Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Sanclêr, Llanboidy a Threlech

Speeding passed the school in the evenings and weekends - Llanboidy.

  • Llanboidy
    Dydd Mercher, Mawrth 21, 2012
    Iau 22 Maw 2012

    Derbyniwyd nifer o gwynion mewn perthynas â cherbydau’n goryrru i fyny ac i lawr y rhiw, gan fynd heibio’r ysgol. Mae hyn yn digwydd yn bennaf gyda’r hwyr ac ar benwythnosau.

Speeding in Pwll Trap, St Clears

  • St Clears - Pwll Trap
    Dydd Mercher, Mawrth 21, 2012
    Iau 22 Maw 2012

    Derbyniwyd nifer o gwynion mewn perthynas â cherbydau’n goryrru i fyny ac i lawr Pwll trap.

Speeding through Tenby road in St Clears

  • St Clears - Tenby Road
    Dydd Mercher, Mawrth 21, 2012
    Iau 22 Maw 2012

    Derbyniwyd nifer o gwynion mewn perthynas â cherbydau’n goryrru ar hyd Heol Dinbych-y-pysgod.

Trelech

  • Trelech
    Dydd Mercher, Mawrth 21, 2012
    Iau 22 Maw 2012

    Ni osodwyd blaenoriaeth ar gyfer yr ardal. Fodd bynnag, os oes gan aelodau’r cyhoedd unrhyw fater yr hoffent drafod gyda’r Tîm Plismona Bro lleol ar gyfer yr ardal, cysylltwch â Thîm Plismona Bro Caerfyrddin Wledig drwy alw 101 neu drwy anfon e-bost at CarmarthenRuralNPT@dyfed-powys.pnn.police.uk

Blaenoriaethau Blaenorol

Maw, Chwefror 07, 2012

  • Er mwyn darganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi, neu i riportio problem neu fater gall yr heddlu ymdrin ag ef, gallwch gysylltu â’ch tîm plismona bro lleol drwy alw 101 neu drwy anfon e-bost at CarmarthenRuralNPT@dyfed-powys.pnn.police.uk

Arolygydd Steve Lee 2032

  • Steve Lee

    Ymunodd yr Arolygydd Steve Lee â Heddlu Dyfed-Powys ym 1996 ar ôl gweithio yn y diwydiant gwasanaethau cyhoeddus am 19 mlynedd. Bu’n gweithio fel PC yn Rhydaman a Chydweli cyn cael ei ddyrchafu’n Sarjant. Yna, bu’n gweithio yn Llanelli, Llambed a Sanclêr cyn cychwyn yn ei swydd gyfredol fel Arolygydd dros Adran Caerfyrddin Wledig. Dywedodd: “Rwy’n byw yn lleol ac mae’r ffaith fy mod yn gyfarwydd â’r gymuned leol wedi fy helpu i adnabod a delio gyda phryderon a phroblemau'r adran hon. Rwy’n disgwyl ymlaen i ehangu’r cysylltiadau sydd eisoes wedi cael eu ffurfio gyda’r cymunedau lleol a’n partner-asiantaethau, gyda’r bwriad o leihau nifer y troseddau a’r achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac i godi proffil fy nhîm plismona bro.”

Sarjant Mark McSweeney 943

  • Mark McSweeney

    Mae Sarjant Mark McSweeney wedi bod gyda Heddlu Dyfed-Powys ers dwy flynedd bellach. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio gyda’r timoedd plismona bro ledled Ardal Caerfyrddin, gan gynnwys Tref Caerfyrddin, Gogledd Caerfyrddin, Gorllewin Caerfyrddin, Llangynnwr a Llanismel. Cyn symud at Heddlu Dyfed-Powys, treuliodd wyth mlynedd gyda Heddlu Llundain, lle y bu hefyd yn gweithio fel Sarjant Plismona Bro.

PC Martin Skinner 399

  • Ymunodd PC Martin Skinner â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Hydref 1988 a bu'n gweithio yn Llanelli yn y lle cyntaf. Fe drosglwyddodd i ranbarth Caerfyrddin ym mis Awst 1994 ac mae wedi’i leoli yn swyddfa heddlu Sanclêr er mis Chwefror 2003. Ymunodd â thîm bro Sanclêr ym mis Hydref 2006, ac ymhlith ei ardaloedd y mae Sanclêr, Llanboidy a Threlech.

