Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Llansteffan, Talacharn a Hendy-gwyn ar Daf

Dim blaenoriaeth

  • Llansteffan
    Dydd Mawrth, Ionawr 24, 2012
    Gwen 27 Ion 2012

    Ni osodwyd blaenoriaeth ar gyfer yr ardal. Fodd bynnag, os oes gan aelodau’r cyhoedd unrhyw fater yr hoffent drafod gyda’r Tîm Plismona Bro lleol ar gyfer yr ardal, cysylltwch â Thîm Plismona Bro Caerfyrddin Wledig drwy alw 101 neu drwy anfon e-bost at CarmarthenRuralNPT@dyfed-powys.pnn.police.uk
    Nid yw’r Tîm Plismona Bro yn cynnal cyfarfodydd PACT chwarterol gydag aelodau’r gymuned bellach. Fodd bynnag, mae aelodau’r Tîm Plismona Bro yn cyfarfod yn rheolaidd â Chynghorwyr etholedig yr ardal yn ogystal ag asiantaethau partner er mwyn trafod unrhyw broblemau sy’n codi a darganfod

Ymddygiad gwrthgymdeithasol ar Ystâd Parc y Berllan

  • Talacharn
    Dydd Mawrth, Ionawr 24, 2012
    Gwen 27 Ion 2012

    Mae Tîm Plismona Bro Caerfyrddin Wledig yn derbyn nifer o gwynion mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar yr ystâd.

    Cynyddir nifer y patrolau yn yr ardal er mwyn mynd i’r afael â’r mater. Os oes unrhyw aelod o’r cyhoedd yn dymuno trafod y mater, cysylltwch ag unrhyw aelod o Dîm Plismona Bro Caerfyrddin Wledig drwy alw 101 neu drwy anfon e-bost at CarmarthenRuralNPT@dyfed-powys.pnn.police.uk

    Nid yw’r Tîm Plismona Bro yn cynnal cyfarfodydd PACT chwarterol gydag aelodau’r gymuned bellach. Fodd bynnag, mae aelodau’r Tîm Plismona Bro yn cyfarfod yn rheolaidd â Chynghorwyr etholedig yr ardal yn ogystal ag asiantaethau partner er mwyn trafod unrhyw broblemau sy’n codi a darganfod datrysiadau er mwyn lleddfu’r problemau hynny.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghyffiniau Stryd Sant Ioan

  • Whitland
    Dydd Mawrth, Ionawr 24, 2012
    Gwen 27 Ion 2012
    Amh.

    Bydd Tîm Plismona Bro Caerfyrddin Wledig yn parhau i gynyddu patrolau yn yr ardal gan sicrhau presenoldeb heddlu amlwg er mwyn gwneud ein cymunedau’n ddiogelach drwy fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

    Nid yw’r Tîm Plismona Bro yn cynnal cyfarfodydd PACT chwarterol gydag aelodau’r gymuned bellach. Fodd bynnag, mae aelodau’r Tîm Plismona Bro yn cyfarfod yn rheolaidd â Chynghorwyr etholedig yr ardal yn ogystal ag asiantaethau partner er mwyn trafod unrhyw broblemau sy’n codi a darganfod datrysiadau er mwyn lleddfu’r problemau hynny.  

     

    Mae Tîm Plismona Bro Caerfyrddin Wledig yn derbyn nifer o gwynion mewn perthynas â phobl ifainc yn ymgasglu yng nghyffiniau Stryd Sant Ioan, Hendy-gwyn. Bu’r tîm yn ymgysylltu â’r Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac maent wedi cynyddu patrolau yn yr ardal.

Blaenoriaethau Blaenorol

Gwen, Ionawr 27, 2012

  • Er mwyn darganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi, neu i riportio problem neu fater gall yr heddlu ymdrin ag ef, gallwch gysylltu â’ch tîm plismona bro lleol drwy alw 101 neu drwy anfon e-bost at CarmarthenRuralNPT@dyfed-powys.pnn.police.uk

