Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Gorllewin Caerfyrddin (Tre Ioan a'r Drindod)

Ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig ag alcohol gyda’r nos ar Ffordd y Coleg, o Brifysgol y Drindod Dewi Sant i Ysgol Model

  • Dydd Llun, Mehefin 6, 2011
    Mer 21 Rhag 2011
    Amh.

    20/12/2011 -

    • Cynnal nifer o batrolau amlwg yn yr ardal, gan gynnwys Prifysgol y Drindod, Ffordd y Coleg, Parcmaen a’r ardaloedd cyfagos.
    • Anfonwyd llythyrau i bob myfyriwr trwy Brifysgol y Drindod er mwyn tynnu sylw at y materion a godwyd.
    • Mae Bar Undeb Myfyrwyr Prifysgol y Drindod yn y broses o ymgysylltu â’r Heddlu drwy gymryd rhan yn y cynllun Bihafio neu Cewch Eich Banio (BOBB), ac mae swyddogion wedi cynnal gwiriad trwyddedu.
    • Cafwyd sylwadau cadarnhaol gan breswylwyr yr ardal mewn cyfarfod diweddar, ac mae tystiolaeth yn dangos bod ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi gostwng yn yr ardal. Serch hynny, bydd y Tîm Plismona Bro yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn ystod y misoedd i ddod.

    05/10/11 -

    • Parhawyd i ymgysylltu â Phrifysgol y Drindod Dewi Sant gyda’r Tîm Plismona Bro yn cynnal nifer o sgyrsiau gyda’r myfyrwyr i’w hatgoffa o’u dyletswyddau pan allan yn y gymuned.
    • Presenoldeb yn Ffair y Glas er mwyn cyfarfod â myfyrwyr newydd a’u gwneud yn ymwybodol o’r materion a godwyd gan aelodau’r gymuned.
    • Cynyddwyd patrolau yn yr ardal yn ystod yr oriau brig a nodwyd gan y gymuned.
    • Anfonir llythyr i bob myfyriwr drwy Brifysgol y Drindod er mwyn tynnu sylw at y materion a godwyd.

    06/06/11 -

    • Ymgysylltu â Phrifysgol y Drindod Dewi Sant mewn perthynas ag atgyweirio’r ffens ar hyd y terfyn. Cred trigolion lleol ei bod yn broblemus.
    • Cynyddu patrolau yn yr ardal yn ystod yr oriau brig a nodwyd gan aelodau’r gymuned.
    • Ymgysylltu â swyddogion trwyddedu o Heddlu Dyfed-Powys a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Cerbydau’n goryrru ar Ffordd y Coleg a Heol Ffynnon Job

  • Dydd Llun, Mehefin 6, 2011
    Mer 21 Rhag 2011
    Amh.

    20/12/2011 - Mae rhagor o ymgyrchoedd goryrru wedi’u trefnu ar gyfer y misoedd sydd i ddod a fydd yn cyd-redeg â’r Ymgyrch Dim Yfed a Gyrru Cymru Gyfan.

    05/10/11 - Cynhaliwyd gwiriadau cyflymder yn yr ardal gyda’r canlyniadau canlynol
     
    Heol Ffynnon Job: Cyfeiriwyd 2 i’r rhaglen ymwybyddiaeth cyflymder a rhoddwyd 1 hysbysiad cosb benodedig
     
    Ymgysylltiad pellach gydag Adran Priffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â chyflwyno mesurau tawelu traffig

    06/06/11 -

    • Yr ardal hon i’w thargedu gan y Tîm Plismona Bro a fydd yn defnyddio gwn mesur cyflymder i fonitro modurwyr.
    • Ymgysylltu a’r Uned Plismona’r Ffyrdd er mwyn monitro modurwyr.
    • Ymgysylltu ag Adran Priffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â chyflwyno mesurau tawelu traffig.

Pobl ifanc yn ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol ym Mharc y Ffordd, Tre Ioan

  • Dydd Llun, Mehefin 6, 2011
    Mer 18 Ion 2012
    Amh.

    18/01/2012 -

    Mae’r heddlu hefyd yn edrych ar gyfeiriad problemus yn ardal Parc y Ffordd, Tre Ioan.

    Mae’r heddlu hefyd yn gweithio gydag asiantaethau eraill er mwyn mynd i’r afael â phryderon preswylwyr mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

    Mae cyfnod monitro ar waith ac mae tystiolaeth yn cael ei chasglu rhag ofn fydd y broblem yn gwaethygu.

     

    20/12/2011 - Parhau i ymgysylltu â Chymdeithas Tai Bro Myrddin mewn perthynas â materion o fewn yr ystâd.

    05/10/11 -

    • Cynyddu patrolau yn yr ardal a chysylltu â’r trigolion lleol yn rheolaidd
    • Ymgysylltu ag Asiantaeth Tai Bro Myrddin mewn perthynas â materion o fewn yr ystâd. Hefyd, gweithio gydag asiantaethau partner a’r trigolion sy’n ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol

Menter Lleihau Trosedd yn Ystâd Ddiwydiannol Cillefwr

  • Dydd Iau, Hydref 6, 2011
    Mer 21 Rhag 2011
    Amh.

