Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Tyisha

Problemau gyda chyffuriau

  • Dydd Sul, Rhagfyr 4, 2011
    Llun 09 Ion 2012
    Amh.

    04/01/2012 - Rhwng 17/11 a 29/12 bu 14 arést cyffuriau yn ward Tyisha. Roedd 10 ohonynt am feddiant canabis. Aeth PC 229 a PCSO 8082  i eiddo er mwyn cynnal ymholiadau nad oeddynt yn gysylltiedig â chyffuriau. Oherwydd bod gwynt canabis cryf yn dod o’r eiddo, cynhaliwyd chwiliad, ac o ganlyniad, rhoddodd y deilydd lapiad ffoil a oedd yn cynnwys amffetamin i swyddogion. Gwnaed tri arést pellach am feddiant methadron. Roedd 6 o’r arestiadau o ganlyniad i stop wiriadau positif. Roedd un arést yn dilyn gweithrediad positif gwarant, a gwnaed y gweddill o ganlyniad i ymholiadau eraill a wnaed gan swyddogion. Yn dilyn yr arestiadau, roedd pob canlyniad yn bositif.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau penodedig yn Nhyisha

  • Yn ardaloedd 5 Tŷ, Clos Sant Paul ac Old Lodge
    Dydd Iau, Rhagfyr 16, 2010
    Llun 09 Ion 2012
    Amh.

    04/01/2012 - Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn ward Tyisha:  Old Lodge- 7 galwad i’r ystâd ers 17 Tachwedd, dim problemau penodol ar yr ystâd. 5 Tŷ- cyfanswm o 16 galwad. Crynodeb o’r galwadau i’r 5 Tŷ: Tŷ Cydwell- 7 Tŷ Meriel- 3 Tŷ Elizabeth- 5 Tŷ Stafford- 1 Tŷ Howard- 0 Clos Sant Paul- cyfanswm o 31 galwad. Nid oes eiddo penodol sy’n achosi problemau. Mae galwadau mewn perthynas â materion sŵn o brosiect Wallich wedi stopio ar ôl i falfiau cyfyngu gael eu gosod ar y ffenestri gan arweinydd tîm y prosiect a chydweithrediad gan swyddogion y Tîm Plismona Bro. Bydd y sefyllfa’n parhau i gael ei monitro.

    04/12/2011 - Old Lodge - cafwyd 18 o alwadau ers y cyfarfod diwethaf. Mae'r rhan fwyaf o'r galwadau hyn yn dod o, neu'n ymwneud â, thŷ ar yr ystâd sy'n achosi problemau. Ar y 10fed o'r mis, llwyddwyd i ddadfeddiannu preswylwyr y tŷ hwn.  Gobeithio y bydd hyn yn arwain at ostyngiad sylweddol yn y nifer o alwadau i'r ystâd erbyn y cyfarfod nesaf.
    “Y 5 Tŷ” – sef Tŷ Cydwal, Tŷ Meriel, Tŷ Elizabeth, Tŷ Howard a Thŷ Stafford - 8 galwad, sydd yn llai na'r mis diwethaf. Daeth 5 o'r rhain o Dŷ Cydwell.  Mae’r problemau hyn eto yn canolbwyntio ar ddau dŷ, ac yr ydym yn parhau i weithio gyda'r tîm tai i geisio lleddfu ar y problemau a achosir gan y preswylwyr hyn.
    Clos Sant Paul - yn ystod y mis cafwyd cynnydd yn nifer y galwadau i'r lleoliad hwn. Derbyniwyd cyfanswm o 38 o alwadau'r mis hwn. Y mae nifer o ffactorau'n cyfrannu at nifer y galwadau hyn. Byddwn yn gweithio ar y cyd gyda'r adran tai i geisio mynd i'r afael â rhai o'r problemau.