PCSO Leighton Tipping 8092

  • Leighton Tipping

    Ymunodd SCCH Leighton Tipping â Heddlu Dyfed Powys yn Ebrill 2006.  Dechreuodd yng Nghanolfan Gyfathrebu'r Heddlu ym Mhencadlys yr Heddlu, yn trin galwadau brys 999 a galwadau difrys 101. Wedyn, bu'n gweithio yn yr Adran Gweithrediadau yn 2008 yn anfon heddweision i ymateb i alwadau, ac yn gweithio gydag asiantaethau eraill. Tra'r oedd yn gweithio yn yr adran gweithrediadau, roedd yn Gwnstabl Arbennig, yn gweithio o Orsaf Heddlu Caerfyrddin. Dechreuodd yn ei swydd yn SCCH ym Mai 2010, yn ardal Sanclêr, gan weithio yn ardaloedd Sanclêr a Hendy-gwyn.

Cyfarfodydd Bro

  • Yn anffodus, ni fydd cyfarfodydd PACT yn cael eu cynnal mwyach oherwydd diffyg presenoldeb. Yn lle cyfarfodydd PACT, byddwn yn cynnal sesiynau briffio stryd a fydd yn cynnwys siarad â’r cyhoedd a derbyn gwybodaeth ynghylch anghenion/pryderon cymunedau trwy lenwi holiaduron gydag aelodau o’r gymuned pan fyddwn allan ar batrôl. Bydd y dull newydd hwn yn ein galluogi ni i siarad â mwy o bobl a chasglu mwy o wybodaeth yn ymwneud â’r gymuned. Cedwir yr holiaduron hyn yng ngorsafoedd heddlu Sanclêr a Hendy-gwyn a dim ond staff sydd yn gysylltiedig â’r broses fydd yn eu gweld. Defnyddir y wybodaeth hon i’n helpu i dargedu materion ac ymateb i anghenion plismona pob cymuned. Bydd yr holiaduron hyn yn edrych ar y problemau sy’n effeithio ar eich stryd/cymuned ar hyn o bryd, pryd y mae’r problemau hyn yn digwydd, p’un ai ydych chi wedi gwneud rhywbeth ynglŷn â’r problemau hyn, ac os ydych chi, beth oedd y canlyniad? Byddai hefyd yn edrych ar yr hyn rydych chi am i’r heddlu ac asiantaethau partner wneud am y mater, yn ogystal ag unrhyw beth arall yr hoffech ddweud wrthym.

  • Bydd eich Tîm Plismona Bro yn cynnal briffiau Stryd yn eich ardal sef Sanclêr, Llanboidy a Thre-lech. Mae croeso i chi alw heibio a siarad â’r tîm i drafod unrhyw broblemau y teimlwch chi sy’n berthnasol.

    Sanclêr, Llanboidy a Thre-lech
    Dydd Iau 31 Mai, 9:00am - 3:00pm

Cymorthfeydd

  • Ar ddydd Mawrth 20 Mawrth, bydd eich Tîm Plismona Bro yn cynnal briffiadau stryd yn eich ardaloedd, sef Sanclêr, Llanboidy a Threlech. Mae croeso i chi alw heibio i siarad â’r tîm a thrafod unrhyw faterion yr ydych yn teimlo eu bod yn berthnasol. Nodwch yr amserau a roddir.

    Llanboidy – 09:30 – 10:30 – Maes parcio
    Sanclêr – 11:30 - 12:30 – Maes parcio’r Coach & Horses
    Trelech– 14:00 – 15:00

    Diweddariad - Cynhaliwyd cymorthfeydd ym mis Mawrth 2012 ym mhob ward yn yr adran. Fe fynychodd eich Tîm Plismona Bro amryw leoliadau a siarad ag amryw aelodau’r gymuned. Os oes gennych unrhyw broblemau y teimlwch chi sydd angen mynd i’r afael â hwy, mae croeso i chi ymuno â ni yn y gymhorthfa nesaf.

    Sanclêr, Llanboidy a Threlech