Page Content Starts Here
Plismona Bro yng Ngheredigion
Bydd Plismona Bro yn ein helpu i fynd i’r afael â throsedd ac
anhrefn trwy gydweithio â phartneriaid, er enghraifft, sicrhau bod
goleuadau mewn mannau cyhoeddus yn cwrdd ag anghenion y gymuned, dileu
graffiti, cael gwared ar gerbydau sydd wedi’u gadael, tipio
anghyfreithlon, sicrhau cyfleusterau/gweithgareddau ar gyfer pobl
ifanc, atal llosgi anghyfreithlon ac ystyried trosedd ac anhrefn wrth
wneud penderfyniadau trwyddedu.
Gellir disgrifio’r ‘Bröydd’ fel ardaloedd Daearyddol a
phenderfynir eu maint a’u natur yn ôl anghenion y cymunedau lleol. Mae
gan Geredigion ddeng ardal plismona bro a ffurfiwyd trwy gyfuno wardiau
etholiadol. Bydd gan bob ardal eu Tîm Plismona Bro eu hunain.
Ein Hamcanion
- Galluogi’r Heddlu i ymgysylltu mewn modd rhagweithiol â
chymunedau lleol ac i bennu, ar y cyd â phobl leol, y pryderon a’r
blaenoriaethau pwysicaf i’w gweithredu. - Sicrhau bod aelodau’r Tîm Plismona Bro yn aros mewn ardal yn
ddigon hir i ddatblygu dealltwriaeth ddofn o faterion sydd o bwys lleol
a sefydlu perthynas gyda’r cymunedau sy’n seiliedig ar ffydd, hyder a
pharch. - Teilwra’r Timau Plismona Bro yn ôl amgylchiadau lleol a chynnwys aelodau o’r Partneriaid Diogelwch Cymunedol.
- Ymgysylltu â phartneriaid yn y gymuned leol wrth fynd i’r afael â
blaenoriaethau’r fro ac adborthi am ganlyniadau gweithgareddau datrys
problemau.













