Yfed dan oed yn nhref Llanfair-ym-muallt ar y penwythnosau
Gweithio ochr yn ochr ag Adran Safonau Masnachu Powys a’r Swyddog Trwyddedu er mwyn mynd i’r afael â phobl ifanc yn prynu ac yfed alcohol dan oed.
14/02/11 - Mae’r Heddlu wedi bod yn targedu yfwyr dan oed yn sgil cwynion gan drigolion a thrwyddedigion lleol. Un noson cymerwyd cyflenwad sylweddol o alcohol oddi wrth bobl ifanc yn ardal y Gro. Bydd yr Heddlu’n parhau i dargedu’r broblem hon. Mae’r ymgyrch hon yn cael ei chefnogi gan y trwyddedigion lleol.
14/03/11 - Mae’r heddlu wedi cytuno i dargedu pobl ifanc sy’n yfed dan oed. Mae rhagor o alcohol wedi ei gymryd oddi wrth bobl ifanc ers yr adroddiad diwethaf, a bydd yr heddlu’n parhau i dargedu’r broblem hon. Cefnogir yr ymgyrch hon gan drwyddedigion lleol, ac ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda’r adran drwyddedu a safonau masnachu.
12/05/11 - Eto, mae’r broblem hon yn rhywbeth a fydd yn cael ei monitro dros fisoedd yr haf, fodd bynnag, nid ydym wedi derbyn unrhyw gwynion yn ddiweddar.
13/06/11 - Bydd y broblem hon hefyd yn cael ei monitro dros fisoedd yr haf, ond ni dderbyniwyd unrhyw gwynion yn ddiweddar.
14/07/11 - Cynhaliwyd cyfarfod yn ddiweddar er mwyn trafod materion trwyddedu yn y cyfnod yn arwain i fyny at y Sioe Frenhinol. Mae pob daliwr trwydded wedi derbyn gwybodaeth gan yr heddlu a’r adran Safonau Masnachu mewn perthynas â hyn. Dywedwyd wrthynt y byddai’n rhaid iddynt ofyn am ID, ac i beidio â gwerthu alcohol iddynt os nad oes ganddynt ID. Dywedwyd wrthynt y byddai prynwyr prawf yn galw dros fisoedd yr haf. Byddwn hefyd yn cynnal patrolau rheolaidd o fewn tref Llanfair-ym-Muallt ac mewn adeiladau trwyddedig, a byddwn yn ymdrin ag unrhyw faterion yn briodol.
17/08/11 - Atafaelwyd nifer o gardiau adnabod gan drwyddedigion yn ystod wythnos y Sioe Frenhinol - y rhan fwyaf ohonynt wrth bobl ifanc a oedd yn ymweld â’r dref yn ystod y sioe. Nid yw’r heddlu wedi derbyn adroddiadau pellach ynghylch y mater hwn yn ystod y mis diwethaf.
21/02/2012 - Mae’r broblem o yfed dan oed ar benwythnosau yn Llanfair-ym-Muallt wedi codi unwaith eto. Mae gan swyddogion trwyddedu drefniadau mewn lle i gynnal profion prynu mewn eiddo trwyddedig lleol. Ymddengys drwy batrolau bod nifer o bobl ifainc yn cael alcohol adref cyn mynd allan. Byddaf yn ystyried datganiad i’r wasg addysgiadol yn apelio am oruchwyliaeth rhieni.
21/02/2012 - Mae’r broblem o yfed dan oed ar benwythnosau yn Llanfair-ym-Muallt wedi codi unwaith eto. Mae gan swyddogion trwyddedu drefniadau mewn lle i gynnal profion prynu mewn eiddo trwyddedig lleol. Ymddengys drwy batrolau bod nifer o bobl ifainc yn cael alcohol adref cyn mynd allan. Byddaf yn ystyried datganiad i’r wasg addysgiadol yn apelio am oruchwyliaeth rhieni.


