Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Let us know what you think
Page Content Starts Here

Panel Dinasyddion

Beth yw’r Paneli Dinasyddion?

Mentrau ar y cyd rhwng Heddlu Dyfed-Powys, y Cyngor a Bwrdd Iechyd Hywel Dda yw’r Paneli Dinasyddion. Yn Sir Benfro, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn bartner, ac rydym hefyd yn ymgysylltu â Phanel Dinasyddion Cyngor Powys yn flynyddol.

Mae’r Paneli yn cynrychioli grwpiau o drigolion sydd wedi cytuno i fynegi eu barn am y gwasanaethau a ddarperir gan y partner sefydliadau ym mhob sir.

Pam mae angen Panel Dinasyddion?

Mae pob un o’r partner sefydliadau angen canfod barn y bobl leol am eu gwasanaethau. Pe bai pob un ohonynt yn gwneud hyn ar wahân, byddai hynny’n broses gostus a byddai rhaid gofyn barn trigolion byth a beunydd. Mae pob un o’r partneriaid yn cyfrannu i gostau’r Panel, gan ei wneud yn ffordd fwy cost effeithiol ac effeithlon o ganfod eich barn chi.

A oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod?

Os ydych yn byw yn Sir Gâr, Sir Ceredigion, Sir Benfro neu Sir Powys ac yn dymuno dweud eich dweud am wasanaethau, cynlluniau a chynigion lleol, llenwch ein ffurflen aelodaeth ar-lein yn ddi-oed!

Bydd y rheiny sy'n llenwi ein ffurflen aelodaeth yn mynd trwy’r broses ddethol i sicrhau bod y Panel yn cynrychioli croestoriad o boblogaeth pob un o’r siroedd, a fydd yn fodd inni gael syniad cytbwys am farn y trigolion. Mae canran benodol o'r aelodaeth yn newid bob blwyddyn i sicrhau bod y Panel yn parhau i fod yn gynrychioliadol a hefyd i roi'r cyfle i gynifer o bobl â phosib gymryd rhan.

Beth y mae’n rhaid i aelodau’r Panel ei wneud?

Pob blwyddyn, gofynnir i aelodau’r Panel gwblhau 3 holiadur post neu ar-lein am y gwasanaethau a ddarperir gan y partneriaid, a defnyddir yr atebion wrth gynllunio gwasanaethau lleol a phenderfynu sut i’w cyflwyno, a materion eraill megis y modd y mae’r partneriaid yn cysylltu â phobl leol. Oherwydd bod y Panel yn cynrychioli poblogaeth pob sir yn fras, gallwn fesur nid yn unig barn trigolion y sir yn gyfan ond hefyd barn trigolion gwahanol ardaloedd daearyddol o fewn y sir.

Canlyniadau - Sut y defnyddir y wybodaeth?

Yn dilyn pob ymarfer ymgynghori, Mae ymatebion holl Aelodau'r Panel yn cael eu dadansoddi ac yna mae adroddiadau'n cael eu hanfon yn uniongyrchol at yr holl bartneriaid. Rydym yn crynhoi’r canfyddiadau hyn yn ein llythyrau newyddion, a hefyd yn rhoi diweddariad i chi ar y camau a gymerwyd gan y partneriaid neu’n rhoi gwybod i chi pa ddefnydd a wnaed neu a wneir o’r wybodaeth.