Cychwynnwyd menter gorfodi cyflymder ym mhentref Llanpumsaint, gydag
Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Dyfed-Powys a’r Tîm Plismona Bro lleol yn
ymweld â’r pentref.
Treuliodd swyddogion fore yn y pentref gyda chamera cyflymder mewn
ymdrech i godi ymwybyddiaeth o’r cyfyngiadau cyflymder yn yr ardal.
“Mae’r fenter wedi arwain at roi 13 hysbysiad cosb benodedig i
gerbydau a oedd yn teithio dros 30 milltir yr awr,” meddai PCSO Bethan
Hodgkinson. “Mae dau wedi eu hystyried ar gyfer cwrs ymwybyddiaeth
gyrru, a stopiwyd un gyrrwr am fethu â gwisgo gwregys.
“Yn ystod oriau mân y bore, riportiwyd un gyrrwr am yrru heb ofal.”
Hefyd, cynhaliwyd gwiriadau cyflymder ar Heol Bronwydd, a arweiniodd at un gosb benodedig i gerbyd a oedd yn teithio dros 30mya.
Ar hyn o bryd, mae’r Tîm Plismona Bro yn trefnu rhagor o ymgyrchoedd,
ochr yn ochr â’r Uned Camerâu Diogelwch a’r Uned Plismona’r Ffyrdd.





