Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Tref a Phrifysgol Aberystwyth

Y posibiliad o ail-osod camera TCC ar waelod heol Tan-y-Cae

  • Dydd Mercher, Hydref 20, 2010
    Iau 17 Chwef 2011

    Trafodwyd y mater yng nghyfarfodydd y cyngor yn ddiweddar yn ogystal â’r cyfarfod economi gyda’r nos diweddaraf. Cyn gynted ag y bydd arian ar gael, gobeithir cael camera symudol i’w osod ar waelod Tan-y-cae.

Cerbydau’n parcio ar y palmentydd gan achosi rhwystr weithiau ar Stryd y Crwynwr

  • Dydd Mercher, Hydref 20, 2010
    Iau 17 Chwef 2011

    Siaradwyd â’r achwynydd a thynnwyd sylw wardeniaid traffig a PCSOs y dref at y mater. Byddant hwy yn cadw llygad ar yr ardal wrth batrolio gan ddelio’n briodol ag unrhyw gerbydau sy’n torri’r gyfraith.

Sarjant Delme Rees 515

  • Cychwynnodd y PS Delme Rees yn ei rôl fel Sarjant Tîm Plismona Bro ym mis Hydref 2009. Mae’n dod yn wreiddiol o Gaerfyrddin ond cychwynnodd ei yrfa fel heddwas gyda Heddlu Swydd Derby lle bu’n gwasanaethu am dair blynedd fel Swyddog Plismona Bro cyn trosglwyddo i Heddlu Dyfed-Powys ym mis Hydref 2006. Bu’n gweithio yn Llambed yn y lle cyntaf, yna cafodd dyrchafiad yn Sarjant a symud i Aberystwyth lle’r oedd yn gyfrifol am swyddogaethau Ymateb a’r Ddalfa, cyn dod i’w swydd gyfredol.  Meddai, “Rwy’n disgwyl ymlaen at weithio gyda’r Tîm Plismona Bro, y partner asiantaethau a’r cymunedau lleol er mwyn mynd i’r afael â’r materion sy’n achosi’r pryder mwyaf i’n cymunedau.”

PC Neil Thompson 235

  • Mae PC Neil Thompson wedi bod gyda’r gwasanaeth ers dros 14 mlynedd, ac arferai weithio yn Nhref Aberystwyth cyn symud i’r Adran Wledig. Yn 2007, dychwelodd i Aberystwyth a’i swydd gyfredol fel Swyddog Plismona Bro gyda chyfrifoldeb am y dref a’r Brifysgol.

PC Mark Jones 1072

  • Mae PC Mark Jones wedi bod yn heddwas ers 2001. Treuliodd y rhan fwyaf o’i amser gyda’r Heddlu yn ardal De Ceredigion, cyn dod yn Swyddog Plismona Bro yn adran Aberystwyth Wledig ym mis Hydref 2006

Cymorthfeydd

  • Dydd Mercher 1at o bob mis

    Siop Spar yn Terrace Road
    Dydd Mercher 7 Mawrth, 2:00pm - 3:00pm
  • Bob dydd Mawrth

    Y Brifysgol (PCA) yn Undeb y Myfyrwyr
    Dydd Mawrth 14 Chwefror, 1:00pm - 2:00pm