Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Glanaman a Garnant

Targedu lladradau metel sgrap yn ardaloedd Glanaman a Garnant.

  • Dydd Mercher, Mai 2, 2012
    Sad 12 Mai 2012

    Ym mis Ebrill, derbyniodd yr heddlu adroddiadau am fyrgleriaethau ble y cafodd nifer fawr o fetel sgrap ei ddwyn. Mae’n amlwg bod cynnydd yn nifer yr achosion o ddwyn metel sgrap yn ardal Cwmaman ac felly bydd PC Steve Morris a PCSO Hannah Jones yn targedu hyn er mwyn atal lladradau metel a, gobeithio, gweld gostyngiad yn nifer y lladradau metel yn ardal Cwmaman ym mis Mai.

    Ymgyrch Beagle – rydym angen eich help chi


    Ymagwedd amlasiantaethol tuag at fynd i’r afael â lladradau metel yn ardal Heddlu Dyfed-Powys yw ‘Ymgyrch Beagle’.

    Mae cynnydd yn y galw am fetelau megis copr a phlwm wedi arwain at gynnydd yn nifer yr achosion o ladradau metel ar draws y Deyrnas Unedig yn y misoedd diwethaf. Er nad oes cymaint o’r troseddau hyn yn cael eu cyflawni yn ardal Heddlu Dyfed-Powys o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, mae’r math hwn o drosedd yn effeithio ar ein perfformiad.

    Rydym yn gweld sawl achos o ddwyn metel, yn amrywio o ladradau copr (ceblau, pibau, gwifrau a thanciau), plwm, ffensio, rheiliau, gatiau, caeadau draeniau a thrawsnewidyddion catalytig i gerbydau sgrap.

    Mae partneriaid sy’n cynnwys Heddlu Dyfed-Powys, Cyngor Sir Caerfyrddin, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn targedu cludwyr gwastraff anghyfreithlon a chasglwyr metel sgrap. Yn ogystal, maent yn lleihau’r cyfle i ladron werthu neu waredu eitemau metel wedi’u dwyn trwy weithio gyda masnachwyr sgrap lleol er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gyfraith ac yn adnabod lladron posibl.

    Mae eich help chi yn hanfodol er mwyn datrys y math hwn o drosedd ac yn anfon neges glir i’r rhai sy’n gysylltiedig â throseddau nad oes croeso iddynt yn ein cymunedau.

    Gofynnwn i chi fod yn wyliadwrus a riportio unrhyw ymddygiad amheus i’r heddlu, gan gynnwys rhifau cofrestru cerbydau a disgrifiadau o unigolion sy’n cael eu hamau o ddwyn metel.

     Os oes rhywbeth yn digwydd ar y pryd, galwch 999 mewn argyfwng, neu 101 mewn achosion difrys. Gallwch hefyd alw Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111 i riportio

    Pwy sy’n ei ddwyn? Pwy sy’n ei gadw? Ble mae e?

    Gwnewch yn siŵr nad yw metel sgrap yn cael ei adael mewn golwg – cadwch ef dan glo gan leihau meintiau drwy ei werthu i ddeliwr metel sgrap dilys

    Cofiwch:

    Mae lladradau metel yn effeithio ar unigolion. Chi sy’n talu am atgyweirio adeiladau ac isadeiledd trwy eich biliau a threthi. Gall arian wedi’i glustnodi ar gyfer prosiectau cymdeithasol gael ei ailgyfeirio er mwyn talu am atgyweiriadau.

    Mae lladradau metel yn effeithio ar bawb

     12/05/2012

    Anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai fod o gymorth o ran lleihau neu ddatrys y troseddau hyn i gysylltu â ni ar 101, neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

    Am ragor o wybodaeth ynghylch lladradau metel sgrap, cliciwch ar y ddolen isod er mwyn darllen mwy am ‘Ymgyrch Beagle’.

    http://www.dyfed-powys.police.uk/cy/news/latest-news/201111/operation-beagle-we-need-your-help

     Diweddariadau pellach i ddilyn.

     

Sul, Mawrth 18, 2012

  • Cynhaliodd Tîm Plismona Bro Rhydaman ddigwyddiad amlddiwylliannol ym mhrif neuadd Ysgol Gyfun Dyffryn Aman ar y 4ydd of Fawrth 2012. Daeth torf fawr i’r digwyddiad - dros 350 o ymwelwyr i gyd! Cynhaliwyd y digwyddiad er mwyn denu pobl yn ein cymunedau o gefndiroedd gwahanol er mwyn ceisio cynnwys y saith llinyn amrywiaeth. 

    ''Roedd hi’n hen bryd cael digwyddiad o’r fath,” meddai un ymwelydd. “Nid wyf erioed wedi bod yn bresennol mewn digwyddiad mor bleserus a llwyddiannus yn yr ardal hon, ac rwy’n edrych ymlaen at yr un nesaf.” .

    Denodd y digwyddiad grŵp gwirfoddol y Cenhedloedd Unedig sy’n ymweld â’n hardaloedd er mwyn cynnal gwaith cymunedol, gwaith amaethyddol a gwaith amgylcheddol. Roedd y grŵp yn cynnwys myfyrwyr o wahanol wledydd ar draws y byd - Siapan, Rwsia, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Groeg, Ffrainc a llawer mwy. Hefyd, roedd nifer o’r gymuned Thai a Ffilipino yn bresennol yn ogystal â grwpiau iaith Gymraeg, henoed, plant, y geidiaid, y deillion, amryw o sefydliadau a hefyd y cymunedau Tsieineaidd ac Indiaidd.

