Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Felinfoel, Dafen a Dyffryn y Swistir

Ni osodwyd blaenoriaeth

  • Dafen
    Dydd Mawrth, Rhagfyr 6, 2011
    Llun 23 Ion 2012
    Amh.

    20/01/2012 - Ni osodwyd blaenoriaeth

    Os oes gan unrhyw un bryderon am hyn neu unrhyw faterion eraill yn yr ardal hon, neu os oes gennych wybodaeth a allai’n helpu i ymdrin â’r mater hwn, cysylltwch â ni drwy alw’r tîm ar 101, neu drwy anfon e-bost at steve.kettle@dyfed-powys.pnn.police.uk neu gary.payne@dyfed-powys.pnn.police.uk

     

     

  • Dyffryn y Swistir
    Dydd Mawrth, Rhagfyr 6, 2011
    Gwen 20 Ion 2012
    Amh.

    20/01/2012 - Ni osodwyd blaenoriaeth

    Os oes gan unrhyw un bryderon am hyn neu unrhyw faterion eraill yn yr ardal hon, neu os oes gennych wybodaeth a allai’n helpu i ymdrin â’r mater hwn, cysylltwch â ni drwy alw’r tîm ar 101, neu drwy anfon e-bost at steve.kettle@dyfed-powys.pnn.police.uk neu gary.payne@dyfed-powys.pnn.police.uk

     

Monitro defnydd maes parcio'r Ganolfan Adnoddau Cymunedol

  • Felinfoel
    Dydd Iau, Rhagfyr 8, 2011
    Llun 23 Ion 2012
    Amh.

    23/01/2012 - Mae’r gatiau nawr yn cael eu cloi gan ddefnyddio clo clap a ddarparwyd gan y Cyngor. Mae’r Heddlu’n monitro’r ardal gyda phatrolau ac nid oes troseddau wedi’u nodi hyd yn hyn.

    08/12/2011 - Mynegwyd pryder am broblemau'n ymwneud â maes parcio'r Ganolfan Adnoddau Cymunedol. Mae cerbydau'n dal i fynychu'r maes parcio yn hwyr y nos oherwydd nad yw'r  clwydi'n cael eu cau na'u cloi.

Blaenoriaethau Blaenorol

Sad, Ionawr 21, 2012

  •  

    CYNLLUN GWARCHOD CYMDOGAETH FELINFOEL

    Diolch am ddangos diddordeb mewn diogelu’ch cymuned, a helpu i atal a chanfod trosedd trwy fod yn rhan o gynllun Gwarchod Cymdogaeth Felinfoel. Y gymuned, nid yr heddlu, sy’n rhedeg y cynllun, gan gyd-weithio â’r heddlu yn Felinfoel a chanolbwyntio’n llwyr ar yr ardal honno. 
    Yr ethos tu ôl i’r cynllun Gwarchod Cymdogaeth yw creu cymuned sy’n gofalu am ei gilydd, gan weithio gyda’i gilydd i wneud gwell lle i fyw. Gwarchod Cymdogaeth yw un o’r mentrau atal trosedd mwyaf ei maint a mwyaf llwyddiannus a fu erioed. Fel preswylydd, mae gennych wybodaeth arbenigol am y gymuned; a thrwy hysbysu’r heddlu am unrhyw beth amheus a welwch neu a glywch, rydych chi’n lleihau’r cyfle i gyflawni trosedd. Nid ydych yn ysbïo ar eich cymdogion, rydych chi’n helpu i greu cymuned fwy diogel trwy ofalu am eich gilydd ac eiddo eich gilydd.
    Mae manteision eraill i’r cynllun, megis dod yn gyfarwydd â syniadau am atal trosedd a fydd yn eich helpu i’ch cadw chi a’ch eiddo’n ddiogel; ac o bosib, cewch ostyngiad gan eich cwmni yswiriant am fod cynllun Gwarchod Cymdogaeth yn eich ardal.

    Os ydych eisiau ymuno â’r Cynllun Gwarchod Cymdogaeth, gellir cael gwybodaeth drwy alw heibio i www.ourwatch.org.uk ar y we a rhoi’ch cod post i mewn, neu cysylltwch â PC 164 Steve Kettle ar 101 neu drwy e-bost ar steve.kettle@dyfed-powys.pnn.police.uk

