Hengoed
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol mewn Parciau
-
Dydd Mercher, Chwefror 8, 2012Maw 15 Mai 2012Amh.
15.05.2012
Cynhaliwyd patrolau yn yr ardaloedd sy’n hysbys. Derbyniwyd galwad mewn perthynas â phobl ifainc yn yfed ym Mharc Dŵr Sandy ar 21/04/2012. Aeth swyddogion i’r lleoliad, ond roedd y bobl ifainc oedd ag alcohol dros 18 oed. Bydd patrolau’n parhau a defnyddir yr orsaf heddlu symudol er mwyn targedu mannau problemus sy’n hysbys. Daethpwyd o hyd i dystiolaeth fod cyffuriau’n cael eu gwerthu/cymryd a chyflwynwyd logiau cudd-wybodaeth.
19.04.2012Mae patrolau amlwg wedi’u cynnal yn rheolaidd yn yr ardaloedd sy’n hysbys i ni a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar yr ardaloedd hynny ar benwythnosau ac yn ystod y nosweithiau gan siarad â phreswylwyr er mwyn sefydlu a ydynt wedi gweld neu glywed unrhyw un o fewn ardal Parc Dŵr Sandy. Gyda hanner tymor yn agosáu, sydd o hyd yn gweld cynnydd yn nifer y bobl ifainc sydd yn defnyddio’r parciau, byddwn yn cynnal patrolau trylwyr ac yn cynnal stop wiriadau, yn atafaelu, ac yn cyflwyno cyfeiriadau ymddygiad gwrthgymdeithasol pan yn briodol. Byddwn hefyd yn defnyddio A16 ac yn cynnal patrolau ar gefn beic er mwyn uchafu presenoldeb heddlu. Ni dderbyniwyd galwadau mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Hengoed.
13.03.2012 -
Cynhaliwyd patrolau yn yr ardaloedd a hysbyswyd i ni, a bydd y rhain yn parhau, gan ganolbwyntio ar benwythnosau a nosweithiau.
Difrod troseddol - Hengoed
-
Dydd Mercher, Ebrill 11, 2012Maw 15 Mai 2012Amh.
Sarjant Justin Evans 1024
Ymunodd Sarjant Justin Evans â’r heddlu yn Rhagfyr 2000, ac mae wedi gweithio’n bennaf fel Swyddog Plismona’r Ffyrdd yn Llanelli. Daeth yn Sarjant Tîm Plismona Bro Llanelli yn Ionawr 2009. Cafodd ei fagu a’i addysgu ym Mhorth Tywyn, ac felly y mae ganddo ddealltwriaeth dda o ardal Llanelli gan iddo gweld nifer o newidiadau wrth iddo dyfu i fyny yn yr ardal. Mae’n gobeithio y bydd ei gysylltiadau lleol a’i wybodaeth yn cyfrannu’n fawr at greu cymuned ddiogelach. Meddai, “rydw i wrth fy modd gyda fy rôl, yn ymgysylltu gyda’r gymuned ac â nifer o bartneriaethau rydym yn cydweithio’n agos â nhw”.
PCSO Dan Brown 8017
Ymunodd PCSO Dan Brown â Heddlu Dyfed Powys ym mis Ebrill 2006, pan aeth i weithio yn y Ganolfan Gyfathrebu ym Mhencadlys yr Heddlu lle bu’n ateb galwadau 999 a galwadau difrys ar y rhif 101. Ymunodd â’r Heddlu Gwirfoddol hefyd ym mis Hydref 2006 a bu’n gweithio yng Ngorsaf Heddlu Rhydaman. Cychwynnodd Dan yn ei swydd fel PCSO ym mis Hydref 2008 gan ddechrau yn ardal Llandysul yn rhanbarth Ceredigion. Symudodd i Lanelli ym mis Hydref 2009 ac mae’n gyfrifol nawr am ward Hengoed sy’n cynnwys ardaloedd Sandy, Ffwrnes a Phwll.
Cyfarfodydd Bro
-
Cyfarfod HELP (Wardiau Hengoed, Elli a Lliedi) - Ar y 2il dydd Mercher, bob yn ail fis.
Neuadd y Dref, LlanelliDydd Mercher 13 Mehefin, 6:30pm
Cymorthfeydd
-
Bob Dydd Iau.
Coleg Sir Gar, LlanelliDydd Iau 17 Mai, 1:30pm - 2:30pm
-
Mer 04 Ebr 2012darllen mwy >>
O ganlyniad i nifer o atafaeliadau cyffuriau yn Llanelli, mae mwy o gyffuriau Dosbarth A nag...
-
Llun 19 Maw 2012darllen mwy >>
Roedd angen triniaeth ysbyty ar ferch 12 oed yn gynharach y bore hwn yn dilyn gwrthdrawiad...
-
Iau 23 Chwef 2012darllen mwy >>
Mae’r heddlu yn Llanelli wedi arestio unigolyn ifanc 18 oed mewn perthynas â thân a gychwynnwyd...
-
Llun 06 Chwef 2012darllen mwy >>
Mae swyddogion heddlu yn Llanelli sy’n ymchwilio i ymosodiad rhyw difrifol a ddigwyddodd ar Heol...
-
Mer 01 Chwef 2012darllen mwy >>
Mae’r heddlu yn Llanelli’n parhau i ymchwilio i ymosodiad rhyw difrifol a ddigwyddodd ar Heol...


