Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Eich Ardal Chi

Fel Heddlu, rydym yn falch o’n hymagwedd gymunedol tuag at blismona. Rydym yn gweithio gyda’n cymunedau ac asiantaethau eraill priodol er mwyn ymateb i anghenion lleol a datrys materion sy’n bwysig i’n preswylwyr. I ni, yr hyn sy’n bwysig yw bod gwasanaethau lleol yn ymateb i anghenion lleol, gan gynnwys a defnyddio’r bobl iawn er mwyn gwneud i bethau digwydd.

Mae gan bob cymdogaeth dîm o swyddogion penodol sydd yn gweithio gydag eraill er mwyn darparu gwasanaeth lleol sydd wedi ei deilwra ar gyfer anghenion a materion lleol. Gallwch gysylltu â nhw er mwyn rhoi gwybod iddynt am y materion a’r problemau diogelwch cymunedol rydych chi’n credu y dylid mynd i’r afael â nhw yn yr ardal lle rydych yn byw.

Rydym am sicrhau fod gennym bresenoldeb hygyrch yn ein cymunedau, boed hynny’n swyddog ar y bît, gwasanaeth 999 mewn argyfwng neu 101 pan nad yw’n argyfwng, a chyfarfodydd PACT yn eich pentref. Gallwch hyd yn oed gysylltu â ni yn rhyngweithiol trwy twitter www.twitter.com/dafyddp a facebook www.facebook.com/dafyddp