 2007. Mae wedi gweithio yn y sector  manwerthu yng Ngogledd Swydd Amwythig. Mae’n bêl-droediwr a golffiwr brwd, ac yn mwynhau pob math o chwaraeon.  Mae’n disgwyl ymlaen at wneud gwahaniaeth yn ardal Caerfyrddin a bydd yn ceisio mynd i’r afael â phroblemau lleol megis ymddygiad gwrthgymdeithasol a chŵn yn baeddu.  Mae Tom wrth ei fodd yn gweithio yng Nghaerfyrddin ac meddai “Mae gweithio i Heddlu Dyfed Powys yn gyffrous ac rwy’n gobeithio mynd ymlaen i gael gyrfa fel heddwas”.

Cysylltu â'r Tîm

E-bost

CarmarthenTownNPT@dyfed-powys.pnn.police.uk

Mae’r cyfeiriad e-bost hwn ar gyfer materion Plismona Bro yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall defnyddiwch ContactCentre@dyfed-powys.pnn.police.uk

Ffôn 101

Os ydych yn gwybod pwy rydych am siarad â nhw, gofynnwch amdanynt wrth eu henw a’u gorsaf. Bydd staff yn gallu cadarnhau os ydynt ar ddyletswydd a’ch cysylltu os ydynt ar gael, neu gymryd neges. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Gorsafoedd Heddlu

Beth Allwch Chi’i Wneud

Mynd i gyfarfodydd plismona bro, riportio troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a Gwarchod Cymdogaeth, ac ymweld â’ch cyngor lleol i gael gwybodaeth am gynlluniau diogelwch cymunedol yn eich ardal chi.

Cyfarfodydd Bro

Dewch i drafod materion cymunedol gyda'ch Tîm Plismona Bro, a manteisio ar y cyfle i ddylanwadu ar eu blaenoriaethau plismona.

7pm yn Yr Aelwyd yn Nhregynnwr ar 29/07/10 a 30/09/10

Cymorthfeydd

Siaradwch â’ch heddlu lleol yn gyfrinachol.

  • Cymhortha symudol yn archfarchnad Morrisons pob dydd Mercher rhwng 3 a 4pm
  • Cymhorthfa agored yn Yr Aelwyd yn Nhregynnwr pob dydd Llun rhwng 6 and 8pm a phob yn ail ddydd Sadwrn rhwng 4 and 6pm

Mapiau Trosedd

I weld yr ystadegau troseddu ar gyfer eich ardal leol, ewch i wefan mapio trosedd Dyfed-Powys

29/07/10 8:27