Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Llanybydder, Pencarreg a Llanfihangel Ar Arth

Yfed alcohol ar gaeau chwarae Llanybydder

  • Llanybydder
    Dydd Gwener, Ebrill 8, 2011
    Gwen 08 Ebr 2011
    Amh.

Goryrru

  • New Inn a Gwyddgrug
    Dydd Gwener, Ebrill 8, 2011
    Gwen 08 Ebr 2011
    Amh.

Blaenoriaethau Blaenorol

Sarjant Simon Wright 53

  • Ymunodd y Sarjant Simon Wright â Heddlu Dyfed-Powys ym 1987.  Bu’n gwasanaethu fel swyddog mewn iwnifform ym Mhowys, Sir Benfro a Cheredigion yn ogystal â pherfformio rôl Arolygydd Rhanbarthol a rheolwr Uned Datblygiad Proffesiynol Rhanbarth Sir Gaerfyrddin cyn cychwyn fel Sarjant Tîm Plismona Bro ardal Caerfyrddin Wledig.   Mae ganddo Radd BA gydag Anrhydedd mewn Gwyddorau’r Heddlu o Brifysgol Morgannwg.  Mae Sarjant Wright yn awyddus i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, cyffuriau a throseddau treisgar a’i nod yw gwella hyder cymunedau ardal Caerfyrddin Wledig yn yr heddlu.

Sarjant Delme Rees 515

  • Rhingyll Plismona Bro canolbarth Ceredigion yw Rhingyll 515 Delme Rees. Wedi cyflawni'r un rôl yn ardal Aberystwyth, mae nawr yn edrych ymlaen at fynd i'r afael â phroblemau yn ei gymuned leol trwy fod yn hygyrch, a thryw gefnogi ei heddweision i gyflawni'r blaenoriaethau cymunedol a nodwyd.

PC Stephen Greensmyth 427

  • Trosglwyddodd PC Stephen Greensmyth i Heddlu Dyfed-Powys yn 2007 ar ôl 20 mlynedd o wasanaeth yn Heddlu Llundain. Bu’n gweithio mewn amryw o rolau gan gynnwys dyletswyddau ymateb mewn lifrau, lle bu’n treulio amser fel Swyddog Cymunedol Lleol ar ystâd dai yng nghanol dinas Llundain. Treuliodd tair blynedd yn hyfforddi heddweision newydd ac am y pedair blynedd diwethaf bu’n gweithio fel Swyddog CID yn ngorllewin Llundain. Mae ei deulu’n hanu o bentref bach y tu allan i Gaerfyrddin ac roedd bob amser yn fwriad ganddo ddychwelyd i Gymru. Mae’n teimlo’n freintiedig i gael bod yn swyddog cymunedol lleol ar gyfer ardal Tregaron ac i fod yn gallu ymdrin â materion y mae pobl yn dymuno i’w heddlu lleol eu datrys.

Digwyddiadau

  • Er mwyn sicrhau fod cymunedau lleol yn derbyn lefel
    gwasanaeth priodol, bydd y Timoedd Plismona Bro sy’n
    cynrychioli ardaloedd Llanfihangel ar Arth a Llanybydder nawr yn bresennol mewn
    Cyfarfodydd Cyngor Cymunedol.

    Bydd aelodau o’r cyhoedd yn gallu defnyddio’r
    fforwm hwn er mwyn ymgysylltu â Thimoedd Plismona Bro a lleisio unrhyw bryderon
    penodol.

    Cynhelir pedwar cyfarfod ar wahân ar gyfer wardiau Llanfihangel-ar-arth, Llanllwni, Llanybydder a Phencarreg bob yn ail fis.

    Fel arall, os oes gennych unrhyw faterion plismona yr hoffech eu codi,
    gallwch gysylltu â chynrychiolydd Tîm Plismona Bro Pencader, PC Rhydian Jones,
    trwy alw 101. Fel arall, gallwch gysylltu ag un o’ch Cynghorwyr lleol a fydd yn
    dwyn sylw i’r mater yng nghyfarfod nesaf y Cyngor.