Panel Dinasyddion - Recriwtio
Recriwtio
Mae cyfran o’r aelodau’n cael ei newid yn flynyddol rhag i’r Paneli
beidio â bod yn gynrychiadol ac er mwyn sicrhau fod cynifer o bobl â
phosib yn cael cyfle i gymryd rhan. Os ydych chi’n byw yn Sir
Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro neu Powys ac am leisio eich barn
am wasanaethau, cynlluniau a chynigion lleol, llenwch y ffurflen gais a
welwch yno.
Nid yw’r ffaith eich bod yn gweithio i Heddlu Dyfed-Powys, y Cyngor, Bwrdd Iechyd Hywel Dda neu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn eich atal rhag ymuno â’r Paneli. Fodd bynnag os ydych yn uwch reolwr neu’n aelod o Awdurdod yr Heddlu, gofynnir i chi beidio â gwneud cais am aelodaeth oherwydd eich safle uchel o fewn y sefydliad.
- Panel Dinasyddion Sir Gâr - Recriwtio
- Panel Dinasyddion Ceredigion - Recriwtio
- Panel Dinasyddion Sir Benfro - Recriwtio
- Panel Dinasyddion Powys - wefan Cyngor Sir Powys
Noder os gwelwch yn dda: Cedwir y wybodaeth a
ddarperir ar y ffurflen hon am 2 flynedd yn unig ac fe’i defnyddir at
bwrpas y Panel Dinasyddion yn unig a chaiff ei thrin yn hollol
gyfrinachol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data, hynny yw, ni chaiff ei
rhannu gydag unrhyw drydydd parti. Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn
rheoleiddio casglu, storio, prosesu a datgelu data personol a hefyd yn
rhoi hawliau i unigolion y cofnodir gwybodaeth amdanynt.
Bydd y wybodaeth yn cael ei rheoli gan Brif
Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglyn
â’ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch os gwelwch yn dda â Swyddog
Diogelu Data Heddlu Dyfed-Powys ar 101 (neu 01267 222020 y tu allan i
ardal Dyfed Powys).


