Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Cwarter Bach

Ymddygiad gwrthgymdeithasol o gwmpas ardaloedd Taith yr Afon a Pharc Brynaman

  • Cwarter Bach
    Dydd Mawrth, Mai 8, 2012
    Gwen 11 Mai 2012

    Ar gyfer ein blaenoriaeth y mis hwn, byddwn yn cynnal patrolau amlwg o gwmpas Parc Brynaman a Thaith yr Afon er mwyn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

    Anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth a fydd o gymorth o ran y flaenoriaeth hon i gysylltu â PCSO Craig Roderick yng Ngorsaf Heddlu Rhydaman ar 101, neu anfonwch e-bost at AmmanTowyNPT@dyfed-powys.pnn.police.uk

    Mae’r tîm plismona bro hefyd yn cynnal cyfarfodydd Partneriaid a Chymunedau Gyda’i Gilydd (PACT) yng Nghanolfan y Mynydd Du, Brynaman, ar ail nos Fawrth pob mis o 6-7 o’r gloch. (Gweler ein tab ‘Digwyddiadau’ am ragor o fanylion).

    08/05/2012:

Blaenoriaethau Blaenorol

Sul, Mawrth 18, 2012

  • Cynhaliodd Tîm Plismona Bro Rhydaman ddigwyddiad amlddiwylliannol ym mhrif neuadd Ysgol Gyfun Dyffryn Aman ar y 4ydd of Fawrth 2012. Daeth torf fawr i’r digwyddiad - dros 350 o ymwelwyr i gyd! Cynhaliwyd y digwyddiad er mwyn denu pobl yn ein cymunedau o gefndiroedd gwahanol er mwyn ceisio cynnwys y saith llinyn amrywiaeth. 

    ''Roedd hi’n hen bryd cael digwyddiad o’r fath,” meddai un ymwelydd. “Nid wyf erioed wedi bod yn bresennol mewn digwyddiad mor bleserus a llwyddiannus yn yr ardal hon, ac rwy’n edrych ymlaen at yr un nesaf.” .

    Denodd y digwyddiad grŵp gwirfoddol y Cenhedloedd Unedig sy’n ymweld â’n hardaloedd er mwyn cynnal gwaith cymunedol, gwaith amaethyddol a gwaith amgylcheddol. Roedd y grŵp yn cynnwys myfyrwyr o wahanol wledydd ar draws y byd - Siapan, Rwsia, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Groeg, Ffrainc a llawer mwy. Hefyd, roedd nifer o’r gymuned Thai a Ffilipino yn bresennol yn ogystal â grwpiau iaith Gymraeg, henoed, plant, y geidiaid, y deillion, amryw o sefydliadau a hefyd y cymunedau Tsieineaidd ac Indiaidd.

    Roedd amrywiaeth o adloniant a chyfleodd i flasu bwyd a roddwyd yn rhad ac am ddim ar gael i’r cyhoedd. Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i’r cyhoedd siarad â’u cynrychiolwyr o’r Tîm Plismona Bro a dod i’w hadnabod, a rhoi eu barn nhw i ni am yr ardaloedd lle maent yn preswylio.

    Agorwyd y digwyddiad gan Faeres Rhydaman, Irena Hopkins. Hefyd, anerchwyd y gynulleidfa gan Jonathan Edwards AS. Roedd Paul Piano, Uwch Swyddog Datblygu o Fenter Rhwydwaith Amlddiwylliannol Llanelli, hefyd yn bresennol yn y digwyddiad.

     

Arolygydd Paul Williams 2105

  • Ymunodd yr Arolygydd Paul Williams â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Mehefin 1991.   Ar y dechrau, bu’n gweithio yn Llanelli cyn symud i Lwynhendy.  Enillodd ddyrchafiad i reng Sarjant yn Rhydaman ym 1996, lle y bu’n gwasanaethau am nifer o flynyddoedd cyn symud yn ôl i ardal Llanelli.  Yn 2001 fe’i penodwyd yn Swyddog Hyfforddi ar gyfer Rhanbarth Sir Gaerfyrddin, ac yna pasiodd i fod yn Arolygydd.   Cafodd ei ddyrchafu’n Arolygydd Adran yn Llambed yn 2004 cyn symud yn ôl i Gaerfyrddin yn 2006. Treuliodd gyfnod fel Prif Arolygydd dros dro gyda chyfrifoldeb am Adnoddau Dynol yn Rhanbarth Caerfyrddin cyn mynd yn Arolygydd Plismona Bro i Rydaman yn 2008.   Yr hyn y mae’n ei hoffi orau am y rôl yw helpu pobl a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned.

