Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Ymgynghori

Mae ymgynghori gyda’r cyhoedd a budd-ddeiliaid allweddol eraill yn elfen allweddol o’r broses o bennu blaenoriaethau plismona lleol ar gyfer yr Heddlu a’r Awdurdod.

Sut Rydym yn Ymgynghori

Wyneb yn Wyneb

Bob blwyddyn mae tîm o ymchwilwyr – ynghyd â swyddogion lleol, Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu ac aelodau’r Awdurdod – yn ymweld â lleoliadau ar draws ardal yr heddlu. Maent yn cynnal cyfweliadau ag aelodau o’r cyhoedd i gael gwybod eu barn am wasanaethau plismona a lefelau trosedd. Gallwch weld y canlyniadau diweddaraf ar Ymgyngoriad Allanol 2009/10.

Rhai sy’n Dioddef Trosedd

Dosberthir ffurflenni arolwg i rai sydd wedi dioddef digwyddiadau hiliol, trosedd treisgar a byrgleriaeth a’r rhai sydd wedi bod mewn gwrthdrawiadau traffig y ffordd, ynghyd â phobl sy’n adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac eithrio rhai sydd wedi dioddef digwyddiadau arbennig o sensitif. Yn ogystal â chasglu barn dioddefwyr ynghylch eu profiad o’r heddlu, bwriad yr ymgynghoriad yw casglu barn ehangach ar yr hyn a ddylid osod yn flaenoriaethau i’r Heddlu yn y dyfodol. Gall swyddogion sy’n perfformio llawer yn uwch neu sy’n disgyn yn is na’r safonau disgwyliedig gael eu tynnu i sylw rheolwyr lleol.

Cynghorau Tref a Sir

Mae Awdurdod yr Heddlu yn arolygu holl gynghorau tref a sir ar draws ardal yr Heddlu. Gofynnir iddynt nodi’r pedwar blaenoriaeth allweddol ar gyfer eu cymunedau yn y flwyddyn i ddod. I weld canlyniadau’r arolwg ewch at y Cynllun Plismona Lleol.

Grwpiau Hyder a Chydraddoldeb

Mae gan yr heddlu bedwar Grŵp Hyder a Chydraddoldeb sy’n ein galluogi i gael adborth pwysig o grwpiau lleiafrifol yn ein cymunedau lleol. Mae’r grwpiau hyn yn caniatáu i Swyddogion Diogelwch Cymunedol, uwch reolwyr ac aelodau’r Awdurdod gyfarfod yn gyson â grwpiau a all gael eu diystyrru gan ddulliau ymgynghori eraill, megis pobl ifanc, pobl ag anableddau, pobl sy’n hoyw, yn lesbiaid, yn ddeurywiol neu’n drawsrywiol a phobl o gymunedau ethnig lleiafrifol gweledol. Mae cynrychiolwyr o sefydliadau megis Cymorth i Ddioddefwyr, Cymorth i Ferched, Cymorth i’r Henoed a’r gymuned Fwslemaidd hefyd yn mynychu’r grwpiau.

Grwpiau Ffocws Rhithwir

Mae’r heddlu’n defnyddio dau Grŵp Ffocws Rhithwir i gasglu barn pobl ar drosedd a blaenoriaethau plismona. Mae un grŵp yn canolbwyntio’n benodol ar bobl ifanc.

I ddod yn aelod, cyflawnwch eich manylion trwy clicio yma.

Paneli Dinasyddion

Sefydlwyd Paneli Dinasyddion yn Sir Gâr, Sir Ceredigion a Sir Benfro, yn arolygu corff sy'n cynrychioli demograffeg y boblogaeth leol drwy gydol y flwyddyn. Rydym hefyd yn ymgysylltu â Phanel Dinasyddion Cyngor Powys yn flynyddol. Mae'r Paneli'n fenter ar y cyd rhwng y Cyngor, yr Heddlu, a Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Yn Sir Benfro, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn bartner. Porthir canlyniadau yn ôl i'r sefydliadau i'w cynorthwyo i ffurfio polisïau ac i ddyrannu adnoddau. Mae aelodau'r panel yn derbyn diweddariadau cyson ar ganlyniad yr ymghynghoriad. I gael mwy o wybodaeth ewch at y Paneli Dinasyddion.