Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Llwynhendy a Bynie

Monitro ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mharc Tir Einon

  • Llwynhendy
    Dydd Sul, Ebrill 1, 2012
    Mer 25 Ebr 2012

    Mae’r parc newydd yn Nhir Einon, Llwynhendy, wedi profi’n boblogaidd iawn. Fodd bynnag, bu adroddiadau ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y lleoliad. Hefyd, mae gollwng sbwriel yn broblem yno. 

    22/04/2012 - Mae’r Tîm Plismona Bro wedi cynnal patrolau yn yr ardal. Bu’r tîm yn ymgysylltu â’r plant lleol gan ddefnyddio’r cyfleuster hwn. Ar hyn o bryd, nid oes adroddiadau pellach wedi’u derbyn. 
    Byddwn yn ymgysylltu gydag Asiantaethau Partner mewn perthynas â ffensio ac er mwyn gwneud cais am finiau sbwriel ychwanegol yn y lleoliad. 

    Bydd y patrolau hyn yn parhau.

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – yn cynnwys defnyddio cerbydau modur

  • Llwynhendy a'r Bynie
    Dydd Mercher, Mai 2, 2012
    Mer 09 Mai 2012

    Mae adroddiadau wedi’u derbyn ynglŷn â defnydd gwrthgymdeithasol ar gerbydau modur yn ardal Penygraig. Mae hyn yn cynnwys beiciau modur oddi ar y ffordd a cheir. Bydd Tîm Plismona Bro yn patrolio’r ardal yn agos er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon.

Goryrru ar hyd Heol Cwmfelin

  • Y Bynie
    Dydd Llun, Mai 9, 2011
    Mer 25 Ebr 2012

    Monitro goryrru ar Heol Cwmfelin.

    22/04/2012 - Cynhaliwyd gwiriadau yn yr ardal hon, fodd bynnag roedd pob cerbyd a wiriwyd o fewn y cyfyngiadau cyflymder. 
    Bydd y gwiriadau hyn yn parhau.

    Er mwyn mynd i'r afael â phroblemau goryrru, a chodi ymwybyddiaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd, bydd y Tîm Plismona Bro yn gwirio cyflymdra ar draws y Ward yn ystod mis Chwefror.

Blaenoriaethau Blaenorol

Arolygydd James Davies 2019

  • Mae’r Arolygydd James Davies wedi bod yn y gwasanaeth ers ugain mlynedd.  Treuliodd y cyfnod diweddaraf yn Sir Gaerfyrddin - yn Llanelli a Chaerfyrddin ac fel arolygydd plismona bro gyda chyfrifoldeb dros ardal Tywi-Gwendraeth. Mae e hefyd wedi ei hyfforddi’n gomander trefn gyhoeddus yr heddlu. Mae wedi gweithio yn ystafell reoli’r heddlu yn y Pencadlys yn Llangynnwr ac mae hefyd wedi gwasanaethu ym Mhowys a gyda Heddlu Metropolitan Llundain, lle bu’n gweithio am 8 mlynedd gyntaf ei yrfa gyda’r heddlu, gan weithio’n bennaf yng Ngorllewin a De Llundain.

Sarjant Ian Francis 1040

  • Daw’r Rhingyll Ian Francis o ardal Llanelli’n wreiddiol. Ymunodd â’r Heddlu Metropolitan yn 1987 gan weithio yn ne ddwyrain y ddinas. Trosglwyddodd i Heddlu Dyfed-Powys ym mis Mai 2001. Mae Ian wedi gweithio yng Nghaerfyrddin, Llwynhendy, Rhydaman a Phorth Tywyn, a bellach ef yw’r Rhingyll Plismona Bro ar gyfer ardaloedd plismona Llwynhendy a Felinfoel.

PC Mike Richardson 414

  • Trosglwyddodd PC Mike Richardson i Heddlu Dyfed-Powys o Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn 2005. Bu’n gweithio yn Aberdaugleddau i ddechrau cyn symud i Gaerfyrddin, ac ar ôl cyfnod yn gweithio gyda dyletswyddau ymateb fe ymgymerodd â'r swydd Swyddog Plismona Bro ar gyfer ardal Llangynnwr a Thregynnwr. Fe ddechreuodd ei yrfa yn y gwasanaeth iechyd cyn ymuno â Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn 2001, lle bu'n gysylltiedig ag amrywiaeth o waith ymateb yr heddlu yn ardal Oldbury yn Smethwick.

PCSO Zara Simisker 8048

  • Ymunodd PCSO Zara Simisker â’r Heddlu ym mis Ionawr 2007 a daeth yn syth i weithio yn Ystradgynlais. Mae wedi bod yn gysylltiedig â chynlluniau ieuenctid o fewn Powys. Yn ei hamser sbâr, mae’n mwynhau cymdeithasu gyda’i ffrindiau a mynd ar wyliau egsotig!

PCSO Tom Edwards 8023

  • Tom Edwards

    Ymunodd y PCSO  Tom Edwards â Heddlu Gorllewin Swydd Efrog ym 1976 gan drosglwyddo i Heddlu Dyfed-Powys ym 1983. Roedd yn arolygydd pan ymddeolodd o’r Heddlu ym mis Hydref 2006 ar ôl deng mlynedd ar hugain o wasanaeth. Yn fuan wedyn, fe’i penodwyd yn PCSO i weithio yng Ngorsaf Heddlu Llwynhendy. Dywed y PCSO  Edwards, “Gan ystyried fy ngwybodaeth a’m profiad blaenorol, teimlwn fod hwn yn gyfle ardderchog i ddefnyddio’r wybodaeth a’r profiad hwnnw er lles y gymuned ehangach. Mae’n debyg iawn i’r hen drefn lle’r oedd ‘bobi ar y bît’ – dyma beth mae’r gymuned leol wedi bod yn galw amdano ers cryn amser ac maent yn ei werthfawrogi.”

Cyfarfodydd Bro

  • Swyddfa Cymunedau’n Gyntaf Llwynhendy
    Dydd Mercher 6 Mehefin, 2:00pm

Cymorthfeydd

  • Bob prynhawn dydd Mawrth.

    Paned Gyda’ch Plismon yn nghaffi Morrisons, Parc Mân-werthu.
    Dydd Mercher 23 Mai, 4:00pm - 5:00pm
  • Bob dydd Iau am 10AM.

    Paned Gyda’ch Plismon yn Swyddfa Cymunedau’n Gyntaf Llwynhendy
    Dydd Iau 17 Mai, 11:00am - 12:00pm