Cenarth, Castell Newydd Emlyn a Llangeler
Parcio y tu allan i Ysgol Gyfun Emlyn
-
CenarthDydd Mercher, Chwefror 22, 2012Sul 11 Maw 2012
Yn y cyfarfod Cyngor diwethaf, codwyd mater ynglŷn â cheir yn parcio y tu allan i Ysgol Gyfun Emlyn. Roedd pryder fod y cerbydau hyn yn achosi rhwystr. Y gofid oedd na fyddai disgyblion yn cael eu gweld wrth iddynt groesi’r heol oherwydd y modd yr oedd y cerbydau hyn wedi’u parcio.
22/02/2012 - Mae swyddogion wedi treulio llawer o amser y tu allan i'r’ ysgol gan siarad â pherchnogion y cerbydau ac esbonio canlyniadau posibl parcio yn y fath modd iddynt. Gadawyd nifer o daflenni ar ffenestri blaen y ceir hyn yn eu cynghori pam na ddylent barcio yn y fath modd a gofyn iddynt beidio â pharcio yno eto.
Ers hanner tymor, bu gwelliant mawr yn y modd y mae cerbydau’n cael eu parcio y tu allan i’r ysgol.
Cerbydau’n goryrru drwy bentref Drefach Felindre
-
LlangelerDydd Iau, Gorffennaf 7, 2011Sul 11 Maw 2012Amh.
04/01/2012 - Yn y cyfarfod PACT, derbyniwyd cwyn fod cerbydau wedi bod yn goryrru trwy Waungilwen a Drefach Felindre.
Mae swyddogion wedi treulio amser yn yr ardal gan fonitro cyflymder cerbydau.
Cerbydau’n parcio mewn modd sy’n achosi rhwystr a materion gwelededd ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol
-
Ysgol Penboyr, LlangelerDydd Iau, Gorffennaf 7, 2011Llun 23 Ebr 2012Amh.
07/02/2012 - Yn y cyfarfod PACT diwethaf, derbyniwyd nifer o gwynion am y ffordd y mae rhieni’n parcio’u cerbydau y tu allan i’r ysgol wrth gasglu eu plant ar ddiwedd y dydd.
Mae swyddogion wedi treulio llawer o amser y tu allan i’r ysgol gan gynghori rhieni os ydynt wedi parcio mewn modd a fyddai’n achosi rhwystr. Eisoes, bu gwelliant o ran y ffordd y mae ceir wedi parcio, ac nid oes galwadau wedi eu derbyn mewn perthynas â cherbydau’n achosi rhwystrau yn yr ardal.
Cyn hir, bydd yr ysgol yn derbyn llythyr a map wrth yr Heddlu yn eu cynghori ynghylch ble na ddylai cerbydau parcio. Anfonir y llythyrau hyn adref gyda’r plant fel bod y rhieni’n gwbl ymwybodol ynghylch ble i barcio.
Arolygydd Louise Bradshaw 2083
Ganed yr Arolygydd Louise Bradshaw yn Lloegr ond yna symudodd i Gymru gan fynychu Ysgol Gyfun Aberaeron a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth cyn ymuno â Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr. Dychwelodd i Geredigion yn 2002 gyda’i theulu a bu’n gweithio mewn gwahanol fannau ar draws y sir. Mae ganddi brofiad amrywiol ac eang gan iddi weithio mewn dinasoedd ac ardaloedd gwledig ac mewn nifer o feysydd megis plismona’r ffyrdd, y ddalfa, cudd-wybodaeth a diogelu’r cyhoedd.
Sarjant Simon Wright 53
Ymunodd y Sarjant Simon Wright â Heddlu Dyfed-Powys ym 1987. Bu’n gwasanaethu fel swyddog mewn iwnifform ym Mhowys, Sir Benfro a Cheredigion yn ogystal â pherfformio rôl Arolygydd Rhanbarthol a rheolwr Uned Datblygiad Proffesiynol Rhanbarth Sir Gaerfyrddin cyn cychwyn fel Sarjant Tîm Plismona Bro ardal Caerfyrddin Wledig. Mae ganddo Radd BA gydag Anrhydedd mewn Gwyddorau’r Heddlu o Brifysgol Morgannwg. Mae Sarjant Wright yn awyddus i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, cyffuriau a throseddau treisgar a’i nod yw gwella hyder cymunedau ardal Caerfyrddin Wledig yn yr heddlu.
