Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor Gwe-lywio
Hygyrchedd

Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Plismona Bro
  3. Ceredigion
  4. Panel Dinasyddion
  5. Gwahoddiad i Ymgynghori ag Aelodau o’r Cyhoedd Trwy Gyfrwng y Paneli Dinasyddion

Gwahoddiad i Ymgynghori ag Aelodau o’r Cyhoedd Trwy Gyfrwng y Paneli Dinasyddion

Mentrau ar y cyd rhwng y Cyngor, yr Heddlu a Bwrdd Iechyd Hywel Dda yw’r Paneli Dinasyddion.  Yn Sir Benfro, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro hefyd yn bartner.

Mae’r Paneli yn darparu cyfleoedd ymgynghori cost-effeithiol a blaengar ar gyfer  sefydliadau ledled ardal Dyfed-Powys, ac fe’u sefydlwyd i alluogi’r partneriaid i ddarganfod beth yn union y mae’r bobl leol yn meddwl am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt.

Mae pob panel yn cynnwys oddeutu 1,000 o drigolion lleol, sy’n cynrychioli poblogaeth y sir yn fras.  Mae'r Panel yn ymgynghori ynghylch y gwasanaethau a ddarperir gan y partneriaid a materion sydd o bwys yn lleol.  Gofynnir i'r aelodau lenwi tri holiadur trwy’r post neu ar-lein y flwyddyn. 

Os hoffai eich sefydliad wybod mwy am sut y gallech chi ymgynghori ag aelodau’r cyhoedd mewn ffordd gost-effeithiol trwy ein Paneli Dinasyddion, cysylltwch â Hannah Symons, Swyddog Ymchwil Panel y Dinasyddion ar 01267 226262 neu e-bostiwch hannah.symons@dyfed-powys.pnn.police.uk

24/08/10 11:46