Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Strategaeth Gorfforaethol ar Gyfer Ymgyslltu ac Ymgynghori Cymunedol 2008-2011

Pwrpas y strategaeth hon yw darparu fframwaith cyffredin ar gyfer gweithgarwch ymgynghori
ac ymgysylltu cymunedol effeithiol ar draws ardal Dyfed Powys. Bydd hyn yn cynnwys
gweithgarwch o du’r Heddlu a’r Awdurdod yn unig, yn ogystal â’r hyn sy’n cynnwys
partneriaid strategol allweddol. Mae’r ddogfen yn rhagosod nifer o nodau ac amcanion
penodol a fydd yn cael eu cyflenwi ar y cyd gan yr Heddlu a’r Awdurdod, rhwng 1 Ebrill 2008
a 31 Mawrth 2011. Mae’r strategaeth wedi’i datblygu’n benodol i ehangu hygyrchedd a dewis
yn y prosesau ymgysylltu ac ymgynghori cymunedol. Fel y cyfryw, mae’n ffurfio rhan
annatod o ymrwymiad yr Heddlu a’r Awdurdod i fewnosod a chynnal plismona bro ar draws
ardal yr Heddlu wrth gyflenwi gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar anghenion y cwsmer yn
hytrach na chyfleustra’r darparydd.

Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.