Tîm Plismona Bro Llanybydder, Pencarreg a Llanfihangel Ar Arth
Blaenoriaethau
Llanfihangel ar Arth:
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Maescader, Pencader
- Pobl ifanc yn defnyddio mynydd Llanllwni fel trac rasio
Llanybydder:
- Gollwng sbwriel a mân ddifrod ym Mharc Llanybydder
Beth Rydym Ni Wedi’i Wneud
Llanfihangel ar Arth:
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Maescader, Pencader
Ymagwedd amlasiantaethol gydag asiantaethau tai, CCTV a phatrolau llym - Pobl ifanc yn defnyddio mynydd Llanllwni fel trac rasio
Mae’r heddlu’n targedu’r ardal
Llanybydder:
- Gollwng sbwriel a mân ddifrod ym Mharc Llanybydder
Siaradwyd â holl ddisgyblion ysgolion amgylchynol
Pwy 'di Pwy
Arolygydd Steve Lee
Rhif Coler: -
Ymunodd yr Arolygydd Steve Lee â Heddlu Dyfed Powys ym 1996 ar ôl gweithio yn y diwydiant gwasanaethau cyhoeddus am 19 mlynedd. Bu’n gweithio fel PC yn Rhydaman a Chydweli cyn cael ei ddyrchafu’n Sarjant. Yna, bu’n gweithio yn Llanelli, Llambed a Sanclêr cyn cychwyn yn ei swydd gyfredol fel Arolygydd dros Adran Caerfyrddin Wledig. Dywedodd: “Rwy’n byw yn lleol ac mae’r ffaith fy mod yn gyfarwydd â’r gymuned leol wedi fy helpu i adnabod a delio gyda phryderon a phroblemau'r adran hon. Rwy’n disgwyl ymlaen i ehangu’r cysylltiadau sydd eisoes wedi cael eu ffurfio gyda’r cymunedau lleol a’n partner-asiantaethau, gyda’r bwriad o leihau nifer y troseddau a’r achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac i godi proffil fy nhîm plismona bro.”
Sarjant Simon Wright
Rhif Coler: 53
Ymunodd y Sarjant Simon Wright â Heddlu Dyfed Powys ym 1987. Bu’n gwasanaethu fel swyddog mewn iwnifform ym Mhowys, Sir Benfro a Cheredigion yn ogystal â pherfformio rôl Arolygydd Rhanbarthol a rheolwr Uned Datblygiad Proffesiynol Rhanbarth Sir Gaerfyrddin cyn cychwyn fel Sarjant Tîm Plismona Bro ardal Caerfyrddin Wledig. Mae ganddo Radd BA gydag Anrhydedd mewn Gwyddorau’r Heddlu o Brifysgol Morgannwg. Mae Sarjant Wright yn awyddus i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, cyffuriau a throseddau treisgar a’i nod yw gwella hyder cymunedau ardal Caerfyrddin Wledig yn yr heddlu.
PC Rhydian Jones
Rhif Coler: 561
Mae PC Rhydian Jones wedi bod yn heddwas am 21 mlynedd ac ar hyn o bryd ef yw swyddog rhawd Llanybydder, Pencarreg a Llanfihangel ar Arth. Dywed, “Mae’r ffaith fy mod yn gallu siarad Cymraeg yn fy ngalluogi i gyfathrebu gyda’r cyhoedd yn ardaloedd mwy gwledig y rhanbarth.”
PCSO Craig Roderick
Rhif Coler: 8094
Mae Craig Roderick wedi bod yn PCSO ers mis Mawrth 2010 ac mae’n gweithio yn adran Pencader a Chastellnewydd Emlyn. Cyn hynny, roedd yn weithiwr cefnogi oedolion gydag anableddau dysgu ac awstistiaeth. Bu hefyd yn Gwnstabl Gwirfoddol yn Rhydaman am ddwy flynedd a hanner. Meddai Craig “Rwy’n siarad Cymraeg yn rhugl ac rwy’n disgwyl ymlaen at ymgysylltu â’r cyhoedd a gweithio gyda phartner asiantaethau wrth geisio diwallu anghenion a disgwyliadau’r gymuned”.
Cysylltu â'r Tîm
E-bost
CarmarthenRuralNPT@dyfed-powys.pnn.police.uk
Mae’r cyfeiriad e-bost hwn ar gyfer materion Plismona Bro yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall defnyddiwch ContactCentre@dyfed-powys.pnn.police.uk
Ffôn 101
Os ydych yn gwybod pwy rydych am siarad â nhw, gofynnwch amdanynt wrth eu henw a’u gorsaf. Bydd staff yn gallu cadarnhau os ydynt ar ddyletswydd a’ch cysylltu os ydynt ar gael, neu gymryd neges. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Gorsafoedd Heddlu
Beth Allwch Chi’i Wneud
Mynd i gyfarfodydd plismona bro, riportio troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a Gwarchod Cymdogaeth, ac ymweld â’ch cyngor lleol i gael gwybodaeth am gynlluniau diogelwch cymunedol yn eich ardal chi.
Cyfarfodydd Bro
Dewch i drafod materion cymunedol gyda'ch Tîm Plismona Bro, a manteisio ar y cyfle i ddylanwadu ar eu blaenoriaethau plismona.
Cyfarfodydd PACT
Llanybydder -
-
2nd Wednesday of October, December, February, April, June and August at the Aberduar Chapel Vestry, Llanybydder between 6 and 7pm.
-
2nd Wednesday of November, January, March, May, July and September at the Community Centre Playing fields, Cwmann between 6 and 7pm.
Llanfihangel -
-
1st Wednesday of each month at the Pavilion Hall, Pencader between 6 and 7pm.
-
1st Wednesday of October, December, February, April, June and August at the Old Power House, Pontwelly between 7.15 and 8pm.
Cysylltiadau Defnyddiol
Mapiau Trosedd
I weld yr ystadegau troseddu ar gyfer eich ardal leol, ewch i wefan mapio trosedd Dyfed-Powys
Hafan