Ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig ag alcohol gyda’r nos ar Ffordd y Coleg, o Brifysgol y Drindod i Ysgol Model.
Bydd e-bost yn cael ei anfon i bob myfyriwr fel eu bod yn ymwybodol o natur y cwynion a godwyd gan y gymuned. Cynnal mwy o batrolau yn yr ardal yn ystod yr oriau brig y soniwyd amdanynt gan aelodau’r gymuned.
03/02/11 - Cysylltwyd â’r Brifysgol er mwyn eu diweddaru ynghylch y materion a godwyd gan aelodau o’r gymuned.
08/04/11 - Cynhaliwyd patrolau ymddygiad gwrthgymdeithasol cyson yn ardal y Brifysgol a’r llwybrau yn ôl i’r campws o dref Caerfyrddin. Anfonwyd e-bost gan PC 1011 Payne at Mr David Doyle, Swyddog Llety’r Brifysgol, i’w anfon ymlaen i bob myfyriwr. Cyswllt agos rhwng yr Heddlu ac Is-lywydd Undeb y Myfyrwyr, Hannah Nash, mewn perthynas ag ymddygiad myfyrwyr. Aeth heddlu i ymgyrch ymwybyddiaeth alcohol a gynhaliwyd yn Undeb y Myfyrwyr. Bwriad yr ymgyrch oedd addysgu myfyrwyr am effeithiau alcohol ar eu hymddygiad, a sut y mae pobl y tu allan i’r gymuned myfyrwyr yn gweld hynny.


