Gwahoddiad i Ymgynghori ag Aelodau o’r Cyhoedd Trwy Gyfrwng y Paneli Dinasyddion
Mentrau ar y cyd rhwng y Cyngor, yr Heddlu a Bwrdd Iechyd Hywel Dda yw’r Paneli Dinasyddion. Yn Sir Benfro, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro hefyd yn bartner.
Mae’r Paneli yn darparu cyfleoedd ymgynghori cost-effeithiol a blaengar ar gyfer sefydliadau ledled ardal Dyfed-Powys, ac fe’u sefydlwyd i alluogi’r partneriaid i ddarganfod beth yn union y mae’r bobl leol yn meddwl am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt.
Mae pob panel yn cynnwys oddeutu 1,000 o drigolion lleol, sy’n cynrychioli poblogaeth y sir yn fras. Mae'r Panel yn ymgynghori ynghylch y gwasanaethau a ddarperir gan y partneriaid a materion sydd o bwys yn lleol. Gofynnir i'r aelodau lenwi tri holiadur trwy’r post neu ar-lein y flwyddyn.
Os hoffai eich sefydliad wybod mwy am sut y gallech chi ymgynghori ag aelodau’r cyhoedd mewn ffordd gost-effeithiol trwy ein Paneli Dinasyddion, cysylltwch â Zoë Thomas, Rheolwr Prosiect y Paneli Dinasyddion ar 01267 226639 neu anfonwch e-bost at zoe.thomas@dyfed-powys.pnn.police.uk


