Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Llandybie

Adnabod a mynd i’r afael â mannau problemus o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy’r pentref.

  • Dydd Mercher, Ebrill 11, 2012
    Gwen 20 Ebr 2012

    Ar gyfer ein blaenoriaeth y mis hwn, byddwn yn cynnal ymweliadau cyfnodol â’r ardal gan sicrhau ein bod yn dangos presenoldeb amlwg i’r cyhoedd. Rydym eisiau sicrhau’r cyhoedd ein bod ni yma i helpu ac y byddwn yn ymdrin yn gadarn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Byddwn yn patrolio’r ardaloedd ac yn annog aelodau’r cyhoedd i riportio unrhyw ddigwyddiadau amheus. Os nad ydym yn derbyn y galwadau, ni fyddwn yn gwybod ble mae’r problemau.

    Os yw aelodau’r cyhoedd eisiau trafod unrhyw fater gyda’r Tîm Plismona Bro lleol, gallwch gysylltu â’r tîm drwy alw 101, neu fe allwch siarad â PCSO Alan Davies 8043, PCSO Ryan Howells 8037 neu PC Sharon Davies 753 yn Neuadd Goffa Llandybïe bob bore dydd Mawrth rhwng 11 a 12 o’r gloch, neu galwch heibio am Baned Gyda’ch Plismona yng Nghaffi’r Pentref, Llandybïe, bob bore dydd Iau am 11 o’r gloch.

    Mae’r tîm plismona bro hefyd yn cynnal cyfarfodydd Partneriaid a Chymunedau Gyda’i Gilydd (PACT) yn Neuadd Goffa Llandybïe ar ail nos Fercher pob mis am 7 o’r gloch.

     

    11/04/2012 - Riportiwyd rhai achosion o fân ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r heddlu lleol wedi siarad gyda phreswylwyr ac asiantaethau eraill er mwyn ceisio lliniaru unrhyw faterion.

    Cynhelir y cyfarfod PACT nesaf ar nos Fercher 9 Mai am 7 o’r gloch yn Neuadd Goffa Llandybïe, Llandybïe.

Sul, Mawrth 18, 2012

  • Cynhaliodd Tîm Plismona Bro Rhydaman ddigwyddiad amlddiwylliannol ym mhrif neuadd Ysgol Gyfun Dyffryn Aman ar y 4ydd of Fawrth 2012. Daeth torf fawr i’r digwyddiad - dros 350 o ymwelwyr i gyd! Cynhaliwyd y digwyddiad er mwyn denu pobl yn ein cymunedau o gefndiroedd gwahanol er mwyn ceisio cynnwys y saith llinyn amrywiaeth. 

    ''Roedd hi’n hen bryd cael digwyddiad o’r fath,” meddai un ymwelydd. “Nid wyf erioed wedi bod yn bresennol mewn digwyddiad mor bleserus a llwyddiannus yn yr ardal hon, ac rwy’n edrych ymlaen at yr un nesaf.” .

    Denodd y digwyddiad grŵp gwirfoddol y Cenhedloedd Unedig sy’n ymweld â’n hardaloedd er mwyn cynnal gwaith cymunedol, gwaith amaethyddol a gwaith amgylcheddol. Roedd y grŵp yn cynnwys myfyrwyr o wahanol wledydd ar draws y byd - Siapan, Rwsia, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Groeg, Ffrainc a llawer mwy. Hefyd, roedd nifer o’r gymuned Thai a Ffilipino yn bresennol yn ogystal â grwpiau iaith Gymraeg, henoed, plant, y geidiaid, y deillion, amryw o sefydliadau a hefyd y cymunedau Tsieineaidd ac Indiaidd.

    Roedd amrywiaeth o adloniant a chyfleodd i flasu bwyd a roddwyd yn rhad ac am ddim ar gael i’r cyhoedd. Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i’r cyhoedd siarad â’u cynrychiolwyr o’r Tîm Plismona Bro a dod i’w hadnabod, a rhoi eu barn nhw i ni am yr ardaloedd lle maent yn preswylio.

    Agorwyd y digwyddiad gan Faeres Rhydaman, Irena Hopkins. Hefyd, anerchwyd y gynulleidfa gan Jonathan Edwards AS. Roedd Paul Piano, Uwch Swyddog Datblygu o Fenter Rhwydwaith Amlddiwylliannol Llanelli, hefyd yn bresennol yn y digwyddiad.

