Tycroes, Saron, Capel Hendre a Phenybanc
Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a lleihau trosedd sy’n gysylltiedig ag alcohol yn yr ardal yn ystod twrnamaint y chwe gwlad.
-
Dydd Mawrth, Ionawr 10, 2012Sad 21 Ion 2012
Bydd Tîm Plismona Bro Gorllewin Rhydaman yn parhau i gynnal patrolau yn yr ardal ac yn eu cynyddu, gan sicrhau presenoldeb heddlu amlwg yn Llandybïe, Tycroes, Capel Hendre, Saron a Phenybanc er mwyn helpu i wneud ein cymunedau deimlo’n ddiogelach drwy fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Os yw aelodau’r cyhoedd yn dymuno trafod unrhyw fater gyda’r tîm plismona bro lleol, cysylltwch â ni drwy alw 101, neu fe allwch siarad â PCSO Alan Davies 8043 neu PC Sharon Davies 753 yn Swyddfa Gymunedol Bancyddraenen, 2, Bancyddraenen, Capel Hendre, Rhydaman bob dydd Mercher rhwng 11yb a 12yp.Mae’r tîm plismona bro hefyd yn cynnal cyfarfodydd Partneriaid a Chymunedau Gyda’i Gilydd (PACT) yn Swyddfa Gymunedol Bancyddraenen, 2, Bancyddraenen, Capel Hendre, Rhydaman ar ail nos Fawrth pob mis am 7 o’r gloch
21/01/2012 -Diweddariadau i ddilyn.
Cynhelir y cyfarfodydd PACT nesaf ar y 14eg o Chwefror 2012 am 7yp yn Swyddfa Gymunedol Bancyddraenen yng Nghapel Hendre.
Targedu lladradau metel sgrap yn ardal Rhydaman.
-
Dydd Mawrth, Ionawr 10, 2012Sad 21 Ion 2012
Mae Tîm Plismona Bro Rhydaman yn trefnu ymgyrchoedd er mwyn mynd i’r afael â lladradau metel sgrap ar sail reolaidd yn ardal Rhydaman.
Os yw aelodau’r cyhoedd yn dymuno trafod unrhyw fater gyda’r tîm plismona bro lleol, cysylltwch â ni drwy alw 101, neu fe allwch siarad â PCSO Alan Davies 8043 neu PC Sharon Davies 753 yn Swyddfa Gymunedol Bancyddraenen, 2, Bancyddraenen, Capel Hendre, Rhydaman bob dydd Mercher rhwng 11yb a 12yp.
Mae’r tîm plismona bro hefyd yn cynnal cyfarfodydd Partneriaid a Chymunedau Gyda’i Gilydd (PACT) am 7 o'r gloch yn Swyddfa Gymunedol Bancyddraenen, 2, Bancyddraenen, Capel Hendre, Rhydaman ar ail nos Fawrth pob mis am 7 o’r gloch. (Ewch i’n tab ‘Digwyddiadau’ am ddiweddariadau pellach).
21/01/2012 - Diweddariadau i ddilyn.
Cynhelir y cyfarfodydd PACT nesaf ar 14eg o Chwefror 2012 am 7yp yn Swyddfa Gymunedol Bancyddraenen yng Nghapel Hendre.
Arolygydd Paul Williams 2105
Ymunodd yr Arolygydd Paul Williams â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Mehefin 1991. Ar y dechrau, bu’n gweithio yn Llanelli cyn symud i Lwynhendy. Enillodd ddyrchafiad i reng Sarjant yn Rhydaman ym 1996, lle y bu’n gwasanaethau am nifer o flynyddoedd cyn symud yn ôl i ardal Llanelli. Yn 2001 fe’i penodwyd yn Swyddog Hyfforddi ar gyfer Rhanbarth Sir Gaerfyrddin, ac yna pasiodd i fod yn Arolygydd. Cafodd ei ddyrchafu’n Arolygydd Adran yn Llambed yn 2004 cyn symud yn ôl i Gaerfyrddin yn 2006. Treuliodd gyfnod fel Prif Arolygydd dros dro gyda chyfrifoldeb am Adnoddau Dynol yn Rhanbarth Caerfyrddin cyn mynd yn Arolygydd Plismona Bro i Rydaman yn 2008. Yr hyn y mae’n ei hoffi orau am y rôl yw helpu pobl a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned.
