Llangynnwr a Thregynnwr
Cerbydau’n goryrru yn ardal Llangynnwr
-
Dydd Iau, Chwefror 3, 2011Iau 20 Hyd 2011Amh.
03/10/11 - Mae mesurau tawelu traffig yn cael eu trefnu ar gyfer Rhiw Babell a fydd yn helpu i leihau goryrru yn yr ardal. Mae gwaith eisoes wedi cychwyn ar waelod y rhiw, ac mae hysbysiadau cynlluniau wediu rhoi i fyny er mwyn hysbysur gymuned ynghylch yr hyn sydd wedii drefnu ar gyfer yr ardal. Credir y bydd twmpathau ffordd yn cael eu gosod yn ardaloedd Rhiw Babell a Mount Pleasant. Mae targedu rhagweithiol yn parhau yn yr ardal hon, gydar TPlismona Bro yn cynnal ymgyrchoedd ad hoc gydar gwn mesur cyflymder.
03/02/11 - Parhau i fonitro ardaloedd yn Llangynnwr a’r cyffiniau. Bydd y gwn mesur cyflymder yn cael ei ddefnyddio ledled y ward. Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin hefyd yn bwriadu symud ymlaen â’r cynlluniau ar gyfer cyfyngiad cyflymder o 40mya ym mhentref Nantycaws.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Tregynnwr
-
Dydd Iau, Chwefror 3, 2011Iau 20 Hyd 2011Amh.
03/10/11 - Cynhaliwyd patrolau ac ymholiadau mewn perthynas ⠭aterion ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wedi bod yn effeithio ar y ward. O ganlyniad i hyn, daethpwyd o hyd i droseddau graffiti yn ardaloedd y parc ar arosfan bws yn Llangynnwr. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gydar Cyngor Cymuned gyda chyfiawnder adferol mewn golwg, ir troseddwyr lanhaur difrod.
Hefyd, rydym yn parhau i gasglu cudd wybodaeth ac ymchwilio ir mater o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws y ward, gan ymdrin ⠴hroseddwyr yn gyflym a phriodol.08/03/11 - Cynhaliodd y Tîm Plismona Bro ymgyrch amlasiantaethol gydag Uned Plismona’r Ffyrdd a Thîm Gorfodi Amgylcheddol Cyngor Sir Gaerfyrddin. Cynhaliwyd yr ymgyrch ym mharciau mân-werthu Pensarn a Rhiw’r Myrtwydd a’r ardaloedd cyfagos. Bwriad yr ymgyrch oedd mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud â cheir, a gollwng sbwriel.
Cafwyd y canlyniadau canlynol:
Gollwng sbwriel -
- 2 Lythyr rhybudd
- 1 Hysbysiad Cosb Benodedig
Traffig -
2 Orchymyn Cynllun Atgyweirio Diffygion Cerbydau
8 Hysbysiad Cosb Benodedig – fel a ganlyn:
- 2 Am yrru cerbyd mewn cyflwr peryglus
- 1 goleuadau’n fflachio heb awdurdod
- 1 goryrru
- 1 gwregys ddim yn cael ei wisgo
- 2 defnyddio goleuadau niwl yn ddiangen
- 1 Gwydr tywyll / arlliw yn wahanol i’r hyn a ragnodwyd
03/02/11 - Mae Gwasanaethau Ieuenctid eisoes wedi cynnal twrnamaint pêl-droed yn cynnwys pobl ifanc o ardal Tregynnwr, a ddaeth yn drydydd. Mae cynlluniau ar gyfer gêm posibl rhwng y bobl ifanc a’r Heddlu nawr yn cael eu trafod.
Parcio y tu allan i Ysgol Llangynnwr
-
Dydd Iau, Chwefror 3, 2011Iau 20 Hyd 2011Amh.
03/10/11 - Maer system un ffordd bellach yn weithredol, fodd bynnag, rydym wedi derbyn nifer o gwynion yn ddiweddar ynghylch cerbydaun parcio yn ardal Haulfryn, Tregynnwr. Mae hyn wedi cynyddu tagfeydd traffig, ac mae pryderon ynghylch cerbydaun cael eu difrodi o ganlyniad i ddrysaun bwrw yn erbyn cerbydau wediu parcio wrth eu hagor. Cynhaliwyd patrolau, ac maer sefyllfan cael ei monitro. Gofynnir i bob rhiant syn cludou plant ir ysgol mewn car i fod yn ofalus wrth barcio eu cerbydau. Bydd y TPlismona Bro yn cynnal gwaith partneriaeth pellach gydar ysgol er mwyn ceisio datrys y mater.
