Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Tref Caerfyrddin

Mynd i’r afael ag achosion cynyddol o graffiti

  • Tref Caerfyrddin
    Dydd Gwener, Mawrth 9, 2012
    Llun 23 Ebr 2012

    Cynyddu patrolau ar droed

     Ymweld â sefydliadau a grwpiau ieuenctid lleol

     Cydweithredu â’r awdurdod lleol a rhanddeiliaid eraill er mwyn glanhau’r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio.           

Ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol yng nghanol y dref ar benwythnosau

  • Tref Caerfyrddin
    Dydd Gwener, Mawrth 9, 2012
    Gwen 09 Maw 2012

     

     Patrolau rheolaidd ar droed

     Defnyddio hysbysiadau cyfarwyddyd i adael a gorfodi

     Cydweithrediad gyda thrwyddedigion lleol a staff drws awdurdodedig

Blaenoriaethau Blaenorol

Sul, Mawrth 11, 2012

  • Mae Tîm Plismona Bro Tref Caerfyrddin yn adolygu’r broses o osod blaenoriaethau a PACT ar gyfer Tref Caerfyrddin ar hyn o bryd. Mae’r tîm wedi ceisio trefnu cyfarfodydd cyhoeddus er budd proses PACT Tref Caerfyrddin, ond ni fu llawer yn bresennol yn y cyfarfodydd hyn. Felly, defnyddir yr orsaf heddlu symudol o dro i dro yng nghanol y dref er mwyn i breswylwyr a pherchnogion busnes siarad â’r tîm am unrhyw faterion a allai fod yn achosi pryder iddynt. Cadwch lygad ar y gwefan hwn a’r wasg leol am ddyddiadau yn 2012.

Arolygydd Steve Lee 2032

  • Steve Lee

    Ymunodd yr Arolygydd Steve Lee â Heddlu Dyfed-Powys ym 1996 ar ôl gweithio yn y diwydiant gwasanaethau cyhoeddus am 19 mlynedd. Bu’n gweithio fel PC yn Rhydaman a Chydweli cyn cael ei ddyrchafu’n Sarjant. Yna, bu’n gweithio yn Llanelli, Llambed a Sanclêr cyn cychwyn yn ei swydd gyfredol fel Arolygydd dros Adran Caerfyrddin Wledig. Dywedodd: “Rwy’n byw yn lleol ac mae’r ffaith fy mod yn gyfarwydd â’r gymuned leol wedi fy helpu i adnabod a delio gyda phryderon a phroblemau'r adran hon. Rwy’n disgwyl ymlaen i ehangu’r cysylltiadau sydd eisoes wedi cael eu ffurfio gyda’r cymunedau lleol a’n partner-asiantaethau, gyda’r bwriad o leihau nifer y troseddau a’r achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac i godi proffil fy nhîm plismona bro.”

Sarjant Mark McSweeney 943

  • Mark McSweeney

    Mae Sarjant Mark McSweeney wedi bod gyda Heddlu Dyfed-Powys ers dwy flynedd bellach. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio gyda’r timoedd plismona bro ledled Ardal Caerfyrddin, gan gynnwys Tref Caerfyrddin, Gogledd Caerfyrddin, Gorllewin Caerfyrddin, Llangynnwr a Llanismel. Cyn symud at Heddlu Dyfed-Powys, treuliodd wyth mlynedd gyda Heddlu Llundain, lle y bu hefyd yn gweithio fel Sarjant Plismona Bro.

PC Ian Thomas 732

  • Ymunodd PC Ian Thomas â’r Tîm Plismona Bro ym mis Chwefror 2008.  Bu’n gweithio yn Noc Penfro ac Abergwaun cyn cael swydd fel Hyfforddwr Ffitrwydd Corfforol a Hunanamddiffyn yr Heddlu, swydd y bu ynddi am ddeng mlynedd.   Mae’n dod o Lanelli yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerfyrddin am nifer o flynyddoedd bellach a chafodd ei blant eu haddysg yn yr ardal hon.  Mae’n seiclwr brwd sy’n defnyddio’i feic ar gyfer cadw’n heini a theithio i’r gwaith.  Dywedodd Ian, “Ar ôl bod mewn rôl anweithrediadol am amser maith, mae’n braf bod nôl ar y bît a mynd allan a chyfarfod pobl.   Mae yna bwyslais o fewn y tîm ar waith partneriaeth ac rwy’n mwynhau rhyngweithio gydag asiantaethau eraill a defnyddio dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar ddatrys problemau.”

PC Carl Mann 1030

  • Ymunodd PC Carl Mann â’r tîm ym mis Ionawr 2009.   Bu’n gweithio i Heddlu Dyffryn Tafwys yn High Wycombe ers 1992.  Yno bu’n gweithio mewn ardaloedd gweledig a threfol cyn mynd yn Diwtor-Gwnstabl.  Ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys yn 2001, gan weithio yn Hwlffordd a Hendy-gwyn cyn trosglwyddo i Gaerfyrddin.   Cafodd ei eni yn Abertawe a symudodd i Sanclêr yn 1971, ac arhosodd ei deulu yn yr ardal honno pan ymunodd yntau â Heddlu Dyffryn Tafwys.   Ei ddiddordebau hamdden yw gyrru beiciau modur a cherdded bryniau, naill ai yma yng Nghymru neu yn Nepal.  Dywedodd, “Yr hyn yr wyf yn ei hoffi fwyaf am Blismona Bro yw helpu’r gymuned a’r henoed.  Rwyf hefyd yn mwynhau helpu’r swyddogion shifft craidd i ddelio â throseddau ac ymholiadau eraill sy’n rhaid eu gwneud er mwyn cau pen y mwdwl ar achosion.”

PCSO Bethan Hodgkinson 8030

  • Bethan Hodgkinson

    Mae PCSO Bethan Hodgkinson yn dod o ogledd Cymru’n wreiddiol. Symudodd i Gaerfyrddin ym mis Medi 2002 i fynd i Goleg y Drindod i astudio Theatr, Cerddoriaeth ac Astudiaethau’r Cyfryngau, a graddiodd yn 2005 gyda gradd Baglor yn y Celfyddydau. Dechreuodd ei gyrfa i Heddlu Dyfed-Powys yn Rhagfyr 2005 wrth iddi weithio ar y dderbynfa ym Mhencadlys yr Heddlu, ac ym mis Mai 2006 gwireddodd ei gwir awydd i fod allan yn y gymuned yn datrys problemau cymunedol wrth iddi gael ei phenodi’n Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu.

Digwyddiadau

  • Bydd yr orsaf heddlu symudol ar gael ar gyfer cyngor atal trosedd.       

    Y Cei, Caerfyrddin
    Dydd Sadwrn 30 Mehefin, 10:00am - 4:00pm