Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor Gwe-lywio
Hygyrchedd

Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Plismona Bro
  3. Ceredigion
  4. Panel Dinasyddion Ceredigion

Panel Dinasyddion Ceredigion

Mae Panel Dinasyddion Ceredigion yn fenter ar y cyd rhwng Heddlu Dyfed-Powys, Cyngor Sir Ceredigion a Fwrdd Iechyd Hywel Dda. Mae’r Panel yn cynnwys grŵp cynrychiolaidd o tua 600 o drigolion Sir Ceredigion sydd wedi cytuno i roi eu barn am y gwasanaethau a ddarperir gan y partneriaid uchod.

In order to view or download PDF files you need to have Adobe reader software. A free copy of this Adobe Reader can be downloaded from the Adobe Website.

Pam mae angen Panel Dinasyddion?

Mae pob un o’r partner sefydliadau angen canfod barn y bobl leol am eu gwasanaethau. Pe bai pob un ohonynt yn gwneud hyn ar wahân, byddai hynny’n broses gostus a byddai rhaid gofyn barn trigolion byth a beunydd. Mae pob un o’r partneriaid yn cyfrannu i gostau’r Panel, gan ei wneud yn ffordd fwy cost effeithiol ac effeithlon o ganfod eich barn chi.

A oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod?

Os ydych yn byw yn Sir Ceredigion ac yn dymuno dweud eich dweud am wasanaethau, cynlluniau a chynigion lleol, llenwch ein ffurflen aelodaeth ar-lein yn ddi-oed!

Bydd y rheiny sy'n llenwi ein ffurflen aelodaeth yn mynd trwy’r broses ddethol i sicrhau bod y Panel yn cynrychioli croestoriad o boblogaeth Sir Gaerfyrddin a fydd yn fodd inni gael syniad cytbwys am farn y trigolion.

Beth y mae’n rhaid i aelodau’r Panel ei wneud?

Pob blwyddyn, gofynnir i aelodau’r Panel gwblhau 3 holiaduron post am y gwasanaethau a ddarperir gan y partneriaid, a defnyddir yr atebion wrth gynllunio gwasanaethau lleol a phenderfynu sut i’w cyflwyno a materion eraill megis y modd y mae’r partneriaid yn cysylltu â phobl leol.

Oherwydd bod y Panel yn gynrychiolaidd o boblogaeth Sir Ceredigion, gallwn fesur nid yn unig barn trigolion y sir yn gyfan ond hefyd barn trigolion gwahanol ardaloedd daearyddol o fewn y sir.

Canlyniadau

Yn dilyn pob ymarfer ymgynghori, bydd aelodau’r Panel yn derbyn taflen newyddion yn amlinellu canlyniadau’r ymgynghoriad blaenorol ac, yn bwysicach, yn dweud sut y mae’r partneriaid yn bwriadu ymateb i’r farn a fynegwyd.

Cyswllt

Yn siarad CymraegOs hoffech gael rhagor o wybodaeth am Banel Dinasyddion Sir Ceredigion, cysylltwch â Hannah Symons, Swyddog Ymchwil Panel y Dinasyddion ar 01267 226262 neu e-bostiwch hannah.symons@dyfed-powys.pnn.police.uk.

29/07/10 8:27