Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Canol y Dref Llanelli

Troseddau treisgar - Canol y dref

  • Dydd Mercher, Rhagfyr 8, 2010
    Llun 09 Ion 2012
    Amh.

    04/01/2012 - Yn ystod y cyfnod yn arwain at y Nadolig, amlygwyd y troseddau canlynol yng nghanol y dref: 4 achos o wir niwed corfforol, 2 achos o drais rhywiol, 13 achos o aflonyddwch, 2 ymosodiad yn erbyn swyddogion heddlu, a rhoddwyd 3 hysbysiad adran 27. Mae tîm plismona bro tref Llanelli wedi gweld cynnydd sylweddol o ran alcohol yn cael ei yfed yng nghanol y dref, yn arbennig ar benwythnosau. Cred y tîm plismona bro mai adeg y flwyddyn yw’r rheswm dros hyn, gyda nifer o bobl allan ar gyfer partïon Nadolig ac yn cael amser da.

    04/12/2011 - Yn ystod y mis, cyhoeddwyd 2 rybudd Adran 27 yng Nghanol y Dref. Hefyd, cafwyd 8 adroddiad am ymosodiadau, 3 trosedd o esgeuluso plant, 7 achos o aflonyddu, ac 1 achos o broblem hiliol yn ystod y mis. Yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf, cafwyd cynnydd yn nifer y digwyddiadau bychain sy'n ymwneud ag yfed yng nghanol y dref, a phroblemau sŵn cyffredinol. Rydym yn defnyddio ymagwedd goddef dim i wrthsefyll unrhyw broblem a all godi yn y dyfodol.

    04/11/2011 - Yn ystod y mis, rhoddwyd 1 hysbysiad adran 27 yng Nghanol y Dref, 12 trosedd treisgar, 7 trosedd adran 47, 4 am aflonyddu ac 1 am ymosod cyffredin.

Siopladrata yng Nghanol y Dref

  • Dydd Mawrth, Ionawr 11, 2011
    Llun 09 Ion 2012
    Amh.

    04/01/2012 - Hyd yn hyn, mae 7 trosedd siopladrata wedi’u riportio yn nhref Llanelli. Ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’r ffigwr yn isel iawn. Yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig, mae’r siopau’n arbennig o wyliadwrus ac yn targedu troseddwyr hysbys.

    04/12/2011 - Cafwyd 5 achos o siopladrad y mis hwn. Mae tri ohonynt wedi'u datrys.   Cynhelir cyfarfod 'busnesau Llanelli yn erbyn troseddu' ar 22 Tachwedd yng nghanol y dref. Bydd y Tîm Plismona Bro yn cyflwyno nifer o awgrymiadau am gamau gweithredu i'w hystyried gan siopau canol y dref yn ystod y cyfnod prysur hwn.

    04/11/2011 - Bu pum achos o siopladrata’r mis hwn yng Nghanol y Dref.  Mae 2 heb eu datrys ac mae 3 wedi eu datrys. Mae’r troseddwyr sydd wedi eu dal yn adnabyddus yn lleol.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn perthynas â’r defnydd o sglefrfyrddau a sgwteri yng nghanol y dref ASB

  • Dydd Mercher, Hydref 5, 2011
    Llun 09 Ion 2012
    Amh.

    04/01/2012 - Mae Tîm Plismona Bro Llanelli yn derbyn nifer o gwynion mewn perthynas â phobl ifainc yn ymgasglu o dan y ramp i’r maes parcio aml-lawr. Mae nifer fawr o bobl ifainc yn ymgasglu yn y lleoliad, ac o ganlyniad, yn ymddwyn yn creu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Oherwydd nifer y bobl ifainc sy’n ymgasglu yn y lleoliad, gofynnir i bob un ohonynt adael yr ardal.

    04/12/2011 - Stopiwyd a holwyd nifer o bobl y mis hwn, o ganlyniad i lanciau'n defnyddio eu sgrialfyrddau a'u sgwteri mewn modd gwrthgymdeithasol ar draws canol y dref.

    04/11/2011 - Yn ystod y mis diwethaf, mae’r Tîm Plismona Bro wedi sylwi bod llai o weithgarwch mewn perthynas â sglefrfyrddwyr a sgwteri yng nghanol y dref a maes parcio Stryd Murray. Cred y Tîm Plismona Bro bod hyn oherwydd y ffaith ei bod hi’n tywyllu’n gynnar gyda’r nos. Mae’r parc sglefrfyrddio yn dal i gael ei adnewyddu, felly mae’r parc ar gau i’r cyhoedd hyd nes i’r gwaith adnewyddu ddod i ben.

Blaenoriaethau Blaenorol

Sarjant Justin Evans 1024

  • Sarjant Justin Evans

    Ymunodd Sarjant Justin Evans â’r heddlu yn Rhagfyr 2000, ac mae wedi gweithio’n bennaf fel Swyddog Plismona’r Ffyrdd yn Llanelli. Daeth yn Sarjant Tîm Plismona Bro Llanelli yn Ionawr 2009. Cafodd ei fagu a’i addysgu ym Mhorth Tywyn, ac felly y mae ganddo ddealltwriaeth dda o ardal Llanelli gan iddo gweld nifer o newidiadau wrth iddo dyfu i fyny yn yr ardal. Mae’n gobeithio y bydd ei gysylltiadau lleol a’i wybodaeth yn cyfrannu’n fawr at greu cymuned ddiogelach. Meddai, “rydw i wrth fy modd gyda fy rôl, yn ymgysylltu gyda’r gymuned ac â nifer o bartneriaethau rydym yn cydweithio’n agos â nhw”.

PC Delma Jones 97

  • PC Delma Jones

    Ymunodd y PC Delma Jones â’r heddlu yn 2005. Dechreuodd weithio yng Ngorsaf Llanelli tuag at ddiwedd 2005. Ym mis Mehefin 2006, aeth i weithio yn yr Ystafell Reoli / Desg Ymholiadau yn Llanelli yn dilyn llawdriniaeth ar ei phen-glin, gan ddychwelyd i’w dyletswyddau arferol ym mis Mawrth 2007.  Ym mis Ionawr, ymadawodd Delma â’r tîm craidd yn Llanelli a dechrau yn ei rôl newydd fel Swyddog Plismona Bro yng Nghanol Tref Llanelli, lle mae’n gweithio ochr yn ochr â PCSO Rhian James.

PCSO Richi Wells 8079

  • Richi Wells

    Ymunodd PCSO Richi Wells â Thîm Tref Llanelli ar ddechrau mis Mehefin 2010. Cyn hynny bu’n gweithio yng Nghydweli ar ôl ymuno â Heddlu Dyfed-Powys yn 2007. Mae’n dod o Middlesborough yn wreiddiol ac yn byw ym Mhorth Tywyn yn awr. Yn ei amser sbâr, mae’n chwarae’r drymiau mewn band teyrnged AC/DC. Mae’n mwynhau bod allan yn yr awyr agored a helpu pobl nad ydynt efallai mewn sefyllfa i helpu eu hunain.  Meddai ”Y peth rwy’n ei hoffi orau am y swydd yw bod pob diwrnod yn wahanol ac yn cynnig heriau newydd.”

PCSO Donovan Kerr 8075

  • Donovan Kerr

Cyfarfodydd Bro

  • Ar y 2il dydd Mercher, bob yn ail fis.

    Neuadd y Dref, Llanelli