Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Aberteifi Wledig

Dosbarthu sticeri gyda rhifau darparwyr gwasanaeth / cysylltiadau mewn argyfwng (gan gynnwys gwybodaeth ynghylch galwyr diwahoddiad a thwyll ffôn)

  • Beulah
    Dydd Llun, Hydref 10, 2011
    Mer 12 Hyd 2011
    Amh.

Sbwriel a goryrru

  • Ferwig
    Dydd Llun, Hydref 10, 2011
    Mer 12 Hyd 2011
    Amh.

Dosbarthu taflenni mewn perthynas ag atal lladradau olew a’r gwasanaeth Fan Bobby

  • Penbryn
    Dydd Llun, Hydref 10, 2011
    Mer 12 Hyd 2011
    Amh.

Gyrwyr yn goryrru

  • Penparc, Llechryd
    Dydd Iau, Gorffennaf 15, 2010
    Llun 20 Meh 2011
    Amh.

    17/05/11 - Mae Swyddogion Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru yn ymweld â Ward Penparc yn rheolaidd gyda’i fan Cyflymdra, a mae’r Tîm Plismona Cymdogaeth yn rhedeg ymgyrch “Darllenwch Eich Cyflymdra” ynghyd ag Uned Plismona Ffyrdd sydd yn rhoi hysbysiadau Cosb Benodedig i droseddwyr yn Llechryd.

    15/07/10 - Bu Uned Plismona’r Ffyrdd yn gorfodi’r cyfyngiadau cyflymder a chynhaliwyd patrolau gweladwy rheolaidd gan gynnwys mentrau ‘Dangos eich Cyflymder’.

Goryrru ym Mlaenannerch a thu allan i Ysgol Aberporth

  • Ward Aberporth
    Dydd Llun, Chwefror 28, 2011
    Llun 20 Meh 2011
    Amh.

    17/05/11 - Uned Plismona Ffyrdd yn ymgyrchu yn yr ardal ynghyd a’r Tîm Plismona Cymdoageth yn cynnal Ymgyrch Darllenwch Eich Cyflymdra yn yr ardal.

Parcio thu allan i Ysgol Aberporth

  • Ward Aberporth
    Dydd Llun, Chwefror 28, 2011
    Llun 20 Meh 2011
    Amh.

    17/05/11 - Ymgynhoriad yn cael eu wneud trwy gydweithrediad Hyder, Cyngor Sir Ceredigion a’r Heddlu ayb. Cyn hyn fe ddanfonwyd llythyrau i’r rhieni trwy gydweithrediad yr Ysgol, a fe fuodd patrol ar droed tu fas i’r Ysgol gan aelodau o’r Tîm Plismona Cymdogaeth.

Baeddu Cwn, Aberporth a Parcllyn

  • Ward Aberporth
    Dydd Mawrth, Mai 17, 2011
    Llun 20 Meh 2011
    Amh.

Blaenoriaethau Blaenorol

Arolygydd Louise Bradshaw 2083

  • Louise Bradshaw

    Ganed yr Arolygydd Louise Bradshaw yn Lloegr ond yna symudodd i Gymru gan fynychu Ysgol Gyfun Aberaeron a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth cyn ymuno â Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr.  Dychwelodd i Geredigion yn 2002 gyda’i theulu a bu’n gweithio mewn gwahanol fannau ar draws y sir.  Mae ganddi brofiad amrywiol ac eang gan iddi weithio mewn dinasoedd ac ardaloedd gwledig ac mewn nifer o feysydd megis plismona’r ffyrdd, y ddalfa, cudd-wybodaeth a diogelu’r cyhoedd.

Sarjant Alison Rees 843

  • Ganwyd a magwyd y Sarjant Alison Rees yn Sir Benfro. Ymunodd â Heddlu Afon a Gwlad yr Haf yn 1986 a threuliodd 8 mlynedd ym Mryste cyn trosglwyddo yn ôl ‘adref’ i Ddyfed-Powys yn 1994. Ar ôl dychwelyd, fe’i lleolwyd yng Ngorsaf Heddlu Aberteifi, lle mae wedi gwasanaethu fel Cwnstabl a Sarjant. Ym mis Ionawr 2007 ymunodd â’r Tîm Plismona Bro, a hi sy’n gyfrifol am oruchwylio’r Swyddogion Bro yng Nghanolbarth a De Ceredigion.

PC Alun Jones 616

  • Mae PC Alun Jones wedi gwasanaethu fel Heddwas gyda Heddlu Dyfed-Powys ers dros ugain mlynedd. Treuliodd ddwy flynedd yn Y Drenewydd ym Mhowys ac ers hynny mae wedi gweithio yn Hendy-gwyn, Pencadlys yr Heddlu yng Nghaerfyrddin, Llambed, Llandysul, ac Aberaeron. Mae wedi bod yn aelod o’r Tîm Plismona Bro sy’n gyfrifol am ardal Aberteifi Wledig ers mis Hydref 2006.

PCSO Heather Cave 8044

  • Mae Heather Cave wedi bod yn PCSO yn ardaloedd Tref Aberteifi, Aberteifi Wledig a Llandysul, gan weithio o Orsaf Heddlu Aberteifi, ers mis Ionawr 2007. Cyn dod yn PCSO, roedd yn gweithio fel Swyddog Cyswllt i Adran Dai Cyngor Ceredigion a chyn hynny, bu’n gweithio gyda Prism fel swyddog prosiect Cyfiawnder Troseddol a Chydlynydd Cyswllt Ysbytai. Fe’i magwyd yng Ngogledd Sir Benfro ac aeth i Ysgol y Preseli.

Digwyddiadau

  • Gan gynnwys cyflwyniad gan Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.

    Tafarn Gogerddan, Tan y Groes

Cyfarfodydd Bro

  • Neuadd Bentref Aberporth/Marchnad Wledig