    20/12/2011 - Yn dilyn y cyfarfod ar gyfer perchnogion/rheolwyr busnes ar Ystâd Ddiwydiannol Cillefwr, mae nifer o fusnesau wedi cofrestru ar gyfer y Cyswllt Gwarchod Ar-lein, sy’n darparu cyswllt cyfathrebu dwy ffordd rhwng busnesau a’r heddlu er mwyn helpu i atal a datrys troseddau.

    05/10/11 - O ganlyniad i gynnydd cenedlaethol o ran lladradau tanwydd a metel sgrap, mae Tîm Plismona Bro Caerfyrddin wedi gwahodd perchnogion/rheolwyr busnesau ar Ystâd Ddiwydiannol Cillefwr, Tre Ioan i gyfarfod er mwyn trafod eu diogelwch, atal trosedd a lansiad Gwarchod Busnesau. Bydd hyn yn cynnwys sefydlu Cyswllt Gwarchod Ar-lein

Arolygydd Steve Lee 2032

  • Steve Lee

    Ymunodd yr Arolygydd Steve Lee â Heddlu Dyfed-Powys ym 1996 ar ôl gweithio yn y diwydiant gwasanaethau cyhoeddus am 19 mlynedd. Bu’n gweithio fel PC yn Rhydaman a Chydweli cyn cael ei ddyrchafu’n Sarjant. Yna, bu’n gweithio yn Llanelli, Llambed a Sanclêr cyn cychwyn yn ei swydd gyfredol fel Arolygydd dros Adran Caerfyrddin Wledig. Dywedodd: “Rwy’n byw yn lleol ac mae’r ffaith fy mod yn gyfarwydd â’r gymuned leol wedi fy helpu i adnabod a delio gyda phryderon a phroblemau'r adran hon. Rwy’n disgwyl ymlaen i ehangu’r cysylltiadau sydd eisoes wedi cael eu ffurfio gyda’r cymunedau lleol a’n partner-asiantaethau, gyda’r bwriad o leihau nifer y troseddau a’r achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac i godi proffil fy nhîm plismona bro.”

Sarjant Mark McSweeney 943

  • Mark McSweeney

    Mae Sarjant Mark McSweeney wedi bod gyda Heddlu Dyfed-Powys ers dwy flynedd bellach. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio gyda’r timoedd plismona bro ledled Ardal Caerfyrddin, gan gynnwys Tref Caerfyrddin, Gogledd Caerfyrddin, Gorllewin Caerfyrddin, Llangynnwr a Llanismel. Cyn symud at Heddlu Dyfed-Powys, treuliodd wyth mlynedd gyda Heddlu Llundain, lle y bu hefyd yn gweithio fel Sarjant Plismona Bro.

PC Craig Williams 1036

  • Craig Williams

    Ymunodd PC Craig Williams â Heddlu Dyfed-Powys yn 2001. Gweithiodd yn Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan cyn symud i Ranbarth Sir Gaerfyrddin gan weithio yn Llanelli, Porth Tywyn a Chaerfyrddin.
    Yn ystod ei wasanaeth, mae wedi’i hyfforddi fel Tiwtor Gwnstabl, Swyddog Tîm Chwilio, ac mae’n gymwys ar gyfer dyrchafiad i’r rheng nesaf. Mae’n olffiwr brwd ac yn mwynhau’r rhan fwyaf o chwaraeon, yn ogystal â darllen am hanes milwrol.
    Dywedodd, "Rwyf wedi fy ngeni a’m magu yng Nghaerfyrddin, a chredaf fy mod yn ymwybodol o anghenion y gymuned drwy wybodaeth leol, a sut i ymdrin yn effeithiol â’u pryderon. Rwyf hefyd yn mwynhau cerdded o gwmpas y dref gan siarad ag amryw o aelodau’r gymuned gan gynnwys preswylwyr, ysgolion, busnesau bach a grwpiau cymunedol eraill”.

PCSO Sylvia Davies-Morris 8024

  • Sylvia Davies-Morris

    Ymunodd PCSO Sylvia Davies-Morris â Heddlu Dyfed-Powys fel PCSO ym Mhorth Tywyn ym mis Chwefror 2005. Mae wedi bod yn gweithio yng Nghaerfyrddin er mis Chwefror 2006. Cyn hynny bu’n gweithio i fanc HSBC am ddeunaw mlynedd.

Cyfarfodydd Bro

  • Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model, Heol y Coleg, Tre Ioan

Cymorthfeydd

  • Bob dydd Iau

    Tŵr Coleg y Drindod
    Dydd Iau 9 Chwefror, 2:00pm - 3:30pm
  • Ddydd Llun cyntaf bob mis.

    Canolfan Hamdden Caerfyrddin
    Dydd Llun 5 Mawrth, 6:00pm - 7:00pm
  • Bob dydd Mercher. Mae hwn ar gyfer myfyrwyr yr ysgol, staff a rheini’n unig.

    Ysgol y Frenhines Elisabeth
    Dydd Mercher 15 Chwefror, 12:30pm - 1:30pm