Sarjant Alison Rees 843
Ganwyd a magwyd y Sarjant Alison Rees yn Sir Benfro. Ymunodd â Heddlu Afon a Gwlad yr Haf yn 1986 a threuliodd 8 mlynedd ym Mryste cyn trosglwyddo yn ôl ‘adref’ i Ddyfed-Powys yn 1994. Ar ôl dychwelyd, fe’i lleolwyd yng Ngorsaf Heddlu Aberteifi, lle mae wedi gwasanaethu fel Cwnstabl a Sarjant. Ym mis Ionawr 2007 ymunodd â’r Tîm Plismona Bro, a hi sy’n gyfrifol am oruchwylio’r Swyddogion Bro yng Nghanolbarth a De Ceredigion.
PC Ian Ayers 353
Mae PC Ian Ayers wedi bod yn swyddog heddlu ers 11 mlynedd, ac ar hyn o bryd, ef yw’r swyddog Plismona Bro ar gyfer Cenarth, Castellnewydd Emlyn a Llangeler. Ymunodd â’r tîm ym mis Mehefin 2011 ar ôl iddo fod yn swyddog bît yn yr ardal ers mis Chwefror 2007. Bu hefyd yn gweithio yn Llanelli, Rhydaman a Llwynhendy. Dywedodd, “Rwy’n teimlo bod y gallu i siarad Cymraeg yn fy ngalluogi i gyfathrebu’n well gyda’r cyhoedd yn yr ardal.”
PCSO Jeff Kedward 8059
Dechreuodd PCSO Jeff Kedward ei hyfforddiant ym mis Ionawr 2007, a bellach mae wedi’i leoli yng Nghastell Newydd Emlyn. Ar ôl ugain mlynedd yn ffarmwr llaeth, fe ddaeth yn borthor mewn clwb nos yng Nghaerfyrddin, ac yna treuliodd ddeunaw mis fel cwnstabl arbennig cyn dod yn PCSO.
PCSO Gareth Augustus 8005
Ymunodd PCSO Gareth Augustus 8005 â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Tachwedd 2011, ac mae e wedi ei leoli yng Nghastell Newydd Emlyn. Cyn ymuno â Heddlu Dyfed-Powys, gweithiodd am chwe blynedd yn y diwydiant adeiladu piblinellau. Mae’n chwaraewr rygbi brwd ac yn chwarae dros Glwb Rygbi Llandeilo. Mae’n edrych ymlaen at ymdrin â heriau plismona bro gwledig a bydd yn ymgysylltu ag aelodau’r gymuned er mwyn adnabod materion lleol.
Cyfarfodydd Bro
-
Capel Iwan Hall, Cenarth
-
Maes Llewelyn Day Centre
-
Llangeler Council Meetings
-
Cynhelir cyfarfod PACT ar nos Lun gyntaf bob yn ail fis yn Neuadd y Ddraig Goch, Drefach Felindre. Dyma gyfle i aelodau o’r cyhoedd sôn wrth yr Heddlu am unrhyw bryderon sydd ganddynt.
Neuadd y Ddraig Goch, Drefach FelindreDydd Llun 4 Mehefin, 7:30pm
-
Mer 11 Ebr 2012darllen mwy >>
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi croesawu’r ddedfryd a roddwyd i Reginald a Leila Gill heddiw yn Llys...
-
Gwen 16 Maw 2012darllen mwy >>
Mae apêl am dystion wedi’i lansio gan yr heddlu yn dilyn gwrthdrawiad traffig y ffyrdd difrifol...
-
Mer 01 Chwef 2012darllen mwy >>
Am 9pm yr hwyr ar 17 Ionawr, 2012, daethpwyd ar draws dyn oedd wrthi'n chwilio trwy gerbyd oedd...
-
Llun 23 Ion 2012darllen mwy >>
Mae trelar gwerth £700 a ddefnyddiwyd i gludo defaid wedi’i ddwyn o du allan i eiddo ym...
-
Iau 29 Rhag 2011darllen mwy >>
Mae tua ugain siswrn tocio wedi’u dwyn o siop B&Q yng Nghaerfyrddin.
Mae’r sisyrnau...


