Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Tref Rhydaman, Pontaman a Betws

Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a lleihau trosedd yn y dref ac ardal Parc Betws.

  • Dydd Mawrth, Ionawr 10, 2012
    Sad 21 Ion 2012

    Ar gyfer ein blaenoriaeth y mis hwn, byddwn yn cynnal ymweliadau cyfnodol â’r ardal gan sicrhau ein bod yn dangos presenoldeb amlwg i’r cyhoedd. Rydym eisiau sicrhau’r cyhoedd ein bod ni yma i helpu a Byddwn yn ymdrin yn gadarn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

    Os oes gan unrhyw un bryderon mewn perthynas â’r mater hwn neu unrhyw faterion tebyg, neu os oes gennych wybodaeth a allai’n helpu i ymdrin â’r mater hwn, cysylltwch â’r tîm drwy alw 101, neu fe allwch alw heibio i weld PC Kevin Jones 88 neu PCSO Sharee Treharne 8009 ym mhopty Jenkins bob dydd Iau rhwng 10am a 11am am ‘Baned Gyda’ch Plismon’ er mwyn trafod unrhyw faterion.

    Mae’r tîm plismona bro hefyd yn cynnal cyfarfodydd Partneriaid a Chymunedau Gyda’i Gilydd (PACT) yng Ngorsaf Dân Rhydaman ar ail nos Fawrth bob mis o 6:30-7:30 o’r gloch. (Ewch i’n tab 'Digwyddiadau’ am ragor o fanylion).

     

    21/01/2012 - Diweddariadau i ddilyn.

    Cynhelir y cyfarfod PACT nesaf ar 14eg o Chwefror 2012 am 6:30yp yng Ngorsaf Dân Rhydaman, Stryd Fawr, Rhydaman.

Plismona amlwg – ymagwedd rhagweithiol ar benwythnosau.

  • Dydd Mawrth, Ionawr 10, 2012
    Sad 21 Ion 2012

    Bydd Tîm Plismona Bro Rhydaman yn cynnal patrolau amlwg. Diweddariad pellach i ddilyn. 

    Os oes gan unrhyw un bryderon mewn perthynas â’r mater hwn neu unrhyw faterion tebyg, neu os oes gennych wybodaeth a allai’n helpu i ymdrin â’r mater hwn, cysylltwch â’r tîm drwy alw 101, neu fe allwch alw heibio i weld PC Kevin Jones 88 neu PCSO Sharee Treharne 8009 ym mhopty Jenkins bob dydd Iau rhwng 10 a 11yb am ‘Baned Gyda’ch Plismon’ er mwyn trafod unrhyw faterion.  

    Mae’r tîm plismona bro hefyd yn cynnal cyfarfodydd Partneriaid a Chymunedau Gyda’i Gilydd (PACT) yng Ngorsaf Dân Rhydaman ar ail nos Fawrth bob mis o 6:30 i 7:30yp. (Ewch i’n tab ‘Digwyddiadau’ am ragor o fanylion).

    21/01/2012 - Diweddariadau i ddilyn.

    Cynhelir y cyfarfod PACT nesaf ar 14 Chwefror 2012 am 6:30yp yng Ngorsaf Dân Rhydaman, Stryd Fawr, Rhydaman.

Blaenoriaethau Blaenorol

Arolygydd Paul Williams 2105

  • Ymunodd yr Arolygydd Paul Williams â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Mehefin 1991.   Ar y dechrau, bu’n gweithio yn Llanelli cyn symud i Lwynhendy.  Enillodd ddyrchafiad i reng Sarjant yn Rhydaman ym 1996, lle y bu’n gwasanaethau am nifer o flynyddoedd cyn symud yn ôl i ardal Llanelli.  Yn 2001 fe’i penodwyd yn Swyddog Hyfforddi ar gyfer Rhanbarth Sir Gaerfyrddin, ac yna pasiodd i fod yn Arolygydd.   Cafodd ei ddyrchafu’n Arolygydd Adran yn Llambed yn 2004 cyn symud yn ôl i Gaerfyrddin yn 2006. Treuliodd gyfnod fel Prif Arolygydd dros dro gyda chyfrifoldeb am Adnoddau Dynol yn Rhanbarth Caerfyrddin cyn mynd yn Arolygydd Plismona Bro i Rydaman yn 2008.   Yr hyn y mae’n ei hoffi orau am y rôl yw helpu pobl a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned.