    RHAI GWEFANNAU DEFNYDDIOL:
    www.mynhw.co.uk
    gwefan sy’n darparu gwybodaeth am y Cynllun Gwarchod Cymdogaeth, sy’n cynnwys straeon, gwybodaeth am weithdai hyfforddi, a syniadau megis cynlluniau gwarchod cymdogaeth i bobl ifanc.
    www.neighbourhoodwatch.net
    safwe sy’n cael ei chynnal gan fentrau eraill; eto gyda syniadau, fforymau a straeon newyddion.
    www.xray99.co.uk
    Safwe gan Heddlu Dyfed-Powys sydd yn rhoi cymorth a chyngor i bobl ifanc
    www.immobilise.com
    gwefan am ddim lle cewch gofrestru’ch eiddo ar-lein. Gall yr heddlu ei ddefnyddio yn ogystal â chwaer safleoedd i adnabod gwir berchnogion eiddo sydd wedi ei ddwyn a’i ddychwelyd atynt.
    www.ceop.gov.uk
    Mae Canolfan Camfanteisio ar Blant a’u Diogelu Ar-lein (CEOP) yn gweithio mewn amgylcheddau ar-lein ac all-lein i amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol. Ceir gwybodaeth lawn am bob maes gwaith yn ogystal â negeseuon diogelwch ar-lein a mynediad i riportio ar-lein. Mae yna ddolenni i FACEBOOK a dolen uniongyrchol at gyngor, cymorth a’r gallu i riportio problem i’r Ganolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein os ydynt yn poeni am ymddygiad rhywun tuag atynt ar-lein.

Arolygydd James Davies 2019

  • Mae’r Arolygydd James Davies wedi bod yn y gwasanaeth ers ugain mlynedd.  Treuliodd y cyfnod diweddaraf yn Sir Gaerfyrddin - yn Llanelli a Chaerfyrddin ac fel arolygydd plismona bro gyda chyfrifoldeb dros ardal Tywi-Gwendraeth. Mae e hefyd wedi ei hyfforddi’n gomander trefn gyhoeddus yr heddlu. Mae wedi gweithio yn ystafell reoli’r heddlu yn y Pencadlys yn Llangynnwr ac mae hefyd wedi gwasanaethu ym Mhowys a gyda Heddlu Metropolitan Llundain, lle bu’n gweithio am 8 mlynedd gyntaf ei yrfa gyda’r heddlu, gan weithio’n bennaf yng Ngorllewin a De Llundain.

Sarjant Eddie Donnelly 296

  • Ymunodd y Sarjant Eddie Donnelly â Heddlu Dyfed-Powys ym 1983.  Aeth i weithio yn gyntaf i Lanelli lle bu’n Gwnstabl ac yna’n Dditectif Gwnstabl  cyn cael ei ddyrchafu’n Sarjant yng Nghaerfyrddin ym 1989. Ers hynny, bu’n gweithio yn Cross Hands, Porth Tywyn, Llanelli a Rhydaman. Aeth i Felinfoel yn 2006 ac yna fe’i gwnaed yn gyfrifol am Lwynhendy and Felinfoel. Ar ddiwedd mis Mai 2010 gofynnwyd iddo fod yn gyfrifol dros Blismona Bro yn Llwynhendy a Felinfoel. Mae Sarjant Donnelly sy’n byw yn lleol yn ŵr priod ac mae ganddo ddau fab.

PC Steve Kettle 164

  • Ymunodd PC Steve Kettle â Heddlu Dyfed-Powys yn 2006.  Cyn hynny, bu’n gwasanaethu gyda Heddlu Llundain ym mwrdeistref Hounslow, ond cychwynnodd ei yrfa fel heddwas gyda heddlu Manceinion Fawr yn ardal Moss Side. Cyn ymuno a’r heddlu bu Steve yn gweithio i’r Asiantaeth Fudd-daliadau ac roedd hefyd yn hyfforddwr  sgwba-blymio bryd hynny.  Mae Steve wedi treulio’r rhan fwyaf o’i amser yn y gwasanaeth yn gweithio ar dimau ymateb, ond pan oedd yn Llundain bu’n gweithio mewn unedau trosedd ac fel swyddog CID yn taclo troseddau ar y stryd, cyffuriau a byrgleriaeth.  Lleolwyd Steve yn nhref Llanelli i ddechrau, ond yn gynnar yn 2007 aeth i Felinfoel. Mae’n dweud, “Ar ôl gweithio fel swyddog ymateb yn yr ardal yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwy’n ymwybodol o’r materion a’r problemau sy’n effeithio ar y gymuned.  I mi, dyma beth yw plismona - siarad â phobl yn y gymuned a gweithio gyda nhw a phartner-asiantaethau i wneud y gymuned y lle gwell a mwy diogel i fyw ynddo.”

