Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Patrolling in Ceredigion
Page Content Starts Here

Ceredigion

Ceredigion Division

Gwybodaeth am Geredigion

Mae Ceredigion yn un o’r siroedd mwyaf yng Nghymru. Mae ganddi ddiwylliant Cymreig cryf sy’n ehangu, gyda dros 60% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Mae ganddi boblogaeth o 71,000, ond cynyddir y ffigwr hwn bob haf gan tua 850,000 o ymwelwyr. Yn ychwanegol at hyn, mae’r sir yn gartref i ddwy brifysgol – un yn Aberystwyth, a’r llall yn Llanbedr Pont Steffan. Mae’r sefydliadau hyn yn darparu ar gyfer oddeutu 10,000 o fyfyrwyr bob blwyddyn.

Mae gan y rhanbarth dair prif ganolfan poblogaeth - Aberystwyth yn y gogledd, Llanbedr Pont Steffan ar yr ochr ddwyreiniol, ac Aberteifi yn y De. Mae gweddill y rhanbarth yn gasgliad o drefi a phentrefi wedi’u gwasgaru ar hyd y prif systemau ffyrdd o fewn y sir, ac ardaloedd gwledig eang â phoblogaeth wasgaredig.

Mae Ceredigion yn ardal ddiogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi o’i chymharu ag ardaloedd tebyg o fewn y Deyrnas Unedig. Mae gan y prif asiantaethau sy’n gweithio o fewn y sir ddyletswydd i sicrhau fod hyn yn parhau trwy leihau trosedd ac ofn trosedd, ac maent wedi uno â’r heddlu er mwyn gweithio mewn partneriaeth gyda’i gilydd. Mae hyn wedi arwain at Strategaeth Diogelwch Cymunedol tair blynedd. Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno’r strategaeth trwy weithio gyda’n gilydd.

Maw 07 Chwef 2012 Yr Heddlu yn ceisio adnabod dau berson o CCTV
Ceredigion
Gwen 03 Chwef 2012 Penodi Prif Gwnstabl Cynorthwyol newydd
Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Powys
Mer 01 Chwef 2012 Lladron yn Talu am fenter Parc Sglefrio!
Ceredigion
Iau 26 Ion 2012 Llofruddiaeth Llanllwni: Mwy o amser i holi
Ceredigion
Maw 24 Ion 2012 Masnachwr Twyllodrus yn y llys am 27 trosedd masnachu twyllodrus
Gogledd Aberystwyth Wledig, Sir Gaerfyrddin, Tref Rhydaman, Pontaman a Betws, Ceredigion, Tref a Phrifysgol Aberystwyth
Maw 13 Rhag 2011 Bihafiwch adeg tymor y Nadolig!
Ceredigion