Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Cynllun Cerdded a Gwylio Ceredigion

Dogwatch LogoNod Cynllun Cerdded a Gwylio Ceredigion yw’n annhebyg i’r Cynllun Gwarchod Cymdogaeth, heblaw ei fod yn dibynnu ar gerddwyr cŵn i gadw llygad ar bethau.  Anogir pobl sy’n cerdded eu cŵn i riportio unrhyw ymddygiad amheus neu wrthgymdeithasol neu weithgareddau troseddol i’r Heddlu. 

Trefnwyd y cynllun gan Dîm Plismona Bro Gogledd Ceredigion gyda chefnogaeth busnesau lleol:  Milfeddygfa Ystwyth, Canolfan Coedwigaeth a Chaffi Bwlch Nant Yr Arian, Bwydydd Anifeiliaid Burns a ‘Pets at Home’.

Nod y cynllun yw cael llygaid a chlustiau ychwanegol yn ardal Aberystwyth a’r cylch, a thrwy hynny, lleihau trosedd ac ofn trosedd a gwella ansawdd bywyd er lles pawb sy’n byw a gweithio yno.

Aelodau

Pan rydych allan yn cerdded eich ci, cadwch olwg am unrhyw gerbydau amheus fel faniau ‘transit’ neu lorïau ‘flat-bed’. Mae gatiau metel wedi eu dwyn o gaeau a mynedfeydd ffermydd a chafwyd lladradau o danciau olew gwresogi hefyd. Os ydych yn gweld unrhyw beth amheus, nodwch neu cofiwch cymaint o fanylion â phosibl a chysylltwch â’r heddlu ar 101. Peidiwch â cheisio mynd at unrhyw un sy’n ymddwyn yn amheus.

Beth yw’r Cynllun Cerdded a Gwylio?

Nod Cynllun Cerdded a Gwylio Ceredigion yw dod â chi a phobl eraill sy’n cerdded eu cŵn at eich gilydd wrth i chi ymarfer eich anifeiliaid anwes ar y strydoedd ac mewn parciau o fewn y gymuned leol.   Fe’ch anogir i riportio unrhyw ymddygiad amheus neu wrthgymdeithasol megis fandaliaeth, graffiti neu niwsans, yn ogystal â throseddau mwy difrifol.

Sut mae e’n gweithio?

Mae aelodaeth y cynllun yn rhad ac am ddim.  Bydd pob aelod yn cael pecyn aelodaeth sy’n cynnwys manylion y cynllun a rhoddion rhad ac am ddim. Byddwn yn gofyn i chi dalu sylw i’r hyn sy’n digwydd o’ch amgylch ac i sgwrsio ag aelodau eraill sy’n cerdded eu cŵn.  Os bydd gennych unrhyw bryderon neu os clywch am bryderon lleol, ffoniwch 999 os yw’n fater brys neu cysylltwch â Heddlu Dyfed-Powys ar 101 i riportio materion difrys.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi ddweud wrth yr heddlu?

Gan ddibynnu ar y wybodaeth a natur yr adroddiad, byddwn yn ymchwilio i’r digwyddiad neu’n hysbysu ein partner-asiantaethau.

A fyddaf mewn unrhyw berygl?

Ni ddisgwylir i chi fynd i fannau anghyfarwydd, nac i gerdded eich ci yn hwyr yn y nos.  Ni fyddwn ychwaith yn disgwyl i chi ymyrryd mewn unrhyw sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus.

Beth yw’r manteision i mi?

Trwy fod yn llygaid ac yn glustiau ychwanegol yn eich ardal leol, byddwch yn helpu i wneud eich cymuned yn fwy diogel i chi a phawb arall sy’n byw ynddi.  Yn ogystal, cewch fanteisio ar y rhoddion canlynol sy’n dod yn rhad ac am ddim gyda'ch pecyn aelodaeth:

  • Coler ci sy’n fflachio
  • Torch allwedd y cynllun
  • Magnet oergell y cynllun
  • Bagiau Rhaw Baw
  • Pecyn cychwynnol ‘Burns Nutrition’ yn cynnwys samplau bwyd ci a bag hesian
  • Talebau arbed arian
  • Archwiliad iechyd blynyddol i’ch ci

Yn ogystal, bydd cyfle i fynychu cyfarfodydd chwarterol Cerdded a Gwylio a chlywed siaradwyr gwadd perthnasol. Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’r Cynllun Cerdded a Gwylio neu gael ychwaneg o wybodaeth amdano, ffoniwch 101 a gofyn am Dîm Cerdded a Gwylio Aberystwyth a’r Cylch.