    04/11/2011 - Mae Old Lodge wedi derbyn cyfanswm o 18 galwad ers y cyfarfod diwethaf. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn ymwneud ag eiddo problemus. Mae’r cyngor yn dod i ddiwedd eu hachos troi allan, felly erbyn ein cyfarfod nesaf, gobeithio y byddwn yn gweld newid cadarnhaol yn nifer y galwadau i’r ystâd.  
    Derbyniwyd 15 galwad i ardal y 5 Tŷ. O’r rhain, roedd 7 o Dŷ Cydwell sy’n canolbwyntio’n bennaf ar 2 dŷ yr ydym wedi bod yn gweithio gyda Chris Williams a Mark Elliot o dîm tai Sir Gaerfyrddin yn eu cylch er mwyn ceisio datrys y materion a chosir ganddynt. Rhoddwyd geiriau o gyngor gan yr heddlu a’r tîm tai, ac anfonwyd llythyr rhybudd. 
    Clos Sant Paul - 20 galwad i’r ystâd ers y cyfarfod diwethaf. Roedd nifer o’r galwadau’n ymwneud â’r achosion o graffiti sydd wedi’i riportio.

Blaenoriaethau Blaenorol

Sarjant Justin Evans 1024

  • Sarjant Justin Evans

    Ymunodd Sarjant Justin Evans â’r heddlu yn Rhagfyr 2000, ac mae wedi gweithio’n bennaf fel Swyddog Plismona’r Ffyrdd yn Llanelli. Daeth yn Sarjant Tîm Plismona Bro Llanelli yn Ionawr 2009. Cafodd ei fagu a’i addysgu ym Mhorth Tywyn, ac felly y mae ganddo ddealltwriaeth dda o ardal Llanelli gan iddo gweld nifer o newidiadau wrth iddo dyfu i fyny yn yr ardal. Mae’n gobeithio y bydd ei gysylltiadau lleol a’i wybodaeth yn cyfrannu’n fawr at greu cymuned ddiogelach. Meddai, “rydw i wrth fy modd gyda fy rôl, yn ymgysylltu gyda’r gymuned ac â nifer o bartneriaethau rydym yn cydweithio’n agos â nhw”.

PC Dylan Davies 1047

  • Dylan Davies

    Cwnstabl Dylan DAVIES 1047 ydw i.  Ar hyn o bryd, dwi'n gweithio o Orsaf Heddlu Morfa, fel Heddwas Plismona Bro, yn ward Tyisha, Llanelli.
    Dwi wedi bod yn Heddwas ers 2003, pan oeddwn yn gweithio o Orsaf Heddlu Llanelli. Wedyn, yn 2006, es i weithio gyda'r Tîm Plismona Bro, yn ward Glanymor.
    Roeddwn yn gweithio yn y ward honno am oddeutu tair blynedd, ac wedyn es i rôl fwy rhagweithiol yn y Tîm Plismona Bro, yn targedu troseddwyr yn wardiau lleol Llanelli.
    Ers mis Rhagfyr 2011, dwi wedi bod yn gweithio yn ward Tyisha, a dwi'n parhau i fod yn aelod gweithgar o Dîm Plismona Bro Llanelli, gan sicrhau bod ein cymunedau'n llefydd mwy diogel i fyw.

PC Guy Bravery 229

PCSO Simon Lewis 8082

  • Ymunodd PCSO Simon Lewis â Heddlu Dyfed-Powys ddwy flynedd yn ôl.  Aeth i Sir Benfro yn gyntaf gan weithio yn Noc Penfro cyn symud i Ddinbych-y-pysgod.  Bachgen lleol yw Simon sy’n cefnogi’r Scarlets, ac mae’n falch o’r cyfle i weithio mewn tref yn agos at ei gartref. Mae’n mwynhau cyfarfod â phobl newydd a chydweithio gydag eraill er mwyn datrys problemau cymunedol ac mae'n disgwyl ymlaen at y sialensiau y bydd pobl Llanelli yn eu gosod ar ei gyfer.

Cyfarfodydd Bro

  • Grŵp Gweithredu Cymunedau Diogelach (Wardiau Glan-y-môr a Thyisha) ar y 3ydd dydd Iau pob mis.

    Neuadd Sant Barnabus, Stryd Llywelyn, Llanelli
    Dydd Iau 17 Mai, 1:30pm

Cymorthfeydd

  • Rhwng 3-4pm a 7-8pm ar Dydd Mawrth 2af o bob mis

    Maes Y Gors
    Dydd Mawrth 12 Mehefin, 1:00am