Dim problem.
Elli / Lliedi
Goryrru trwy’r ward
-
Dydd Gwener, Tachwedd 4, 2011Llun 23 Ebr 2012Amh.
08/02/2012 - Defnyddiwyd Dyfais Dangos Cyflymder ar Hen Heol gan Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu 8066 Rhian James, gan atgoffa’r cyhoedd am y cyfyngiad cyflymder ar y ffordd.
Gofynnwyd i Swyddogion Traffig ymweld â’r lleoliad a rhoi tocynnau pan fo troseddau’n digwydd.
Codwyd pryderon ynghylch y bont ar Hen Heol gan nad oes pafin yn y lleoliad. Roedd pryder dros blant a phreswylwyr lleol sy’n defnyddio’r bont.
Ymweliad safle i’w drefnu gyda John McEvoy ar Hen Heol er mwyn trafod y bont.
04/01/2012 - Defnyddiwyd dyfais mesur cyflymder mewn amryw o leoliadau ar draws y ward. Stopiwyd nifer o bobl a rhoddwyd cyngor priodol iddynt. Ni ddatgelwyd unrhyw droseddau.
04/12/2011 - Mae'r Tîm Plismona Bro yn aros i dderbyn canlyniadau gan heddweision ar ôl cynnal sesiynau gwirio cyflymder mewn gwahanol ardaloedd yn y ward. Anfonwyd cais at Rob Chapman am gael defnyddio'r gwn cyflymder a'r ddyfais dangos cyflymder.
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac yfed dan oed ar draws y ward
-
Dydd Sul, Rhagfyr 4, 2011Llun 23 Ebr 2012
08/02/2012 - Cynhaliwyd patrolau amlwg yn y parciau lle rydym wedi ymgysylltu â ceidwad Parc Howard. Ni chodwyd unrhyw faterion na phryderon yn ystod y ddeufis diwethaf. Tynnwyd sylw at safle seindorf Parc y Bobl gan fod pobl ifainc yn ymgasglu yn yr ardal, a chredir eu bod yn yfed dan oed. Cynhaliwyd patrolau amlwg gan swyddogion, a chafwyd ceisiadau pellach i swyddogion y dref ymweld â’r ardal mewn cerbydau heddlu. Cyflwynwyd stop wiriadau. Yn dilyn syniad gan swyddog o’r Tîm Plismona Bro, gwnaed cais i gael gât clo wedi’i gosod wrth y safle seindorf er mwyn atal pobl rhag ymgasglu yno. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystyried gosod goleuadau sy’n synhwyro symudiadau wrth y lleoliad hefyd.
Cynhaliwyd patrolau amlwg yn y parciau gan ymgysylltu â Kevin Williams, Ceidwad Parc Howard. Derbyniwyd 1 alwad mis diwethaf er mwyn nodi tystiolaeth o boteli gwydr wedi’u torri. Cynyddodd y Tîm Plismona Bro batrolau yn yr ardal. Nid oes unrhyw un wedi’u gweld yn yr ardal ac ni dderbyniwyd adroddiadau pellach gan aelodau’r cyhoedd.
Cynhaliwyd patrolau amlwg gan swyddogion, ac mae swyddogion y dref wedi derbyn ceisiadau pellach i ymweld â’r ardal mewn cerbydau heddlu.
Hyd yn hyn, mae 7 o bobl wedi’u stopio a’u gwirio yng nghefn Canolfan Selwyn Samuel a Pharc y Bobl, a chyflwynwyd 4 log cudd-wybodaeth. Ni ddangoswyd fod pobl ifainc dan oed yn gyfrifol am unrhyw drosedd.
1 alwad ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn rhan arall o’r ward mewn perthynas ag yfed dan oed.
Mae cyfanswm o 4 log cudd-wybodaeth wedi’u cyflwyno er mwyn nodi cudd-wybodaeth mewn ardaloedd eraill o’r ward. Mae’r Tîm Plismona Bro hefyd wedi cynnwys yr ardaloedd hyn yn eu patrolau, a hyd yn hyn bu gwelliant ac rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y galwadau a dderbynnir mewn perthynas â hyn.
04/01/2012 - Mae Tîm Plismona Bro Elli/Lliedi wedi cynnal patrolau amlwg mewn mannau problemus ar benwythnosau. Ni chyflwynwyd stop wiriadau ac ni atafaelwyd alcohol.
Ysgol Dewi Sant /Penygaer
-
Dydd Mawrth, Mawrth 13, 2012Llun 23 Ebr 2012
05/03/2012 - Materion parcio wrth ysgolion Dewi Sant a Phenygaer, a phroblemau gyda cherbydau nad ydynt yn aros wrth y groesfan sebra.
