Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor Gwe-lywio
Hygyrchedd

Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Plismona Bro
  3. Sir Gaerfyrddin
  4. Tîm Plismona Bro Sanclêr, Llanboidy a Threlech

Tîm Plismona Bro Sanclêr, Llanboidy a Threlech

Blaenoriaethau

Diweddarwyd: 08/06/10
  • Sanclêr: Ymddygiad gwrthgymdeithasol gan yrwyr ym maes parcio’r Coach and Horses, Sanclêr

Beth Rydym Ni Wedi’i Wneud

Diweddarwyd: 08/06/10
  • Sanclêr: Ymddygiad gwrthgymdeithasol ym maes parcio’r Coach and Horses
    Cynhaliwyd patrolau troed gweladwy yn yr ardal a siaradwyd â nifer o bobl ifanc. Mae gwasanaethau ieuenctid wedi rhyngweithio gyda phobl ifanc yn yr ardal ac mae galwadau wedi gostwng. 

Pwy 'di Pwy

Arolygydd Steve Lee

Rhif Coler: -

Ymunodd yr Arolygydd Steve Lee â Heddlu Dyfed Powys ym 1996 ar ôl gweithio yn y diwydiant gwasanaethau cyhoeddus am 19 mlynedd. Bu’n gweithio fel PC yn Rhydaman a Chydweli cyn cael ei ddyrchafu’n Sarjant. Yna, bu’n gweithio yn Llanelli, Llambed a Sanclêr cyn cychwyn yn ei swydd gyfredol fel Arolygydd dros Adran Caerfyrddin Wledig. Dywedodd: “Rwy’n byw yn lleol ac mae’r ffaith fy mod yn gyfarwydd â’r gymuned leol wedi fy helpu i adnabod a delio gyda phryderon a phroblemau'r adran hon. Rwy’n disgwyl ymlaen i ehangu’r cysylltiadau sydd eisoes wedi cael eu ffurfio gyda’r cymunedau lleol a’n partner-asiantaethau, gyda’r bwriad o leihau nifer y troseddau a’r achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac i godi proffil fy nhîm plismona bro.”

Sarjant Simon Wright

Rhif Coler: 53

Ymunodd y Sarjant Simon Wright â Heddlu Dyfed Powys ym 1987.  Bu’n gwasanaethu fel swyddog mewn iwnifform ym Mhowys, Sir Benfro a Cheredigion yn ogystal â pherfformio rôl Arolygydd Rhanbarthol a rheolwr Uned Datblygiad Proffesiynol Rhanbarth Sir Gaerfyrddin cyn cychwyn fel Sarjant Tîm Plismona Bro ardal Caerfyrddin Wledig.   Mae ganddo Radd BA gydag Anrhydedd mewn Gwyddorau’r Heddlu o Brifysgol Morgannwg.  Mae Sarjant Wright yn awyddus i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, cyffuriau a throseddau treisgar a’i nod yw gwella hyder cymunedau ardal Caerfyrddin Wledig yn yr heddlu.

PC Martin Skinner

Rhif Coler: 399

Ymunodd PC Martin Skinner â Heddlu Dyfed Powys ym mis Hydref 1988 a bu'n gweithio yn Llanelli yn y lle cyntaf. Fe drosglwyddodd i ranbarth Caerfyrddin ym mis Awst 1994 ac mae wedi’i leoli yn swyddfa heddlu Sanclêr er mis Chwefror 2003. Ymunodd â thîm bro Sanclêr ym mis Hydref 2006, ac ymhlith ei ardaloedd y mae Sanclêr, Llanboidy a Threlech.

PCSO Leighton Tipping

Rhif Coler: 8092

 

Cysylltu â'r Tîm

E-bost

CarmarthenRuralNPT@dyfed-powys.pnn.police.uk

Mae’r cyfeiriad e-bost hwn ar gyfer materion Plismona Bro yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall defnyddiwch ContactCentre@dyfed-powys.pnn.police.uk

Ffôn 101

Os ydych yn gwybod pwy rydych am siarad â nhw, gofynnwch amdanynt wrth eu henw a’u gorsaf. Bydd staff yn gallu cadarnhau os ydynt ar ddyletswydd a’ch cysylltu os ydynt ar gael, neu gymryd neges. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Gorsafoedd Heddlu

Beth Allwch Chi’i Wneud

Mynd i gyfarfodydd plismona bro, riportio troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a Gwarchod Cymdogaeth, ac ymweld â’ch cyngor lleol i gael gwybodaeth am gynlluniau diogelwch cymunedol yn eich ardal chi.

Cyfarfodydd Bro

Dewch i drafod materion cymunedol gyda'ch Tîm Plismona Bro, a manteisio ar y cyfle i ddylanwadu ar eu blaenoriaethau plismona.

Cyfarfodydd PACT

  • Canolfan Hamdden Sanclêr am 7pm, ar y 4ydd dydd Mawrth o’r mis, bob yn ail fis - Mawrth, Mai, Gorffennaf, Medi, Tachwedd 2010

Mapiau Trosedd

I weld yr ystadegau troseddu ar gyfer eich ardal leol, ewch i wefan mapio trosedd Dyfed-Powys

29/07/10 8:27