Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Dweud Eich Dweud

Dweud Eich Dweud LogoTra bod gennym broses ffurfiol ar gyfer ymgynghori a’r cyhoedd a budd-ddeiliaid allweddol eraill i’n helpu i osod blaenoriaethau plismon lleol a blaenoriaethau’r Heddlu a’r Awdurdod, rydym hefyd yn defnyddio dulliau ymgynghori anffurfiol. 

Rydym yn credu ei bod yn bwysig cynnal trafodaeth agored a pharhaus er mwyn canfod eich barn chi am y gwasanaeth a ddarperir gennym.

Rydym yn defnyddio twitter.com/dafyddp a facebook.com/DafyddP i gynnal sgyrsiau anffurfiol a chasglu adborth a sylwadau.

Er nad yw’r wybodaeth hon yn rhan o broses ymgynghori ffurfiol yr Heddlu a’r Awdurdod mae’n rhoi ciplun gwerthfawr o farn y cyhoedd.

Ymgynghoriadau Gweithredol

Fel rhan o’r broses ymgynghori ffurfiol, ar hyn o bryd, rydym yn ceisio’ch barn ar:
 
Arolwg Adborth : Mae’r Adroddiad Blynyddol a’r Crynodebau Plismona Lleol nawr ar gael ar-lein. Cwblhewch yr holiadur hwn er mwyn rhoi eich adborth ar y dyluniad newydd a chynnwys y dogfennau hyn.

Blaenoriaethau Plismona ar gyfer 2012/13: Byddwch yn rhan o’r broses o osod blaenoriaethau plismona ar gyfer 2012/13 drwy gwblhau holiadur byr. Dyma un ffordd o sicrhau fod yr arian rydych chi’n ei gyfrannu tuag at blismona drwy’ch Treth Cyngor yn cael ei wario yn y meysydd sydd bwysicaf i chi.

Cymryd Rhan – Dweud Eich Dweud:  Mae’r safbwyntiau a roddir gennych yn dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn gweithio ac ar ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gennym. Mae’ch barn chi yn bwysig, felly cofrestrwch eich diddordeb mewn bod yn rhan o waith ymgynghori Heddlu Dyfed-Powys yn y dyfodol.