    Roedd amrywiaeth o adloniant a chyfleodd i flasu bwyd a roddwyd yn rhad ac am ddim ar gael i’r cyhoedd. Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i’r cyhoedd siarad â’u cynrychiolwyr o’r Tîm Plismona Bro a dod i’w hadnabod, a rhoi eu barn nhw i ni am yr ardaloedd lle maent yn preswylio.

    Agorwyd y digwyddiad gan Faeres Rhydaman, Irena Hopkins. Hefyd, anerchwyd y gynulleidfa gan Jonathan Edwards AS. Roedd Paul Piano, Uwch Swyddog Datblygu o Fenter Rhwydwaith Amlddiwylliannol Llanelli, hefyd yn bresennol yn y digwyddiad.

     

Arolygydd Paul Williams 2105

  • Ymunodd yr Arolygydd Paul Williams â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Mehefin 1991.   Ar y dechrau, bu’n gweithio yn Llanelli cyn symud i Lwynhendy.  Enillodd ddyrchafiad i reng Sarjant yn Rhydaman ym 1996, lle y bu’n gwasanaethau am nifer o flynyddoedd cyn symud yn ôl i ardal Llanelli.  Yn 2001 fe’i penodwyd yn Swyddog Hyfforddi ar gyfer Rhanbarth Sir Gaerfyrddin, ac yna pasiodd i fod yn Arolygydd.   Cafodd ei ddyrchafu’n Arolygydd Adran yn Llambed yn 2004 cyn symud yn ôl i Gaerfyrddin yn 2006. Treuliodd gyfnod fel Prif Arolygydd dros dro gyda chyfrifoldeb am Adnoddau Dynol yn Rhanbarth Caerfyrddin cyn mynd yn Arolygydd Plismona Bro i Rydaman yn 2008.   Yr hyn y mae’n ei hoffi orau am y rôl yw helpu pobl a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned.

Sarjant Teresa Ross 810

  • Un o drigolion lleol Rhydaman yw Sarjant Teresa Ross. Mae’n briod a ganddi bedwar o blant. Ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys yn 2000, gan weithio yn nhref Caerfyrddin. Aeth ymlaen i weithio fel Ditectif Cwnstabl am dair blynedd, a’i chyfrifoldeb oedd ardal Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei dyrchafu’n Sarjant ym mis Ionawr 2006 ac mae wedi cymhwyso hyd at lefel Arolygydd. Bellach, Teresa yw’r Sarjant lleol ar gyfer Tîm Plismona Bro Rhydaman ac mae’n edrych ymlaen at weithio’n agos â’r cymunedau lle mae hi wedi byw a gwasanaethu fel swyddog yr heddlu.

PC Stephen Morris 374

  • Cafodd y PC Stephen Morris ei eni a’i fagu yn Nhycroes, Rhydaman. Ymunodd â Gwasanaeth yr Heddlu yn 2001 ar ôl bod yn Gwnstabl Gwirfoddol am 5 mlynedd. Dywed PC Morris “Ar ôl byw yn Nhycroes bron trwy gydol fy mywyd, rwy’n teimlo bod gennyf wybodaeth a dealltwriaeth helaeth o’r hyn sy’n bwysig i’r gymuned leol. Rwyf hefyd wedi mwynhau chwarae rygbi i dîm Llandybie am nifer o flynyddoedd, sydd wedi bod yn gyfle i mi ddatblygu rhwydwaith eang o gysylltiadau allweddol o fewn y gymuned. Fy nod bersonol yw parhau i weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill er mwyn taclo’r materion hynny sydd o bwys mawr i’n cymunedau.”

PCSO Hannah Jones 8088

  • Mae PCSO Hannah Jones yn dod o Ystradgynlais ac y mae wedi gweithio i Heddlu Dyfed-Powys er mis Mawrth 2010. Y mae wedi’i lleoli yng Ngorsaf Heddlu Rhydaman ac yn gyfrifol am Lanaman, Garnant, Brynaman a’r ardaloedd amgylchynol. Meddai: “Rydw i wrth fy modd gyda phob agwedd o fy swydd ac yn dysgu siarad Cymraeg ar hyn o bryd. Patrolau gweladwy fydd fy mhrif flaenoriaeth, gan annog cysylltiadau gyda’r gymuned leol a gwneud i bobl deimlo’n ddiogel”.

Cyfarfodydd Bro

  • Cyfarfodydd PACT (Partneriaid a Chymunedau’n Cydweithio), ddydd Mercher cyntaf pob mis am 7pm.

     

    Mae'r Heddlu a Chymunedau'n Cydweithio (PACT) yn rhoi'r cyfle i chi ddylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd yn eich bro.

    Ysgol y Bedol, Garnant
    Dydd Mercher 4 Gorffennaf, 7:00pm
  • Cyfarfodydd PACT (Partneriaid a Chymunedau’n Cydweithio), ddydd Mercher cyntaf pob mis am 7pm.

     

    Mae'r Heddlu a Chymunedau'n Cydweithio (PACT) yn rhoi'r cyfle i chi ddylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd yn eich bro.

    Neuadd Bro Ryan, Bro Ryan, Glanamman
    Dydd Mercher 6 Mehefin, 7:00pm