     

Arolygydd Paul Williams 2105

  • Ymunodd yr Arolygydd Paul Williams â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Mehefin 1991.   Ar y dechrau, bu’n gweithio yn Llanelli cyn symud i Lwynhendy.  Enillodd ddyrchafiad i reng Sarjant yn Rhydaman ym 1996, lle y bu’n gwasanaethau am nifer o flynyddoedd cyn symud yn ôl i ardal Llanelli.  Yn 2001 fe’i penodwyd yn Swyddog Hyfforddi ar gyfer Rhanbarth Sir Gaerfyrddin, ac yna pasiodd i fod yn Arolygydd.   Cafodd ei ddyrchafu’n Arolygydd Adran yn Llambed yn 2004 cyn symud yn ôl i Gaerfyrddin yn 2006. Treuliodd gyfnod fel Prif Arolygydd dros dro gyda chyfrifoldeb am Adnoddau Dynol yn Rhanbarth Caerfyrddin cyn mynd yn Arolygydd Plismona Bro i Rydaman yn 2008.   Yr hyn y mae’n ei hoffi orau am y rôl yw helpu pobl a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned.

Sarjant Teresa Ross 810

  • Un o drigolion lleol Rhydaman yw Sarjant Teresa Ross. Mae’n briod a ganddi bedwar o blant. Ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys yn 2000, gan weithio yn nhref Caerfyrddin. Aeth ymlaen i weithio fel Ditectif Cwnstabl am dair blynedd, a’i chyfrifoldeb oedd ardal Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei dyrchafu’n Sarjant ym mis Ionawr 2006 ac mae wedi cymhwyso hyd at lefel Arolygydd. Bellach, Teresa yw’r Sarjant lleol ar gyfer Tîm Plismona Bro Rhydaman ac mae’n edrych ymlaen at weithio’n agos â’r cymunedau lle mae hi wedi byw a gwasanaethu fel swyddog yr heddlu.

PC Sarah Yelland-Davies 141

  • Ganwyd a magwyd Sarah Yelland-Davies yn Llandeilo ac mae wedi bod yn Gwnstabl yr Heddlu gyda Heddlu Dyfed-Powys ers Medi 2003. Bu’n gwasanaethu cymuned Llanelli am bedair blynedd, ac yn 2007 bu’n gweithio ym mröydd gwledig Llandeilo a Llanymddyfri. Meddai Sarah, “ers trosglwyddo i Rydaman ac ymuno â’r Tîm Plismona Bro rydw i wedi fy nghyffroi ynghylch cydweithio â thîm ymroddgar a gweithgar o swyddogion ac asiantaethau partner, sy’n benderfynol o sicrhau bod anghenion a disgwyliadau’r cyhoedd yn eu hardal yn sail i flaenoriaethau plismona bro”.

PCSO Alan Davies 8043

  • Mae Alan Davies wedi gweithio fel PCSO gyda Heddlu Dyfed-Powys ers mis Hydref 2006. Cyn hynny, bu’n gwasanaethu gyda’r Awyrlu Brenhinol ac yna treuliodd gyfnod ym maes adwerthu. Cafodd ei eni a’i fagu yng Nghwm Gwendraeth. Meddai, “Fel rhan o’m gwaith fel PCSO, rwy’n awyddus i gyfrannu at blismona bro yn yr ardal trwy ddarparu patrolau gweladwy iawn a dod â thawelwch meddwl i’r cyhoedd.”

PCSO Ryan Howells 8037

  • Ryan Howells

    Ymunodd SCCH Ryan Howells â Heddlu Dyfed Powys yn 2003, yn swyddog clerigol yn y Swyddfa Docynnau Ganolog yn yr Uned Cyfiawnder Troseddol. Wedyn, ym mis Mehefin 2009, aeth Ryan i weithio fel Triniwr/ Anfonwr Digwyddiadau yn yr Ystafell Gweithredoedd yn y Pencadlys.  Bu'n gweithio yno tan ddod yn SCCH ym mis Tachwedd 2009. Mae Ryan yn gweithio o Orsaf Heddlu Rhydaman, yn rhan o Dîm Plismona Bro Rhydaman.

Cyfarfodydd Bro

  • Cyfarfodydd PACT (Partneriaid a Chymunedau’n Cydweithio) ar y ail ddydd Mercher bob mis.

    Neuadd Goffa Llandybie
    Dydd Mercher 13 Mehefin, 7:00pm - 8:00pm