Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Glan-y-môr

Byrgleriaethau/lladradau metel sgrap

  • Dydd Iau, Mai 12, 2011
    Llun 09 Ion 2012
    Amh.

    04/01/2012 - Yn ystod mis Rhagfyr, digwyddodd tair byrgleriaeth o fewn ward Glan-y-môr. Digwyddodd y drosedd gyntaf yn Swyddfeydd y Cyngor yn Noc y Gogledd, yr ail yng Nghwrt Stanley a’r trydydd yn Stryd Caroline. Ar hyn o bryd, mae’r tri heb eu datrys.

    04/12/2011 - Yn ystod y mis, cyflawnwyd 4 byrgleriaeth yn Ward Glanymor.  Mae un wedi'i ddatrys, ac mae rhywun wedi'i gyhuddo o'r drosedd. Hefyd, mae un o'r byrgleriaethau a gyflawnwyd yn gysylltiedig â dwyn metel sgrap.

    04/11/2011 - Ar gyfer mis Hydref, mae Glan-y-môr wedi dioddef chwe byrgleriaeth. Mae dau wedi’u datrys, ac mae un fyrgleriaeth yn ymwneud â dwyn metel sgrap. Digwyddodd y fyrgleriaeth metel sgrap yng Nghapel Siloah lle y dygwyd copr a phlwm.

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac yfed dan oed yn Ward Glanymor

  • Dydd Sul, Rhagfyr 4, 2011
    Llun 09 Ion 2012
    Amh.

    04/01/2012 - Ar gyfer mis Rhagfyr, cofnodwyd 8 galwad mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gyfer y ward gyfan. Mae hyn yn gymharol isel. O’r wyth galwad, roedd un mewn perthynas â phobl ifainc yn creu niwsans cyffredinol yn ardal Ystâd Biddulph. Mae dau o’r bobl ifainc wedi’u cyfeirio at Gydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a byddant yn derbyn llythyr rhybudd ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Blaenoriaethau Blaenorol

Mer, Mawrth 21, 2012

  • Dyma rifyn cyntaf ein cylchlythyr cymunedol. Mae’n brosiect sy’n cael ei ariannu gan yr Asiantaeth Genedlaethol Gwella Plismona i’n helpu i’ch darparu â gwybodaeth am yr hyn yr ydym yn ei wneud er mwyn ymdrin â materion lleol sy’n bwysig i chi.

    Rydym yn bwriadu eu cyhoeddi bob mis a byddwn yn esbonio beth yr ydym wedi gwneud am faterion yr ydych wedi eu riportio i ni mewn cymorthfeydd a chyfarfodydd.

    Gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg drwy alw 101 neu drwy alw heibio i gyfarfod neu gymhorthfa yn eich ardal chi.

Sarjant Justin Evans 1024

  • Sarjant Justin Evans

    Ymunodd Sarjant Justin Evans â’r heddlu yn Rhagfyr 2000, ac mae wedi gweithio’n bennaf fel Swyddog Plismona’r Ffyrdd yn Llanelli. Daeth yn Sarjant Tîm Plismona Bro Llanelli yn Ionawr 2009. Cafodd ei fagu a’i addysgu ym Mhorth Tywyn, ac felly y mae ganddo ddealltwriaeth dda o ardal Llanelli gan iddo gweld nifer o newidiadau wrth iddo dyfu i fyny yn yr ardal. Mae’n gobeithio y bydd ei gysylltiadau lleol a’i wybodaeth yn cyfrannu’n fawr at greu cymuned ddiogelach. Meddai, “rydw i wrth fy modd gyda fy rôl, yn ymgysylltu gyda’r gymuned ac â nifer o bartneriaethau rydym yn cydweithio’n agos â nhw”.

PC Arwel Davies 430

  • Ymunodd PC Arwel Davies â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Mai 2003 ac mae’n gweithio yn nhref Llanelli. Daeth yn swyddog plismona bro yn Ionawr 2009 yn gweithio yn ardal Glan y Môr.

PCSO Llinos Phillips 8006

  • Ymunodd PCSO Llinos Phillips fel PCSO ym mis Medi 2004 ac mae wedi gweithio yn Llanelli ers hynny. Cyn hynny bu'n astudio Addysg Blynyddoedd Cynnar yng Ngholeg Caerfyrddin.

Cyfarfodydd Bro

  • Grŵp Gweithredu Cymunedau Diogelach (Wardiau Glan-y-môr a Thyisha) ar y 3ydd dydd Iau pob mis.

    Neuadd Sant Barnabus, Stryd Llywelyn, Llanelli
    Dydd Iau 17 Mai, 1:30pm

Cymorthfeydd

  • Ar y 3ydd dydd Mawrth o bob mis

    Festri Sant Ioan, Glanymor
    Dydd Mawrth 19 Mehefin, 5:00pm - 7:00pm