Arolygydd Steve Lee 2032

  • Steve Lee

    Ymunodd yr Arolygydd Steve Lee â Heddlu Dyfed-Powys ym 1996 ar ôl gweithio yn y diwydiant gwasanaethau cyhoeddus am 19 mlynedd. Bu’n gweithio fel PC yn Rhydaman a Chydweli cyn cael ei ddyrchafu’n Sarjant. Yna, bu’n gweithio yn Llanelli, Llambed a Sanclêr cyn cychwyn yn ei swydd gyfredol fel Arolygydd dros Adran Caerfyrddin Wledig. Dywedodd: “Rwy’n byw yn lleol ac mae’r ffaith fy mod yn gyfarwydd â’r gymuned leol wedi fy helpu i adnabod a delio gyda phryderon a phroblemau'r adran hon. Rwy’n disgwyl ymlaen i ehangu’r cysylltiadau sydd eisoes wedi cael eu ffurfio gyda’r cymunedau lleol a’n partner-asiantaethau, gyda’r bwriad o leihau nifer y troseddau a’r achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac i godi proffil fy nhîm plismona bro.”

Sarjant Simon Wright 53

  • Ymunodd y Sarjant Simon Wright â Heddlu Dyfed-Powys ym 1987.  Bu’n gwasanaethu fel swyddog mewn iwnifform ym Mhowys, Sir Benfro a Cheredigion yn ogystal â pherfformio rôl Arolygydd Rhanbarthol a rheolwr Uned Datblygiad Proffesiynol Rhanbarth Sir Gaerfyrddin cyn cychwyn fel Sarjant Tîm Plismona Bro ardal Caerfyrddin Wledig.   Mae ganddo Radd BA gydag Anrhydedd mewn Gwyddorau’r Heddlu o Brifysgol Morgannwg.  Mae Sarjant Wright yn awyddus i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, cyffuriau a throseddau treisgar a’i nod yw gwella hyder cymunedau ardal Caerfyrddin Wledig yn yr heddlu.

PC Paula Smith 618

  • Ymunodd PC Paula Smith â’r Heddlu yn 2002, ar ôl treulio dwy flynedd ar bymtheg fel postfeistres gyda Swyddfa’r Post. Bu’n gweithio yng Nghaerfyrddin i ddechrau cyn symud i adran Sanclêr, sy’n gyfrifol am Lansteffan, Lacharn, Pentywyn a Hendy-gwyn. Dywedodd Paula: “Rwy’n hapus iawn i fod yn swyddog lleol gyda chyfrifoldeb dros yr ardaloedd hyn ac rwyf wrth fy modd â’r gwaith, yn enwedig cyfarfod ag aelodau o’r cyhoedd. Gan fy mod yn ferch leol, mae gennyf ddiddordeb personol mewn gwasanaethu’r cymunedau hyn.”

PCSO Emma Morgans 8070

  • Ymunodd PCSO Emma Morgans â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Rhagfyr 2008, a bu’n gweithio am gyfnod fel PCSO rhan amser yn ardal Crymych.  Symudodd i Ranbarth Sir Gaerfyrddin ym mis Medi 2009.  Mae wedi’i lleoli yn Hendy-gwyn yn awr ac mae’n edrych ymlaen at gydweithio gyda chymunedau’r ardal.

Cyfarfodydd Bro

  • Yn anffodus, ni fydd cyfarfodydd PACT yn cael eu cynnal mwyach oherwydd diffyg presenoldeb. Yn lle cyfarfodydd PACT, byddwn yn cynnal sesiynau briffio stryd a fydd yn cynnwys siarad â’r cyhoedd a derbyn gwybodaeth ynghylch anghenion/pryderon cymunedau trwy lenwi holiaduron gydag aelodau o’r gymuned pan fyddwn allan ar batrôl. Bydd y dull newydd hwn yn ein galluogi ni i siarad â mwy o bobl a chasglu mwy o wybodaeth yn ymwneud â’r gymuned. Cedwir yr holiaduron hyn yng ngorsafoedd heddlu Sanclêr a Hendy-gwyn a dim ond staff sydd yn gysylltiedig â’r broses fydd yn eu gweld. Defnyddir y wybodaeth hon i’n helpu i dargedu materion ac ymateb i anghenion plismona pob cymuned. Bydd yr holiaduron hyn yn edrych ar y problemau sy’n effeithio ar eich stryd/cymuned ar hyn o bryd, pryd y mae’r problemau hyn yn digwydd, p’un ai ydych chi wedi gwneud rhywbeth ynglŷn â’r problemau hyn, ac os ydych chi, beth oedd y canlyniad? Byddai hefyd yn edrych ar yr hyn rydych chi am i’r heddlu ac asiantaethau partner wneud am y mater, yn ogystal ag unrhyw beth arall yr hoffech ddweud wrthym.