Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Crosshands

Ymddygiad gwrthgymdeithasol – Eglwys Dewi Sant, Tymbl a Gwesty’r Tymbl

  • Dydd Llun, Tachwedd 28, 2011
    Maw 29 Tach 2011
    Amh.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol - Heol Bryncwar, Penygroes

  • Dydd Llun, Tachwedd 28, 2011
    Maw 29 Tach 2011
    Amh.

Arolygydd Paul Williams 2105

  • Ymunodd yr Arolygydd Paul Williams â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Mehefin 1991.   Ar y dechrau, bu’n gweithio yn Llanelli cyn symud i Lwynhendy.  Enillodd ddyrchafiad i reng Sarjant yn Rhydaman ym 1996, lle y bu’n gwasanaethau am nifer o flynyddoedd cyn symud yn ôl i ardal Llanelli.  Yn 2001 fe’i penodwyd yn Swyddog Hyfforddi ar gyfer Rhanbarth Sir Gaerfyrddin, ac yna pasiodd i fod yn Arolygydd.   Cafodd ei ddyrchafu’n Arolygydd Adran yn Llambed yn 2004 cyn symud yn ôl i Gaerfyrddin yn 2006. Treuliodd gyfnod fel Prif Arolygydd dros dro gyda chyfrifoldeb am Adnoddau Dynol yn Rhanbarth Caerfyrddin cyn mynd yn Arolygydd Plismona Bro i Rydaman yn 2008.   Yr hyn y mae’n ei hoffi orau am y rôl yw helpu pobl a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned.

Sarjant Mike Melly 771

  • Mae Sarjant Mike Melly wedi bod gyda’r heddlu ers pymtheg mlynedd, cyfnod a dreuliwyd yn gyfan gwbl yn Sir Gaerfyrddin. Mae’n byw yn Sir Gâr ac mae’n credu bod hynny yn help iddo ddeall y problemau a’r pryderon sy’n bwysig i drigolion yr ardal hon. Gyda chefnogaeth y tîm plismona bro, mae’n gobeithio datblygu proffil y tîm a’r berthynas rhwng y tîm a’r gymuned leol.

PC Tony Davies 525

  • Ymunodd PC Tony Davies â Heddlu Dyfed-Powys ym 1985 ac mae wedi bod yn gweithio yn Crosshands ers 2003. Cychwynnodd yn ei rôl fel heddwas Plismona Bro ym mis Mawrth 2008.

PC Wyn Davies 312

  • Ymunodd PC Wyn Davies â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Mehefin 1995 ac mae wedi’i leoli yn Rhydaman a Crosshands. Fe ddechreuodd ar ei swydd gyfredol fel swyddog plismona bro ym mis Ionawr 2007.

PCSO Jade Miller 8084

  • Mae PCSO Jade Miller wedi astudio gwyddorau’r heddlu a bu’n gwnstabl gwirfoddol gyda Heddlu De Cymru am 18 mis.

PCSO Stuart Davies

  • Ymunodd PCSO Stuart Davies â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Ionawr 2005 fel cwnstabl arbennig. Yna fe ddechreuodd fel PCSO ym mis Ionawr 2007 a bu'n gweithio yng Nghydweli hyd at fis Tachwedd 2007 pan symudodd i adran Crosshands.

Cyfarfodydd Bro

  • Ar y dydd Iau olaf bob mis

    Neuadd Gyhoeddus Cross Hands
    Dydd Iau 23 Chwefror, 7:00pm

Cymorthfeydd

  • 2il ddydd Mercher o bob mis.

    Neuadd y Pentref, Pontyberem
    Dydd Mercher 8 Chwefror, 11:00am - 12:00pm
  • Dydd Mercher diwethaf o bob mis.

    Neuadd Goffa, Penygroes
    Dydd Mercher 29 Chwefror, 5:00pm - 6:00pm
  • Dydd Iau diwethaf o bob mis.

    Siop Goffi Co-op
    Dydd Iau 23 Chwefror, 2:00pm - 3:00pm