Trefnwyd ymweliad safle yn yr ysgol ar 05/03/12 ynghyd â Rhys o Adran Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin. Ail gyflwynwyd y flaenoriaeth oherwydd pryderon ynghylch y groesfan sebra.
Maw, Ionawr 17, 2012
Sarjant Justin Evans 1024
Ymunodd Sarjant Justin Evans â’r heddlu yn Rhagfyr 2000, ac mae wedi gweithio’n bennaf fel Swyddog Plismona’r Ffyrdd yn Llanelli. Daeth yn Sarjant Tîm Plismona Bro Llanelli yn Ionawr 2009. Cafodd ei fagu a’i addysgu ym Mhorth Tywyn, ac felly y mae ganddo ddealltwriaeth dda o ardal Llanelli gan iddo gweld nifer o newidiadau wrth iddo dyfu i fyny yn yr ardal. Mae’n gobeithio y bydd ei gysylltiadau lleol a’i wybodaeth yn cyfrannu’n fawr at greu cymuned ddiogelach. Meddai, “rydw i wrth fy modd gyda fy rôl, yn ymgysylltu gyda’r gymuned ac â nifer o bartneriaethau rydym yn cydweithio’n agos â nhw”.
PC Michelle Fuge 1092
Ymunodd PC Michelle Fuge a’r heddlu yn 2002. Dechreuodd yng ngorsaf Llanelli, gan symud i Felin-foel yn 2004 cyn dychwelyd i Lanelli ac yna cymryd cyfnod o absenoldeb mamolaeth. Dychwelodd i’r gwaith yn 2006 cyn ymuno â’r Tîm Plismona Bro ym Migyn. Yn dilyn genedigaeth ei hail blentyn dychwelodd i’r gwaith yn 2008 a dechrau gweithio yn ward Elli/Lliedi fel Swyddog Tîm Plismona Bro wrth ochr PCSO Augustus.
PCSO Rhian James 8066
Dechreuodd PSCO Rhian James weithio fel Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu yn Sir Benfro yn 2007, lle bu’n dysgu nifer o sgiliau ac yn mwynhau cynorthwyo cydweithwyr o’r teulu plismona ehangach ac yn cyfrannu fel aelod o dîm. Mae’n gobeithio datblygu gyrfa yn Llanelli, ac yn edrych ymlaen at weithio ar fentrau a gweithrediadau i dargedu’r problemau sy’n effeithio ar ansawdd bywyd pobl. Y mae wedi mwynhau gweithio gyda nifer o grwpiau cymunedol ac yn gobeithio gwneud defnydd o’r profiad hwn yn Llanelli. Meddai: “Rydw i wedi dod i sylweddoli pwysigrwydd presenoldeb gweladwy’r heddlu wrth roi hyder i’r gymuned gyfan.”
PCSO Ffion Thomas 8056
Daeth PCSO Ffion Thomas yn PCSO ym mis Ionawr 2007 ac mae wedi’i lleoli yng ngorsaf heddlu Llanelli. Cyn hynny bu'n gweithio fel cynorthwyydd clerigol yn yr adran Gwasanaethau Corfforaethol yn y prif bencadlys.
Cyfarfodydd Bro
-
Cyfarfod HELP (Wardiau Hengoed, Elli a Lliedi) - Ar y 2il dydd Mercher, bob yn ail fis.
Neuadd y Dref, LlanelliDydd Mercher 13 Mehefin, 6:30pm
Cymorthfeydd
-
Bob Dydd Iau
Yng nghaffi Old Castle Road, Heol yr Hen GastellDydd Iau 17 Mai, 10:00am - 11:00am
-
Iau 05 Ebr 2012darllen mwy >>
Mae Prosiect Canolfan Llanelli wedi derbyn arian annisgwyl ar ffurf siec o £935 oddi wrth Heddlu...
-
Mer 04 Ebr 2012darllen mwy >>
O ganlyniad i nifer o atafaeliadau cyffuriau yn Llanelli, mae mwy o gyffuriau Dosbarth A nag...
-
Llun 19 Maw 2012darllen mwy >>
Roedd angen triniaeth ysbyty ar ferch 12 oed yn gynharach y bore hwn yn dilyn gwrthdrawiad...
-
Iau 23 Chwef 2012darllen mwy >>
Mae’r heddlu yn Llanelli wedi arestio unigolyn ifanc 18 oed mewn perthynas â thân a gychwynnwyd...
-
Llun 06 Chwef 2012darllen mwy >>
Mae swyddogion heddlu yn Llanelli sy’n ymchwilio i ymosodiad rhyw difrifol a ddigwyddodd ar Heol...