Sarjant Teresa Ross 810

  • Un o drigolion lleol Rhydaman yw Sarjant Teresa Ross. Mae’n briod a ganddi bedwar o blant. Ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys yn 2000, gan weithio yn nhref Caerfyrddin. Aeth ymlaen i weithio fel Ditectif Cwnstabl am dair blynedd, a’i chyfrifoldeb oedd ardal Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei dyrchafu’n Sarjant ym mis Ionawr 2006 ac mae wedi cymhwyso hyd at lefel Arolygydd. Bellach, Teresa yw’r Sarjant lleol ar gyfer Tîm Plismona Bro Rhydaman ac mae’n edrych ymlaen at weithio’n agos â’r cymunedau lle mae hi wedi byw a gwasanaethu fel swyddog yr heddlu.

PC Stephen Morris 374

  • Cafodd y PC Stephen Morris ei eni a’i fagu yn Nhycroes, Rhydaman. Ymunodd â Gwasanaeth yr Heddlu yn 2001 ar ôl bod yn Gwnstabl Gwirfoddol am 5 mlynedd. Dywed PC Morris “Ar ôl byw yn Nhycroes bron trwy gydol fy mywyd, rwy’n teimlo bod gennyf wybodaeth a dealltwriaeth helaeth o’r hyn sy’n bwysig i’r gymuned leol. Rwyf hefyd wedi mwynhau chwarae rygbi i dîm Llandybie am nifer o flynyddoedd, sydd wedi bod yn gyfle i mi ddatblygu rhwydwaith eang o gysylltiadau allweddol o fewn y gymuned. Fy nod bersonol yw parhau i weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill er mwyn taclo’r materion hynny sydd o bwys mawr i’n cymunedau.”

PC Lawrence Holcombe 850

  • Daw PC Lawrence Holcombe yn wreiddiol o Lanelli. Ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys yn 2009 a chafodd ei leoli yn Aberteifi.  Bellach, mae’n gweithio yn Rhydaman ac mae ganddo gyfrifoldeb dros ward Cwarter Bach. Mae’n chwaraewr rygbi brwd. Mae’n chwarae dros Glwb Rygbi Felinfoel ac yn cefnogi tîm y Sgarlets. Mae’n edrych ymlaen at wneud gwahaniaeth yn ardal Rhydaman a mynd i’r afael â materion lleol.

     

     

     

PCSO Craig Roderick 8094

  • PCSO - Craig Roderick

    Ymunodd PCSO Craig Roderick â Heddlu Dyfed-Powys fel Cwnstabl Gwirfoddol yn 2007 ac fe’i leolwyd yn Rhydaman. Ym mis Mawrth 2010, ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys fel Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu a chafodd ei leoli yng Nghastell Newydd Emlyn, Pencader ac Aberhonddu. Bellach, mae Craig wedi’i leoli yn Rhydaman lle y mae ganddo gyfrifoldeb dros ward Cwarter Bach. Bydd PCSO Craig Roderick yn parhau i weithio gydag asiantaethau partner er mwyn cwrdd ag anghenion y gymuned.

Digwyddiadau

  • 

    Mae tîm plismona bro Rhydaman yn paratoi ar gyfer digwyddiad amlddiwylliannol. Bwriad y digwyddiad yw dod â phobl o wahanol gefndiroedd, cenhedloedd a chredoau ynghyd.

    Cynhaliodd y tîm ddigwyddiad tebyg yn gynharach eleni, ac o ganlyniad i’w llwyddiant, mae swyddogion yn trefnu un arall.

    “Cynhelir y digwyddiad hwn ar ddydd Sul 4 Mawrth ym mhrif neuadd Ysgol Dyffryn Aman o 2-5 o’r gloch,” meddai’r Rhingyll Teresa Ross. “Y nod yw dod â phobl o bob un o’r llinynnau amrywiaeth at ei gilydd er mwyn gwella cydlyniad ac ymgysylltiad cymunedol.

    “Mae digwyddiadau tebyg a drefnwyd gennym o’r blaen wedi bod yn llwyddiannus iawn gan ddenu cynulleidfa fawr gan gynnwys pobl o dras Ffrengig, Twrcaidd, Groegaidd a Choreaidd, ymysg nifer o drasau eraill. Rydym wedi cynnal cwis gwybodaeth gyffredinol, gwylio dawnsiau traddodiadol o wledydd eraill, ac rydym wedi cael arddangosiadau coginio lle y cafwyd cyfle i brofi’r bwyd.

    “Hefyd, cafodd aelodau o’r gymuned gyfle i siarad â’u swyddogion plismona bro lleol a mynegi eu barn o ran blaenoriaethau plismona ar gyfer eu hardaloedd nhw.

    “Rwy’n gobeithio bydd y digwydd nesaf yn derbyn yr un gefnogaeth. Mae croeso i unrhyw un alw heibio.”

     

    Mhrif neuadd Ysgol Dyffryn Aman

Cyfarfodydd Bro

  • Cyfarfodydd PACT (Partneriaid a Chymunedau’n Cydweithio), Ail ddydd Mawrth bob mis.

    Mae'r Heddlu a Chymunedau'n Cydweithio (PACT) yn rhoi'r cyfle i chi ddylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd yn eich bro

    Canolfan Y Mynnydd Du, Heol Cwmgarw.
    Dydd Mawrth 12 Mehefin, 6:00pm