Sarjant Teresa Ross 810
Un o drigolion lleol Rhydaman yw Sarjant Teresa Ross. Mae’n briod a ganddi bedwar o blant. Ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys yn 2000, gan weithio yn nhref Caerfyrddin. Aeth ymlaen i weithio fel Ditectif Cwnstabl am dair blynedd, a’i chyfrifoldeb oedd ardal Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei dyrchafu’n Sarjant ym mis Ionawr 2006 ac mae wedi cymhwyso hyd at lefel Arolygydd. Bellach, Teresa yw’r Sarjant lleol ar gyfer Tîm Plismona Bro Rhydaman ac mae’n edrych ymlaen at weithio’n agos â’r cymunedau lle mae hi wedi byw a gwasanaethu fel swyddog yr heddlu.
PC Sarah Yelland-Davies 141
Ganwyd a magwyd Sarah Yelland-Davies yn Llandeilo ac mae wedi bod yn Gwnstabl yr Heddlu gyda Heddlu Dyfed-Powys ers Medi 2003. Bu’n gwasanaethu cymuned Llanelli am bedair blynedd, ac yn 2007 bu’n gweithio ym mröydd gwledig Llandeilo a Llanymddyfri. Meddai Sarah, “ers trosglwyddo i Rydaman ac ymuno â’r Tîm Plismona Bro rydw i wedi fy nghyffroi ynghylch cydweithio â thîm ymroddgar a gweithgar o swyddogion ac asiantaethau partner, sy’n benderfynol o sicrhau bod anghenion a disgwyliadau’r cyhoedd yn eu hardal yn sail i flaenoriaethau plismona bro”.
PCSO Alan Davies 8043
Mae Alan Davies wedi gweithio fel PCSO gyda Heddlu Dyfed-Powys ers mis Hydref 2006. Cyn hynny, bu’n gwasanaethu gyda’r Awyrlu Brenhinol ac yna treuliodd gyfnod ym maes adwerthu. Cafodd ei eni a’i fagu yng Nghwm Gwendraeth. Meddai, “Fel rhan o’m gwaith fel PCSO, rwy’n awyddus i gyfrannu at blismona bro yn yr ardal trwy ddarparu patrolau gweladwy iawn a dod â thawelwch meddwl i’r cyhoedd.”
Cyfarfodydd Bro
-
Cyfarfodydd PACT (Partneriaid a Chymunedau’n Cydweithio), ail ddydd Mawrth bob mis.
Swyddfa’r Gymuned, 2 Banc y Ddraenen, Capel HendreDydd Mawrth 14 Chwefror, 7:00pm - 8:00pm
-
Maw 07 Chwef 2012darllen mwy >>
Mae swyddogion yn Rhydaman yn apelio am gymorth gan y cyhoedd i ddod o hyd i ddyn 37 oed sydd...
-
Maw 20 Rhag 2011darllen mwy >>
Yn dilyn nifer o fyrgleriaethau mewn siediau a garejys ar draws ardal Aman Tywi, mae swyddogion...
-
Mer 16 Tach 2011darllen mwy >>
Yn ddiweddar, cynhaliodd Timoedd Ymateb Arfog a Phlismona’r Ffyrdd Sir Gaerfyrddin benwythnos...
-
Maw 30 Awst 2011darllen mwy >>
Mae cyfres o ladradau o gerbydau yn ardal Rhydaman wedi arwain swyddogion i rybuddio gyrwyr i...
-
Gwen 24 Meh 2011darllen mwy >>
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi croesawu’r ddedfryd o 15 mlynedd a roddwyd i Ronald Steven Toms am...


