Dod yn Aelod o Banel Dinasyddion Sir Gâr
Mae cyfran o’r aelodau’n cael ei newid yn flynyddol rhag i’r Paneli beidio â bod yn gynrychiadol ac er mwyn sicrhau fod cynifer o bobl â phosib yn cael cyfle i gymryd rhan. Os ydych chi’n byw yn Sir Gaerfyrddin ac am leisio eich barn am wasanaethau, cynlluniau a chynigion lleol, llenwch ein ffurflen aelodaeth os gwelwch yn dda.
Nid yw’r ffaith eich bod yn gweithio i Heddlu Dyfed-Powys, y Cyngor, y Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG yn eich atal rhag ymuno â’r Paneli. Fodd bynnag os ydych yn Uwch Reolwr neu’n aelod o Awdurdod yr Heddlu, gofynnir i chi beidio â gwneud cais am aelodaeth oherwydd eich safle uchel o fewn y sefydliad.
Noder os gwelwch yn dda: Cedwir y wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen hon am 2 flynedd yn unig ac fe’i defnyddir at bwrpas y Panel Dinasyddion yn unig a chaiff ei thrin yn hollol gyfrinachol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data, hynny yw, ni chaiff ei rhannu gydag unrhyw drydydd parti. Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn rheoleiddio casglu, storio, prosesu a datgelu data personol a hefyd yn rhoi hawliau i unigolion y cofnodir gwybodaeth amdanynt.
Bydd y wybodaeth yn cael ei rheoli gan Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglyn â’ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch os gwelwch yn dda â Swyddog Diogelu Data Heddlu Dyfed-Powys ar 0845 330 2000.


