Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Llangennech, Bryn a Hendy

Goryrru

  • Llangennech, Bryn a'r Hendy
    Dydd Mercher, Mawrth 9, 2011
    Maw 07 Chwef 2012

    Er mwyn mynd i'r afael â phroblemau goryrru, a chodi ymwybyddiaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd, bydd y Tîm Plismona Bro yn gwirio cyflymdra ar draws y Ward yn ystod mis Chwefror.

    Ni nodwyd yr un flaenoriaeth ar gyfer mis Rhagfyr.

    Dim blaenoriaethau ar gyfer mis Tachwedd.

    Dim blaenoriaethau ar gyfer mis Hydref.

Arolygydd James Davies 2019

  • Mae’r Arolygydd James Davies wedi bod yn y gwasanaeth ers ugain mlynedd.  Treuliodd y cyfnod diweddaraf yn Sir Gaerfyrddin - yn Llanelli a Chaerfyrddin ac fel arolygydd plismona bro gyda chyfrifoldeb dros ardal Tywi-Gwendraeth. Mae e hefyd wedi ei hyfforddi’n gomander trefn gyhoeddus yr heddlu. Mae wedi gweithio yn ystafell reoli’r heddlu yn y Pencadlys yn Llangynnwr ac mae hefyd wedi gwasanaethu ym Mhowys a gyda Heddlu Metropolitan Llundain, lle bu’n gweithio am 8 mlynedd gyntaf ei yrfa gyda’r heddlu, gan weithio’n bennaf yng Ngorllewin a De Llundain.

Sarjant Eddie Donnelly 296

  • Ymunodd y Sarjant Eddie Donnelly â Heddlu Dyfed-Powys ym 1983.  Aeth i weithio yn gyntaf i Lanelli lle bu’n Gwnstabl ac yna’n Dditectif Gwnstabl  cyn cael ei ddyrchafu’n Sarjant yng Nghaerfyrddin ym 1989. Ers hynny, bu’n gweithio yn Cross Hands, Porth Tywyn, Llanelli a Rhydaman. Aeth i Felinfoel yn 2006 ac yna fe’i gwnaed yn gyfrifol am Lwynhendy and Felinfoel. Ar ddiwedd mis Mai 2010 gofynnwyd iddo fod yn gyfrifol dros Blismona Bro yn Llwynhendy a Felinfoel. Mae Sarjant Donnelly sy’n byw yn lleol yn ŵr priod ac mae ganddo ddau fab.

PC Mike Richardson 414

  • Trosglwyddodd PC Mike Richardson i Heddlu Dyfed-Powys o Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn 2005. Bu’n gweithio yn Aberdaugleddau i ddechrau cyn symud i Gaerfyrddin, ac ar ôl cyfnod yn gweithio gyda dyletswyddau ymateb fe ymgymerodd â'r swydd Swyddog Plismona Bro ar gyfer ardal Llangynnwr a Thregynnwr. Fe ddechreuodd ei yrfa yn y gwasanaeth iechyd cyn ymuno â Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn 2001, lle bu'n gysylltiedig ag amrywiaeth o waith ymateb yr heddlu yn ardal Oldbury yn Smethwick.

PCSO Steve Lloyd 8041

  • Ymunodd y PCSO Steve Lloyd â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Hydref 2006, a chafodd ei leoli yng ngorsaf Llwynhendy. Cyn hynny bu’n athro ysgol gynradd yn Sir Gâr, ond ar ôl treulio sawl blwyddyn yn y dosbarth, penderfynodd ei bod yn bryd newid gyrfa a dod yn PCSO. Dywed, “Roedd y rôl yn apelio i fi am nifer o resymau - yr amrywiaeth, rwy’n treulio llawer o amser yn yr awyr agored ac rwy’n cyfarfod ag aelodau o’r gymuned ac yn ceisio diwallu eu hanghenion.”

Cyfarfodydd Bro

  • Y Dydd Llun cyntaf o’r mis yn y ddau leoliad isod bob yn ail.

    Arlan Gwili, Hendy
    Dydd Llun 5 Mawrth, 6:00pm
  • Y Dydd Llun cyntaf o’r mis yn y ddau leoliad isod bob yn ail.

    Canolfan Gymunedol Llangennech
    Dydd Llun 2 Ebrill, 7:00pm