Panel Dinasyddion Sir Gâr
Cafodd Panel Dinasyddion Sir Gâr, sy’n fenter ar y cyd rhwng Heddlu Dyfed-Powys, Cyngor Sir Caerfyrddinac Bwrdd Iechyd Hywel Dda , ei sefydlu yn 2001. Mae’r Panel yn cynnwys grŵp cynrychiolaidd o tua 1,000 o drigolion Sir Gaerfyrddin sydd wedi cytuno i roi eu barn am y gwasanaethau a ddarperir gan y partneriaid uchod.
Pam mae angen Panel Dinasyddion?
Mae pob un o’r partner sefydliadau angen canfod barn y bobl leol am eu gwasanaethau. Pe bai pob un ohonynt yn gwneud hyn ar wahân, byddai hynny’n broses gostus a byddai rhaid gofyn barn trigolion byth a beunydd. Mae pob un o’r partneriaid yn cyfrannu i gostau’r Panel, gan ei wneud yn ffordd fwy cost effeithiol ac effeithlon o ganfod eich barn chi.
Beth y mae’n rhaid i aelodau’r Panel ei wneud?
Pob blwyddyn, gofynnir i aelodau’r Panel gwblhau 3 holiadur post neu ar-lein am y gwasanaethau a ddarperir gan y partneriaid, a defnyddir yr atebion wrth gynllunio gwasanaethau lleol a phenderfynu sut i’w cyflwyno, a materion eraill megis y modd y mae’r partneriaid yn cysylltu â phobl leol. Oherwydd bod y Panel yn cynrychioli poblogaeth pob sir yn fras, gallwn fesur nid yn unig barn trigolion y sir yn gyfan ond hefyd barn trigolion gwahanol ardaloedd daearyddol o fewn y sir.
Canlyniadau - Sut y defnyddir y wybodaeth?
Yn dilyn pob ymarfer ymgynghori, Mae ymatebion holl Aelodau'r Panel yn cael eu dadansoddi ac yna mae adroddiadau'n cael eu hanfon yn uniongyrchol at yr holl bartneriaid. Rydym yn crynhoi’r canfyddiadau hyn yn ein llythyrau newyddion, a hefyd yn rhoi diweddariad i chi ar y camau a gymerwyd gan y partneriaid neu’n rhoi gwybod i chi pa ddefnydd a wnaed neu a wneir o’r wybodaeth.


