Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Llanismel

Mae’r blaenoriaethau ar gyfer Ward Llanismel o dan adolygiad ar hyn o bryd.

  • Dydd Gwener, Mawrth 18, 2011
    Gwen 18 Maw 2011
    Amh.

Blaenoriaethau Blaenorol

Arolygydd Steve Lee 2032

  • Steve Lee

    Ymunodd yr Arolygydd Steve Lee â Heddlu Dyfed-Powys ym 1996 ar ôl gweithio yn y diwydiant gwasanaethau cyhoeddus am 19 mlynedd. Bu’n gweithio fel PC yn Rhydaman a Chydweli cyn cael ei ddyrchafu’n Sarjant. Yna, bu’n gweithio yn Llanelli, Llambed a Sanclêr cyn cychwyn yn ei swydd gyfredol fel Arolygydd dros Adran Caerfyrddin Wledig. Dywedodd: “Rwy’n byw yn lleol ac mae’r ffaith fy mod yn gyfarwydd â’r gymuned leol wedi fy helpu i adnabod a delio gyda phryderon a phroblemau'r adran hon. Rwy’n disgwyl ymlaen i ehangu’r cysylltiadau sydd eisoes wedi cael eu ffurfio gyda’r cymunedau lleol a’n partner-asiantaethau, gyda’r bwriad o leihau nifer y troseddau a’r achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac i godi proffil fy nhîm plismona bro.”

Sarjant Mark McSweeney 943

  • Mark McSweeney

    Mae Sarjant Mark McSweeney wedi bod gyda Heddlu Dyfed-Powys ers dwy flynedd bellach. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio gyda’r timoedd plismona bro ledled Ardal Caerfyrddin, gan gynnwys Tref Caerfyrddin, Gogledd Caerfyrddin, Gorllewin Caerfyrddin, Llangynnwr a Llanismel. Cyn symud at Heddlu Dyfed-Powys, treuliodd wyth mlynedd gyda Heddlu Llundain, lle y bu hefyd yn gweithio fel Sarjant Plismona Bro.

Y cyfarfod nesaf i’w drefnu. Ffoniwch y rhif di-frys 101 i siarad â’ch Tîm Plismona Bro.