PCSO Gary Payne 8089

  • Ymunodd PCSO Gary Payne â Heddlu Dyfed-Powys ym 1985 a chael ei leoli yn Llanelli. Ymhen nifer o flynyddoedd daeth yn aelod o CID yn Llanelli ac arhosodd yn yr adran honno hyd nes iddo gael ei ddyrchafu’n sarjant mewn lifrau, ac yna bu’n gweithio yn ardaloedd Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman mewn nifer o rolau gweithrediadol. Ymddeolodd o’r Heddlu ym mis Mawrth 2010 ac ailymuno fel PCSO gan ei fod yn mwynhau cerdded a siarad â phobl yn y gymuned. Mae’n gefnogwr rygbi brwd ac yn cefnogi Dreigiau Casnewydd Gwent gan ei fod yn wreiddiol o Gasnewydd.

SC Catrin Rees 7242

  • Ymunodd Cwnstabl Gwirfoddol Catrin Rees â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Mai 2006 gan ddechrau gweithio yn nhref Llanelli lle roedd yn cydweithio gyda swyddogion arferol ac yn eu cynorthwyo gyda’u hymholiadau troseddol a dyletswyddau eraill. Yn Ebrill 2008, symudodd Catrin i Orsaf Heddlu Felin-foel lle ymunodd â Thîm Plismona Bro Felin-foel. Yn ei swydd amser llawn mae Catrin hefyd yn gweithio yn un o adrannau Heddlu Dyfed-Powys fel swyddog gweinyddol. Meddai, “Ers ymuno â’r Tîm Plismona Bro rydw i wedi mwynhau bod yn rhan o amrywiaeth eang o fentrau cymunedol fel y Disgo Golau Glas, marcio eiddo, diwrnodau atal trosedd, diwrnodau recriwtio Cwnstabliaid Gwirfoddol, carnifalau a chynnau goleuadau’r Nadolig. Rydw i hefyd yn mwynhau datrys problemau lleol sy’n effeithio fwyaf ar y gymuned.”

Cyfarfodydd Bro

  • Ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis am 6pm neu 2pm.

    Os bydd aelodau’r gymuned yn dymuno siarad â’r heddlu cyn y dyddiad hwn, gallant gysylltu â PC 164 Kettle neu PCSO 8089 Payne. Gellir cysylltu â’r tîm drwy ffonio 101 a gofyn am estyniad 29144.  Os na fyddwn yn y swyddfa gallwch adael neges yn gofyn i ni gysylltu â chi.

    New community building, St Georges Playing Fields, Felinfoel
    Dydd Mawrth 6 Mawrth, 6:00pm

Cymorthfeydd

  • Er mwyn trafod materion lleol ac unrhyw bryderon sydd gennych. Edrychwn ymlaen at eich gweld a chlywed eich sylwadau am eich cymuned.

    FEBRUARY / CHWEFROR:

    DYDD IAU 9th – 7PM @ HEOL DANIEL 
    DYDD GWENER 17th – 1 PM @ DAN Y BANC
    DYDD SADWRN 25th – 12 NOON @ PLAYING FIELDS

    MARCH / MAWRTH

    DYDD MAWRTH 13th – 10 AM @ CO-OP
    DYDD GWENER 16th – 8PM @ LLYS Y FELIN
    DYDD MAWRTH 27th – 6 PM  @ DAN YR ALLT

    APRIL / EBRILL

    DYDD MAWRTH 3rd – 9AM @ RUGBY CLUB
    DYDD GWENER 13th – 4PM @ CHALKYS SHOP
    DYDD GWENER 27th – 6PM @ DAN Y BANC

    Briffiadau Stryd, Felinfoel
  • Er mwyn trafod materion lleol ac unrhyw bryderon sydd gennych. Edrychwn ymlaen at eich gweld a chlywed eich sylwadau am eich cymuned.

    FEBRUARY / CHWEFROR:

    DYDD IAU 9th – 8PM @ DAFEN PARK 
    DYDD GWENER 17th – 12 NOON @ DAFEN SERVICE STATION 
    DYDD SADWRN 25th – 11 AM @ BRYN GOLAU

    MARCH / MAWRTH

    DYDD MAWRTH13th – 11 AM @ BRYNSIRIOL
    DYDD GWENER 16th – 7PM @ DAFEN PARK / MAESCANNER RD
    DYDD MAWRTH 27th – 7PM  @ HUNDAL STORES

    APRIL / EBRILL

    DYDD MAWRTH 3rd – 10AM @ TIR CAPEL
    DYDD GWENER 13th – 3PM @ HAVARD ROAD
    DYDD GWENER 27th – 8PM @ DAFEN PARK

    Briffiadau Stryd, Dafen