Sarjant Teresa Ross 810

  • Un o drigolion lleol Rhydaman yw Sarjant Teresa Ross. Mae’n briod a ganddi bedwar o blant. Ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys yn 2000, gan weithio yn nhref Caerfyrddin. Aeth ymlaen i weithio fel Ditectif Cwnstabl am dair blynedd, a’i chyfrifoldeb oedd ardal Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei dyrchafu’n Sarjant ym mis Ionawr 2006 ac mae wedi cymhwyso hyd at lefel Arolygydd. Bellach, Teresa yw’r Sarjant lleol ar gyfer Tîm Plismona Bro Rhydaman ac mae’n edrych ymlaen at weithio’n agos â’r cymunedau lle mae hi wedi byw a gwasanaethu fel swyddog yr heddlu.

PC Kevin Jones 88

  • Cafodd y PC Kevin Jones ei eni a’i fagu yn Sir Fôn ac ymuno â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Gorffennaf 1989. Mae wedi gweithio yn Rhydaman bron trwy gydol ei yrfa, ac eithrio cyfnodau byrion yn Crosshands ac Ystradgynlais. Mae yn awr yn Swyddog Tîm Plismona Bro dros dref Rhydaman a Betws. Dywedodd, “Rwy’n mwynhau cydweithio â phartneriaid a sefydliadau yn y gymuned, busnesau a’r cyhoedd wrth geisio adnabod problemau lleol a mynd i’r afael â nhw er mwyn creu cymuned ddiogel a hyderus.”

PCSO Sharee Treharne 8009

  • Ymunodd PCSO Sharee Treharne â Heddlu Dyfed-Powys yn Nhachwedd 2004 fel swyddog clerigol yn Adran Weinyddol yr Uned Cyfiawnder Troseddol. Ymunodd fel PCSO ym mis Mawrth 2009 ac mae’n gweithio yng Ngorsaf Heddlu Rhydaman ac yn gyfrifol am y dref, Pontaman, Tir-y-dail, Bonllwyn Betws a Phantffynnon. Mae Sharee’n mwynhau chwarae hoci a phêl-rwyd ac y mae wedi cynrychioli’r sir yn y ddwy gamp yn y gorffennol. Y mae hefyd yn chwarae hoci a phêl-rwyd dros Heddlu Dyfed-Powys. Yn ei gwaith bob dydd mae Sharee’n cefnogi plismona rheng-flaen, ac yn ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd er mwyn tawelu eu meddyliau drwy bresenoldeb yr heddlu.

Cyfarfodydd Bro

  • Mae'r Heddlu a Chymunedau'n Cydweithio (PACT) yn rhoi'r cyfle i chi ddylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd yn eich bro.

    Mae hyn yn golygu y bydd eich Tim Plismona Bro'n:

    Hysbysebu sut y gallwch chi gysylltu â nhw.
    Darganfod beth yw'r problemau lleol sy'n gwneud i bobl deimlo'n anniogel yn eu bro ac yn gofyn iddynt flaenoriaethu'r problemau hynny.
    Penderfynu gyda phartneriaid a phobl leol beth ddylid ei wneud i ymdrin â'r blaenoriaethau hynny a chydweithio gyda nhw er mwyn eu datrys.
    Rhoi gwybod i bobl beth sy'n cael ei wneud a darganfod a ydynt yn fodlon â'r canlyniadau.

    Y Gorsaf Dân, Stryd Fawr, Rhydaman
    Dydd Mawrth 14 Chwefror, 6:30pm - 7:30pm