03/02/11 - Bydd y cynigion ar gyfer mesurau rheoli traffig yn mynd yn eu blaen. Bydd parth 20mya ar hyd Lôn Pen y Morfa yn cael ei gyflwyno, yn ogystal â chynllun diogelwch y ffyrdd newydd. Hefyd, mae’r ysgol wedi derbyn ymateb cadarnhaol gan rieni mewn perthynas â system un ffordd wirfoddol, lle y gofynnwyd i rieni sy’n mynd â’u plant i’r ysgol mewn ceir yrru ar hyd Lôn Pen y Morfa i gyfeiriad Rhiw’r Babell. Gobeithir y bydd hyn yn gwella llif y traffig, ac yn cynorthwyo gyda materion parcio yn yr ardal yn ystod oriau brig.
Arolygydd Steve Lee 2032
Ymunodd yr Arolygydd Steve Lee â Heddlu Dyfed-Powys ym 1996 ar ôl gweithio yn y diwydiant gwasanaethau cyhoeddus am 19 mlynedd. Bu’n gweithio fel PC yn Rhydaman a Chydweli cyn cael ei ddyrchafu’n Sarjant. Yna, bu’n gweithio yn Llanelli, Llambed a Sanclêr cyn cychwyn yn ei swydd gyfredol fel Arolygydd dros Adran Caerfyrddin Wledig. Dywedodd: “Rwy’n byw yn lleol ac mae’r ffaith fy mod yn gyfarwydd â’r gymuned leol wedi fy helpu i adnabod a delio gyda phryderon a phroblemau'r adran hon. Rwy’n disgwyl ymlaen i ehangu’r cysylltiadau sydd eisoes wedi cael eu ffurfio gyda’r cymunedau lleol a’n partner-asiantaethau, gyda’r bwriad o leihau nifer y troseddau a’r achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac i godi proffil fy nhîm plismona bro.”
Sarjant Mark McSweeney 943
Mae Sarjant Mark McSweeney wedi bod gyda Heddlu Dyfed-Powys ers dwy flynedd bellach. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio gyda’r timoedd plismona bro ledled Ardal Caerfyrddin, gan gynnwys Tref Caerfyrddin, Gogledd Caerfyrddin, Gorllewin Caerfyrddin, Llangynnwr a Llanismel. Cyn symud at Heddlu Dyfed-Powys, treuliodd wyth mlynedd gyda Heddlu Llundain, lle y bu hefyd yn gweithio fel Sarjant Plismona Bro.
Cymorthfeydd
-
Pob dydd Mercher
Cymhortha symudol yn archfarchnad MorrisonsDydd Mercher 8 Chwefror, 3:00pm - 4:00pm -
Pob dydd Llun
Cymhorthfa agored yn Yr Aelwyd yn NhregynnwrDydd Llun 13 Chwefror, 6:00pm - 8:00pm -
Phob yn ail ddydd Sadwrn.
Cymhorthfa agored yn Yr Aelwyd yn NhregynnwrDydd Sadwrn 11 Chwefror, 4:00pm - 6:00pm
-
Mer 01 Chwef 2012darllen mwy >>
Am 9pm yr hwyr ar 17 Ionawr, 2012, daethpwyd ar draws dyn oedd wrthi'n chwilio trwy gerbyd oedd...
-
Llun 23 Ion 2012darllen mwy >>
Mae trelar gwerth £700 a ddefnyddiwyd i gludo defaid wedi’i ddwyn o du allan i eiddo ym...
-
Iau 29 Rhag 2011darllen mwy >>
Mae tua ugain siswrn tocio wedi’u dwyn o siop B&Q yng Nghaerfyrddin.
Mae’r sisyrnau...
-
Mer 14 Rhag 2011darllen mwy >>
Mae beic modur Honda wedi’i ddwyn o ardd gefn yng Nghaerfyrddin.
Aed â’r...
-
Mer 14 Rhag 2011darllen mwy >>
Mae ymchwiliadau’n cael eu cynnal i ddwy fyrgleriaeth a ddigwyddodd yng Nghwmffrwd rhwng y 1af a...


